Cyfrifo a oes angen i chi dalu

Mae’n rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf pan fyddwch yn gwerthu ased, os yw cyfanswm eich enillion trethadwy dros eich lwfans Treth Enillion Cyfalaf blynyddol.

Cyfrifo cyfanswm eich enillion trethadwy

  1. Cyfrifwch yr ennill ar gyfer pob ased (neu ar gyfer eich cyfran chi o ased, os ydyw mewn perchnogaeth ar y cyd). Gwnewch hyn ar gyfer yr eiddo personol (yn agor tudalen Saesneg), y cyfranddaliadau neu fuddsoddiadau (yn agor tudalen Saesneg), yr eiddo yn y DU neu’r asedion busnes (yn agor tudalen Saesneg) rydych wedi’u gwaredu yn y flwyddyn dreth.

  2. Adiwch yr enillion o bob ased at ei gilydd.

  3. Didynnwch unrhyw golledion caniataol.

Mae’r flwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.

Bydd angen i chi roi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf a’i thalu os yw’ch enillion trethadwy dros eich lwfans.

Os yw cyfanswm eich enillion yn llai na’r lwfans rhydd o dreth

Does dim rhaid i chi dalu treth os yw cyfanswm eich enillion trethadwy yn llai na’ch lwfans Treth Enillion Cyfalaf.

Os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer Hunanasesiad, mae angen i chi roi gwybod am eich enillion ar eich Ffurflen Dreth os oedd cyfanswm y swm y gwnaethoch werthu’r asedau amdano yn fwy na:

  • £50,000 o’r flwyddyn dreth 2023 i 2024 ymlaen,
  • 4 gwaith yn fwy na’ch lwfans – ar gyfer y blynyddoedd treth cyn blwyddyn dreth 2023 i 2024

Mae rheolau gwahanol ar gyfer rhoi gwybod am golled.

Os ydych yn ddibreswyl

Mae angen i chi roi gwybod i CThEF pan fyddwch yn gwerthu eiddo neu dir (yn agor tudalen Saesneg), hyd yn oed os yw’ch ennill o dan y lwfans rhydd o dreth neu os ydych yn gwneud colled. Nid yw pobl sy’n ddibreswyl yn talu treth ar enillion cyfalaf eraill.