Cyfraddau Treth Enillion Cyfalaf

Mae’n bosibl y byddwch yn talu cyfradd dreth ar enillion o fusnesau sy’n wahanol i’r gyfradd y byddwch yn ei thalu ar asedion eraill.

Yn lle hynny, byddwch yn talu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar fuddiant a drosglwyddir rydych yn ei gael o 6 Ebrill 2026 ymlaen.

Os ydych yn talu Treth Incwm cyfradd uwch

Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch neu gyfradd ychwanegol, byddwch yn talu 24% ar yr enillion o 6 Ebrill 2026 ymlaen.

Gallwch weld y cyfraddau a lwfansau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol.

Os ydych yn talu Treth Incwm cyfradd sylfaenol

Os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol, mae’r gyfradd rydych yn ei thalu ar enillion rydych yn eu cael o 6 Ebrill 2026 ymlaen yn dibynnu ar faint eich enillion a’ch incwm trethadwy.

Gallwch weld y cyfraddau a lwfansau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol.

I gyfrifo’ch cyfradd:

  1. Cyfrifwch faint o incwm trethadwy sydd gennych – dyma’ch incwm llai’ch Lwfans Personol ac unrhyw ryddhad Treth Incwm arall y mae gennych hawl iddo.

  2. Cyfrifwch gyfanswm eich enillion trethadwy.

  3. Didynnwch eich lwfans rhydd o dreth oddi wrth gyfanswm eich enillion trethadwy.

  4. Adiwch y swm hwn at eich incwm trethadwy.

  5. Os yw’r swm hwn o fewn y band Treth Incwm sylfaenol, byddwch yn talu 18% ar yr enillion a wnewch o 6 Ebrill 2026 ymlaen.

  6. Ar gyfer unrhyw swm sydd dros y band Treth Incwm sylfaenol, byddwch yn talu 24% ar enillion a wneir o 6 Ebrill 2026 ymlaen.

Enghraifft 1

Rydych yn gwneud enillion ar neu ar ôl 6 Ebrill 2026. Mae’ch incwm trethadwy (sef eich incwm llai’ch Lwfans Personol ac unrhyw ryddhad Treth Incwm) yn £20,000, ac mae’ch enillion trethadwy yn £12,600.  

Yn gyntaf, didynnwch y lwfans rhydd o Dreth Enillion Cyfalaf oddi wrth eich enillion trethadwy. Ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027, y lwfans yw £3,000 sy’n gadael £9,600 i dalu treth arno. 

Adiwch hwn at eich incwm trethadwy. Oherwydd bod y swm cyfunol, sef £29,600, yn llai na £37,700 (sef y band cyfradd sylfaenol ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027), rydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar gyfradd o 18%.  

Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu £1,728 mewn Treth Enillion Cyfalaf.

Enghraifft 2

Rydych yn gwneud enillion ar neu ar ôl 6 Ebrill 2026. Mae’ch incwm trethadwy (sef eich incwm llai’ch Lwfans Personol ac unrhyw ryddhad Treth Incwm) yn £20,000, ac mae’ch enillion trethadwy yn £52,600.

Yn gyntaf, didynnwch y lwfans rhydd o Dreth Enillion Cyfalaf oddi wrth eich enillion trethadwy. Ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027, y lwfans yw £3,000 sy’n gadael £49,600 i dalu treth arno. 

Adiwch hwn at eich incwm trethadwy. Oherwydd bod y swm cyfunol, sef £69,600, yn fwy na £37,700 (sef y band cyfradd sylfaenol ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027), rydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar gyfradd o 18% ar £17,700 ac yna 24% ar £31,900.

Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu £10,842.

Os ydych yn ymddiriedolwr, yn gynrychiolydd personol neu’n fusnes

Mae ymddiriedolwyr, neu gynrychiolwyr personol rhywun sydd wedi marw, yn talu 24% ar yr enillion o 6 Ebrill 2026 ymlaen.

Gallwch weld y cyfraddau a lwfansau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol.

Os ydych yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes

O 6 Ebrill 2026 ymlaen, byddwch yn talu 18% os ydych yn unig fasnachwr, yn bartneriaeth neu’n ymddiriedolwr, a bod eich enillion yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch weld y cyfraddau a lwfansau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol.

Os oes gennych enillion sy’n cael eu trethu ar fwy nag un gyfradd

Gallwch ddefnyddio’ch lwfans rhydd o dreth yn erbyn yr enillion a fyddai’n cael eu trethu ar y cyfraddau uchaf (er enghraifft, lle y byddech yn talu treth ar gyfradd o 24% ac 18%).

Gallwch weld y cyfraddau a lwfansau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol.