Skip to main content

Cyfraddau

Y cyfraddau ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 yw:

  • £3.65 yr wythnos ar gyfer Dosbarth 2
  • £18.40 yr wythnos ar gyfer Dosbarth 3

Fel arfer, byddwch yn talu’r gyfradd bresennol pan fyddwch yn gwneud cyfraniad gwirfoddol.

Pan fyddwch yn talu cyfraddau gwahanol

Os ydych yn talu cyfraniadau Dosbarth 2 ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol, neu gyfraniadau Dosbarth 3 ar gyfer y 2 flwyddyn dreth flaenorol, byddwch yn talu’r gyfradd wreiddiol ar gyfer y blynyddoedd hynny:

Os ydych yn talu ar gyfer blynyddoedd cynharach, byddwch yn talu’r gyfradd 2026 i 2027.

Os oes gennych fath penodol o swydd

Byddwch yn talu cyfradd Dosbarth 2 (yn agor tudalen Saesneg) arbennig os ydych yn un o’r canlynol:

  • pysgotwr cyfran
  • gweithiwr datblygu gwirfoddol