Cyfraddau a Lwfansau Treth Enillion Cyfalaf
Defnyddiwch y cyfraddau a’r lwfansau hyn ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf er mwyn cyfrifo cyfanswm eich enillion sydd dros eich lwfans rhydd o dreth, sef y swm blynyddol wedi’i esemptio.
Byddwch yn cael lwfans rhydd o dreth ar gyfer pob blwyddyn dreth, sef y swm blynyddol wedi’i esemptio (AEA). Os ydych yn agored i Dreth Enillion Cyfalaf ar gyfer y flwyddyn honno ni fyddwch yn gymwys i gael AEA os byddwch yn gwneud hawliad ar gyfer un o’r canlynol:
- cyfundrefn incwm ac enillion tramor (FIG) (yn agor tudalen Saesneg)
- Rhyddhad Diwrnod Gwaith Dramor (OWR) (yn agor tudalen Saesneg)
Rydych ond yn talu Treth Enillion Cyfalaf os yw cyfanswm eich enillion ar gyfer blwyddyn dreth (ar ôl didynnu unrhyw golledion a defnyddio unrhyw ryddhadau) yn uwch na’r swm blynyddol wedi’i esemptio.
Mae un swm blynyddol wedi’i esemptio ar gyfer y canlynol:
- y mwyafrif o bobl sy’n byw yn y DU
- ysgutorion neu gynrychiolwyr personol ystâd person sydd wedi marw
- ymddiriedolwyr ar gyfer pobl anabl
Ar gyfer y mwyafrif o ymddiriedolwyr eraill, mae swm blynyddol wedi’i esemptio sy’n is yn berthnasol iddynt. Dysgwch ragor am ymddiriedolaethau a Threth Enillion Cyfalaf.
Mae person nad yw’n breswylydd yn y DU sydd yn gwaredu eiddo preswyl yn y DU yn agored i Dreth Enillion Cyfalaf, ac yn y mwyafrif o achosion yn cael y swm blynyddol wedi’i esemptio yn yr un modd â phreswylydd yn y DU. Nid yw hwn ar gael i gwmnïau sy’n gwaredu eiddo preswyl yn y DU, gan ei fod yn bosibl iddynt hawlio lwfansau eraill.
Terfynau’r Swm Blynyddol wedi’i Esemptio
Gallwch ddefnyddio’ch swm blynyddol wedi’i esemptio yn erbyn yr enillion sy’n cael eu trethu ar y cyfraddau uchaf er mwyn lleihau’r cyfanswm o dreth sydd arnoch.
| Blwyddyn Dreth | Swm Blynyddol wedi’i Esemptio ar gyfer unigolion, cynrychiolwyr personol ac ymddiriedolwyr ar gyfer pobl anabl | Swm Blynyddol wedi’i Esemptio ar gyfer ymddiriedolwyr eraill |
|---|---|---|
| 2025 i 2026 | £3,000 | £1,500 |
| 2024 i 2025 | £3,000 | £1,500 |
| 2023 i 2024 | £6,000 | £3,000 |
| 2022 i 2023 | £12,300 | £6,150 |
| 2021 i 2022 | £12,300 | £6,150 |
| 2020 i 2021 | £12,300 | £6,150 |
Ysgutorion a chynrychiolwyr personol
Fel cynrychiolydd personol (boed yn ysgutor neu’n weinyddwr) ar gyfer ystâd person sydd wedi marw, mae’n bosibl y cewch y swm blynyddol wedi’i esemptio yn llawn yn ystod y cyfnod gweinyddu.
Mae’r cyfnod gweinyddu yn dechrau ar ddyddiad y farwolaeth hyd nes y dyddiad mae bob dim wedi eu trosglwyddo i’r buddiolwyr.
Mae’r hawl gennych i ddefnyddio’r swm blynyddol wedi’i esemptio yn ystod y flwyddyn y digwyddodd y farwolaeth, a’r 2 flwyddyn dreth ganlynol. Golyga hyn y gallwch hawlio un swm blynyddol wedi’i esemptio yn erbyn enillion ym mhob un o’r blynyddoedd hynny. O’r flwyddyn dreth nesaf ymlaen, ni fyddwch yn cael lwfans rhydd o dreth yn erbyn enillion yn ystod y cyfnod gweinyddu.
Dysgwch ragor am sut i ddelio ag ystâd rhywun sydd wedi marw.
