Cosbau ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Newidiadau i gosbau am gyflwyno’n hwyr a chosbau am dalu’n hwyr os oes rhaid i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o fis Ebrill 2026.
Os ydych chi’n gwirfoddoli i ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm cyn bo rhaid i chi, mae gwybodaeth wahanol ar gyfer cosbau ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Newidiadau i gosbau
Os ydych chi’n defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, bydd cosbau newydd yn disodli’r cosbau presennol am gyflwyno’n hwyr ac am dalu’n hwyr sy’n berthnasol i’ch Ffurflen Dreth bersonol.
Ni fydd y cosbau newydd yn berthnasol i’r Ffurflenni Treth Hunanasesiad canlynol:
-
cwmni dibreswyl (a gyflwynir ar ran y cwmni)
-
ymddiriedolaeth neu ystâd (a gyflwynir gan ymddiriedolwr)
-
partneriaeth (a gyflwynir gan bartner enwebedig)
Bydd y cosbau presennol am dalu’n hwyr ac am gyflwyno’n hwyr yn dal i fod yn berthnasol i’r Ffurflenni Treth hyn.
Nid oes unrhyw newidiadau i sut mae llog am dalu’n hwyr yn gweithio.
Pryd y bydd y cosbau newydd yn berthnasol i chi
Bydd newidiadau i gosbau am gyflwyno’n hwyr a chosbau am dalu’n hwyr yn berthnasol i chi o’r flwyddyn dreth y byddwch chi’n ymuno â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Bydd y cosbau presennol yn dal i fod yn berthnasol i flynyddoedd treth blaenorol. Er enghraifft, os ydych chi’n defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026, bydd y cosbau presennol yn berthnasol i ddyddiad cau eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2025 i 2026, sef 31 Ionawr 2027.
Dyddiadau cau ar gyfer talu a chyflwyno
Mae’r cosbau newydd yn berthnasol os byddwch chi’n colli’r dyddiadau cau ar gyfer anfon eich diweddariadau chwarterol, cyflwyno eich Ffurflen Dreth neu dalu.
Y dyddiad cau i gyflwyno eich Ffurflen Dreth a thalu unrhyw dreth sydd arnoch yw 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.
Diweddariadau chwarterol ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027
Nid oes unrhyw gosbau am golli dyddiad cau ar gyfer diweddariad chwarterol ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027.
Mae angen i chi gadw cofnodion digidol ac anfon diweddariadau chwarterol cyn y gallwch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.
Y dyddiadau cau ar gyfer diweddariadau chwarterol yw:
-
7 Awst
-
7 Tachwedd
-
7 Chwefror
-
7 Mai
Cosbau am gyflwyno’n hwyr
Mae’r cosbau newydd am gyflwyno’n hwyr yn seiliedig ar bwyntiau.
Byddwch chi’n cael pwynt cosb ar gyfer unrhyw ddyddiad cau y byddwch chi’n ei golli ar gyfer diweddariad chwarterol (ar gyfer blynyddoedd treth ar ôl 2026 i 2027) neu ar gyfer Ffurflen Dreth.
Y trothwy ar gyfer pwyntiau cosb yw 4 bwynt. Os ydych chi’n cyrraedd hyn, byddwch chi’n cael:
-
cosb o £200
-
cosb o £200 bob tro y byddwch chi’n colli dyddiad cau cyflwyno arall
Dim ond un pwynt cosb y gallwch ei gael ar gyfer pob dyddiad cau. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os oes gennych fwy nag un busnes ac yn anfon mwy nag un diweddariad chwarterol yn hwyr (ar gyfer blynyddoedd treth ar ôl 2026 i 2027).
Os ydych chi hefyd wedi cofrestru ar gyfer TAW, mae’ch pwyntiau cosb ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar wahân i’ch pwyntiau cosb ar gyfer TAW.
Cosbau am dalu’n hwyr
Mae’r cosbau newydd am dalu’n hwyr yn cael eu cyfrifo ar sail pa mor hir y mae’n ei gymryd i chi dalu’r hyn sydd arnoch.
Mae cosbau am dalu’n hwyr yn berthnasol i daliadau sydd heb eu talu’n llawn, erbyn y dyddiad dyledus perthnasol. Mae hyn yn cynnwys:
-
taliad mantoli ar gyfer swm sydd heb ei dalu ar eich bil treth
-
symiau sy’n ddyledus yn dilyn diwygiad neu asesiad o’ch Ffurflen Dreth
Nid yw cosbau am dalu’n hwyr yn berthnasol i unrhyw daliadau ar gyfrif a allai fod angen i chi eu gwneud.
Os ydych chi’n cael cosb am dalu’n hwyr, mae swm y gosb yn dibynnu ar ba mor hir mae’n ei gymryd i dalu’r hyn sydd arnoch. Po gynted y byddwch chi’n talu’r swm sy’n hwyr, y lleiaf fydd swm y gosb.
Nid yw’r cosbau hyn yn seiliedig ar bwyntiau a byddan nhw’n berthnasol i bob taliad hwyr.
