Ymddiriedolaethau ar gyfer pobl sy’n agored i niwed

Mae rhai ymddiriedolaethau ar gyfer plant neu bobl ag anabledd yn cael triniaeth treth arbennig. Gelwir y rhain yn ‘ymddiriedolaethau ar gyfer buddiolwyr sy’n agored i niwed’.

Pwy sy’n gymwys fel buddiolwr sy’n agored i niwed

Buddiolwr sy’n agored i niwed yw rhywun sydd naill ai o dan 18 oed sydd â rhiant wedi marw neu berson anabl sy’n gymwys ar gyfer unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol (hyd yn oed os nad yw’n eu cael):

Gall buddiolwr sy’n agored i niwed hefyd fod yn rhywun na all reoli’i faterion ei hun oherwydd cyflwr iechyd meddwl - gwiriwch gyda gweithiwr meddygol proffesiynol ei fod wedi’i gwmpasu gan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

Ymddiriedolaethau sy’n gymwys ar gyfer triniaeth treth arbennig

Nid yw ymddiriedolaeth yn gymwys ar gyfer triniaeth Treth Incwm arbennig os yw’r person sy’n ei chreu yn gallu elwa o incwm yr ymddiriedolaeth. Fodd bynnag, o 2008 i 2009 byddai’n gymwys ar gyfer triniaeth Treth Enillion Cyfalaf arbennig.

Fel arfer caiff ymddiriedolaethau ar gyfer plant sydd wedi colli rhiant eu creu yn ôl ewyllys rhiant, neu yn ôl rheolau arbennig etifeddiaeth os nad oes ewyllys.

Os yw rhywun yn marw heb ewyllys yn yr Alban, mae ymddiriedolaeth a grëwyd yno ar gyfer eu plant fel arfer yn cael ei thrin fel ymddiriedolaethau gwag at ddibenion treth.

Os oes mwy nag un buddiolwr

Os oes buddiolwyr sydd ddim yn agored i niwed, mae’n rhaid i’r asedion a’r incwm ar gyfer y buddiolwr sy’n agored i niwed:

  • wedi eu nodi a’u cadw ar wahân
  • eu defnyddio ar gyfer y person hwnnw yn unig

Dim ond y rhan honno o’r ymddiriedolaeth sy’n cael triniaeth treth arbennig.

Hawlio triniaeth treth arbennig

Er mwyn hawlio triniaeth arbennig ar gyfer Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf, rhaid i’r ymddiriedolwyr lenwi’r ffurflen ‘Dewis Person sy’n Agored i Niwed’.

Os oes mwy nag un buddiolwr sy’n agored i niwed, mae angen ffurflen ar wahân ar bob un ohonynt.

Rhaid i’r ymddiriedolwyr a’r buddiolwr lofnodi’r ffurflen.

Os yw’r person sy’n agored i niwed yn marw neu os nad yw’n agored i niwed mwyach, mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr roi gwybod i CThEF (yn agor tudalen Saesneg).

Treth Incwm

Mewn ymddiriedolaeth sydd â buddiolwr sy’n agored i niwed, mae’r ymddiriedolwyr â’r hawl i gael didyniad yn eu Treth Incwm. Fe’i cyfrifir drwy’r dull canlynol:

  1. Mae ymddiriedolwyr yn cyfrifo beth fyddai Treth Incwm eu hymddiriedolaeth os nad oedd hawliad am driniaeth arbennig - bydd hyn yn newid yn ôl pa fath o ymddiriedolaeth ydyw.

  2. Maent wedyn yn cyfrifo’r Dreth Incwm y byddai’r person sy’n agored i niwed wedi ei thalu pe bai incwm yr ymddiriedolaeth wedi’i dalu yn uniongyrchol iddynt fel unigolyn.

  3. Gallant yna hawlio’r gwahaniaeth rhwng y 2 ffigur hyn fel didyniad o’u rhwymedigaeth Treth Incwm eu hunain.

Mae hwn yn gyfrifiad cymhleth ond mae enghraifft fanwl wedi’i chyfrifo (yn agor tudalen Saesneg) ar wefan CThEF.