Ymddiriedolwyr ar gyfer pobl anabl
Fel ymddiriedolwr ar gyfer person anabl, dylech ddefnyddio’r ffigurau sydd yn yr adran ‘Unigolion, cynrychiolwyr personol ac ymddiriedolwyr ar gyfer pobl anabl’.
At ddibenion Treth Enillion Cyfalaf, mae person anabl yn golygu person sydd â chyflwr iechyd meddygol, neu berson sy’n cael budd-dal cymwys.
Dysgwch ragor am y canlynol:
- budd-daliadau cymwys mewn ymddiriedolaethau ar gyfer pobl sy’n agored i niwed
- Treth Enillion Cyfalaf ac ymddiriedolaethau (yn agor tudalen Saesneg)
Os nad yw eich domisil yn y DU ar a hyd at 5 Ebrill 2025
Mae’n bosibl nad yw eich domisil yn y DU, er enghraifft os cawsoch eich geni mewn gwlad dramor ac yn bwriadu dychwelyd yno.
Os nad yw eich domisil yn y DU, mae’n bosibl eich bod wedi hawlio’r sail trosglwyddo os oedd gennych incwm ac enillion tramor, ac wedi penderfynu ei fod o fudd i chi drethu’r incwm a’r enillion hynny wrth iddynt ddod i mewn i’r DU. Gallwch ond hawlio’r sail trosglwyddo ar gyfer blynyddoedd treth hyd at, a chan gynnwys, 2024 i 2025.
Ni fyddwch yn cael y swm blynyddol wedi’i esemptio ar gyfer blynyddoedd treth y gwnaethoch hawlio’r sail trosglwyddo.
Mae problemau ynghylch domisil a threth ar enillion tramor yn gymhleth.
Er mwyn dysgu rhagor, darllenwch yr arweiniad ynghylch Man preswylio, domisil a sail y taliad: RDR1 (yn agor tudalen Saesneg), a chysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Os ydych yn breswylydd newydd cymwys o 6 Ebrill 2025 ymlaen
O 6 Ebrill 2025 ymlaen mae rheolau arbennig ar waith i breswylwyr newydd cymwys.
Rydych yn breswylydd newydd cymwys os yw’r canlynol yn wir amdanoch:
- rydych yn breswylydd yn y DU (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) at ddibenion treth o dan y Prawf Preswylio Statudol (SRT) (yn agor tudalen Saesneg)
- rydych o fewn eich 4 blynedd cyntaf fel preswylydd yn y DU at ddibenion treth, yn dilyn cyfnod a oedd o leiaf 10 mlynedd fel person nad oedd yn breswylydd yn y DU at ddibenion treth
Gallwch ddarllen rhagor ynghylch preswylwyr newydd cymwys yn y llawlyfr RFIG44000 (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd preswylydd newydd cymwys ar gyfer blwyddyn dreth yn parhau i fod yn gymwys am y cyfnod canlynol o 3 blynedd lle bydd yn breswylydd yn y DU, fel ei fod yn breswylydd newydd cymwys am hyd at 4 blynedd.
Fel preswylydd newydd cymwys, gallwch hawlio’r gyfundrefn FIG. Bydd hyn yn eich caniatáu i hawlio rhyddhad ar eich incwm ac enillion tramor.
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer OWR, a fydd hefyd ar gael ar sail trosiannol os gwnaethoch hawlio OWR o dan y rheolau blaenorol.
Ni allwch gael swm blynyddol wedi’i esemptio ar gyfer blwyddyn dreth os gwnaethoch hawlio un o’r canlynol yn ystod y flwyddyn honno:
- cyfundrefn incwm ac enillion tramor (yn agor tudalen Saesneg)
- Rhyddhad Diwrnod Gwaith Dramor (OWR) — darllenwch yr arweiniad ynghylch Cyflogai sy’n symud yn rhyngwladol — Rhyddhad Diwrnod Gwaith Dramor (yn agor tudalen Saesneg)
Cyfraddau ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf
Mae’r gyfradd Treth Enillion Cyfalaf y byddwch yn ei defnyddio yn dibynnu ar gyfanswm eich incwm trethadwy, felly ewch ati i gyfrifo’r swm hwnnw yn gyntaf.
