Hawlio ad-daliad treth
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael ad-daliad treth os ydych wedi talu gormod o dreth. Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i weld sut i hawlio os gwnaethoch dalu gormod ar y canlynol:
- cyflog o’ch swydd bresennol neu flaenorol
- taliadau pensiwn
- incwm o flwydd-dal bywyd neu flwydd-dal pensiwn
- taliad diswyddo
- Ffurflen Dreth Hunanasesiad
- llog o gynilion neu Yswiriant Diogelu Taliadau (PPI)
- incwm tramor
- incwm y DU os ydych yn byw dramor
- costau tanwydd neu ddillad gwaith ar gyfer eich swydd
Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).