Treth Enillion Cyfalaf

Mae’n bosibl y bydd Treth Enillion Cyfalaf yn ddyledus os bydd asedion yn cael eu gwerthu, eu rhoi i ffwrdd, eu cyfnewid neu eu trosglwyddo drwy ddull arall, a bod eu gwerth wedi cynyddu ers iddynt gael eu rhoi mewn ymddiriedolaeth.

Yr unig adeg y mae ymddiriedolwyr yn talu’r dreth yw pan fo gwerth yr asedion wedi cynyddu i fod dros lwfans rhydd o dreth yr ymddiriedolaeth (sef y ‘swm eithriedig blynyddol’).

Ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, y lwfans rhydd o dreth ar gyfer ymddiriedolaethau yw:

  • £3,000 ar gyfer buddiolwyr sy’n agored i niwed

  • £1,500 ar gyfer ymddiriedolwyr eraill

Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am dalu unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus. Os yw’r ymddiriedolaeth ar gyfer pobl sy’n agored i niwed, gall ymddiriedolwyr hawlio gostyngiad, a hynny drwy’r dull canlynol:

  1. Maent yn cyfrifo’r hyn y byddent yn ei dalu pe na bai gostyngiad.

  2. Maent wedyn yn cyfrifo beth byddai’n rhaid i’r buddiolwr ei dalu pe bai’r enillion wedi dod yn uniongyrchol ato.

  3. Gallant hawlio’r gwahaniaeth rhwng y 2 ffigur hyn fel gostyngiad ar yr hyn y mae’n rhaid iddynt ei dalu mewn Treth Enillion Cyfalaf drwy ddefnyddio ffurflen SA905 (yn agor tudalen Saesneg).

Nid yw’r driniaeth Treth Enillion Cyfalaf arbennig hon yn berthnasol yn y flwyddyn dreth y bu farw’r buddiolwr ynddi.

Treth Etifeddiant

Dyma’r sefyllfaoedd pan mae ymddiriedolaethau ar gyfer pobl sy’n agored i niwed yn cael triniaeth Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) arbennig:

  • ar gyfer person anabl sydd ag ymddiriedolaeth a grëwyd cyn 8 Ebrill 2013 - rhaid i o leiaf hanner y taliadau o’r ymddiriedolaeth fynd at y person anabl yn ystod ei oes
  • ar gyfer person anabl sydd ag ymddiriedolaeth a grëwyd ar ôl 8 Ebrill 2013 - rhaid i’r taliadau fynd at y person anabl, ar wahân i £3,000 y flwyddyn (neu 3% o’r asedion, os yw’n is) a all gael eu defnyddio er budd rhywun arall
  • pan mae rhywun sydd â chyflwr a ddisgwylir eu gwneud yn anabl yn sefydlu ymddiriedolaeth drosto’i hun
  • ar gyfer plentyn dan oed a brofodd brofedigaeth - rhaid iddynt gymryd yr asedion a’r incwm i gyd pan mae’n troi’n 18 oed (neu cyn troi’n 18 oed)

Ni chodir Treth Etifeddiant:

  • os yw’r person a wnaeth greu’r ymddiriedolaeth yn dal i fyw 7 mlynedd ar ôl y dyddiad creu
  • ar drosglwyddiadau a wnaed allan o ymddiriedolaeth i fuddiolwr sy’n agored i niwed

Pan mae buddiolwr yn marw, caiff unrhyw asedion a ddelir yn yr ymddiriedolaeth ar ei ran eu trin fel rhan o’r ystâd a gellir codi Treth Etifeddiant.

Fel arfer mae Treth Etifeddiant yn cael ei chodi bob 10 mlynedd ar ymddiriedolaethau, ond mae eithriad o ran ymddiriedolaethau sydd â buddiolwyr sy’n agored i niwed.