O 6 Ebrill 2025 ymlaen
Dyma’r cyfraddau Treth Enillion Cyfalaf:
- 18% a 24% i unigolion (heb gynnwys enillion o fuddiant a drosglwyddir (yn agor tudalen Saesneg))
- 32% i unigolion ar gyfer enillion o fuddiant a drosglwyddir
- 24% i ymddiriedolwyr
- 24% i gynrychiolwyr personol i rywun sydd wedi marw (heb gynnwys enillion o fuddiant a drosglwyddir)
- 32% o ran enillion o fuddiant a drosglwyddir i gynrychiolwyr personol i rywun sydd wedi marw
- 14% i enillion sy’n gymwys ar gyfer Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg) a Rhyddhad Buddsoddwyr (yn agor tudalen Saesneg)
O 30 Hydref 2024 i 5 Ebrill 2025
Dyma’r cyfraddau Treth Enillion Cyfalaf:
- 18% a 24% i unigolion (heb gynnwys enillion o fuddiant a drosglwyddir (yn agor tudalen Saesneg))
- 18% a 28% i unigolion ar gyfer enillion o fuddiant a drosglwyddir
- 24% i ymddiriedolwyr
- 24% i gynrychiolwyr personol i rywun sydd wedi marw (heb gynnwys enillion o fuddiant a drosglwyddir)
- 28% o ran enillion o fuddiant a drosglwyddir i gynrychiolwyr personol i rywun sydd wedi marw
- 10% i enillion sy’n gymwys ar gyfer Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg) a Rhyddhad Buddsoddwyr (yn agor tudalen Saesneg)
O 6 Ebrill 2024 i 29 Hydref 2024
Dyma’r cyfraddau Treth Enillion Cyfalaf:
- 10% a 20% i unigolion (heb gynnwys enillion o eiddo preswyl nac enillion o fuddiant a drosglwyddir (yn agor tudalen Saesneg))
- 18% a 24% i unigolion ar gyfer enillion o eiddo preswyl
- 18% a 28% i unigolion ar gyfer enillion o fuddiant a drosglwyddir
- 20% i ymddiriedolwyr (heb gynnwys enillion o eiddo preswyl)
- 24% i ymddiriedolwyr ar gyfer enillion o eiddo preswyl
- 20% i gynrychiolwyr personol i rywun sydd wedi marw (heb gynnwys enillion o eiddo preswyl nac enillion o fuddiant a drosglwyddir)
- 24% o ran enillion o eiddo preswyl i gynrychiolwyr personol i rywun sydd wedi marw
- 28% o ran enillion o fuddiant a drosglwyddir i gynrychiolwyr personol i rywun sydd wedi marw
- 10% i enillion sy’n gymwys ar gyfer Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg) a Rhyddhad Buddsoddwyr (yn agor tudalen Saesneg)
O 6 Ebrill 2019 i 5 Ebrill 2024
Dyma’r cyfraddau Treth Enillion Cyfalaf:
- 10% a 20% i unigolion (heb gynnwys enillion o eiddo preswyl nac enillion o fuddiant a drosglwyddir)
- 18% a 28% i unigolion ar gyfer enillion o eiddo preswyl ac enillion o fuddiant a drosglwyddir
- 20% i ymddiriedolwyr (heb gynnwys enillion o eiddo preswyl)
- 28% i ymddiriedolwyr ar gyfer enillion o eiddo preswyl
- 20% i gynrychiolwyr personol i rywun sydd wedi marw (heb gynnwys enillion o eiddo preswyl nac enillion o fuddiant a drosglwyddir)
- 28% o ran enillion o eiddo preswyl ac enillion o fuddiant a drosglwyddir i gynrychiolwyr personol i rywun sydd wedi marw
- 10% i enillion sy’n gymwys ar gyfer Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg) — Rhyddhad Entrepreneuriaid gynt, a Rhyddhad Buddsoddwyr (yn agor tudalen Saesneg)
Updates to this page
-
New section 'If you're a qualifying new resident from 6 April 2025' has been added. Updated to include Overseas Workday Relief (OWR) and foreign income and gains regime.
-
Annual exempt amount limits and rates for Capital Gains Tax have been updated for the 2025 to 2026 tax year.
-
Annual exempt amount limits and rates for Capital Gains Tax have been updated for the 2024 to 2025 tax year.
-
Annual exempt amount limits have been updated.
-
Annual exempt amount limits have been added for 2022 to 2023.
-
AEA limits have been added for 2020 to 2021.
-
First published.