Byddwn hefyd yn codi llog am dalu’n hwyr (yn agor tudalen Saesneg) o’r diwrnod cyntaf y mae’ch taliad yn hwyr, hyd nes y byddwch wedi talu’n llawn.
Pryd y bydd cosbau am dalu’n hwyr yn berthnasol
Yn eich blwyddyn gyntaf o gosbau newydd, mae gennych 30 diwrnod o’r dyddiad talu er mwyn:
-
gwneud taliad llawn
-
cysylltu â CThEF i drefnu cynllun talu
Ar ôl 30 diwrnod, byddwn ni’n dechrau codi cosbau. Ar ôl eich blwyddyn gyntaf, mae hyn yn gostwng i 15 diwrnod.
Dim ond unwaith y byddwch chi’n cael y cyfnod o 30 diwrnod — os ydych chi wedi gwirfoddoli a bo rhaid i chi nawr ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, byddwch chi’n dal i gael 15 diwrnod.
Mae’r tabl canlynol yn dangos sut y bydd cosbau am dalu’n hwyr yn berthnasol, yn dibynnu ar y flwyddyn dreth y mae’r taliad ar ei chyfer.
| Cosbau ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 | Cosbau ar gyfer blwyddyn dreth 2027 i 2028 | |
|---|---|---|
| Taliad hyd at 15 diwrnod yn hwyr | Dim cosb | Dim cosb |
| Taliad 16 i 30 diwrnod yn hwyr | 3% o’r dreth sydd arnoch ar ddiwrnod 15, neu dim cosb os mai dyma’ch blwyddyn gyntaf | 4% o’r dreth sydd arnoch ar ddiwrnod 15, neu dim cosb os mai dyma’ch blwyddyn gyntaf |
| Taliad 31 diwrnod neu fwy yn hwyr | 3% o’r dreth sydd arnoch ar ddiwrnod 15, a 3% o’r dreth sydd arnoch ar ddiwrnod 30 Hefyd, cyfradd flynyddol o 10% y flwyddyn ar y swm sydd heb ei dalu, a godir yn ddyddiol o ddiwrnod 31 hyd nes y bydd y dreth yn cael ei thalu, neu am hyd at 2 flynedd |
4% o’r dreth sydd arnoch ar ddiwrnod 15, a 3% o’r dreth sydd arnoch ar ddiwrnod 30 Hefyd, cyfradd flynyddol o 10% y flwyddyn ar y swm sydd heb ei dalu, a godir yn ddyddiol o ddiwrnod 31 hyd nes y bydd y dreth yn cael ei thalu, neu am hyd at 2 flynedd |
Os na allwch dalu mewn pryd
Cysylltwch â CThEF cyn gynted â phosibl os ydych yn cael trafferth i dalu eich Treth Incwm erbyn y dyddiad cau.
Gallwch osgoi cosbau drwy gysylltu â CThEF cyn gynted â phosibl i drafod a allwch drefnu cynllun talu a thalu fesul rhandaliad.
Os cytunir ar gynllun talu ac rydych chi’n gwneud y taliadau, bydd cosbau yn cael eu rhewi o’r dyddiad y byddwch chi’n cysylltu â ni.
Efallai y codir cosb arnoch os:
-
nad oes modd cytuno ar gynllun talu
-
nad ydych chi’n dilyn y cynllun y cytunwyd arno
Dileu pwyntiau cosb a chosbau
Os ydych chi o dan y trothwy 4 pwynt, byddwn yn dileu pob pwynt yn awtomatig 24 mis ar ôl y dyddiad cau a gollwyd.
Os byddwch chi’n cyrraedd y trothwy 4 bwynt, ni fydd pwyntiau unigol yn cael eu dileu’n awtomatig. Yn lle hynny, bydd angen i chi fodloni 2 amod i ddileu’ch holl bwyntiau cosb.
I ddileu’ch holl bwyntiau cosb mae angen:
-
anfon eich diweddariadau chwarterol a chyflwyno eich Ffurflen Dreth mewn pryd am 12 mis
-
anfon unrhyw ddiweddariadau chwarterol sydd heb eu hanfon a chyflwyno unrhyw Ffurflenni Treth sydd heb eu cyflwyno ar gyfer y 24 mis blaenorol
Gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF i weld y dyddiad y bydd eich pwyntiau’n cael eu dileu.
Mewn rhai amgylchiadau eithriadol, fel ansolfedd, gall CThEF ganslo cosb neu bwynt cosb, neu ddileu’r holl bwyntiau cosb.
Gwneud apêl
Byddwn yn anfon llythyr atoch os byddwch yn cael un o’r canlynol:
-
cosb am dalu’n hwyr
-
pwynt cosb am gyflwyno’n hwyr
-
cosb o £200 am gyflwyno’n hwyr
Os nad ydych chi’n cytuno â’r pwynt cosb neu’r gosb, gallwch apelio. Bydd eich llythyr yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hyn.
Os ydych chi’n dod yn esempt
Os bydd eich amgylchiadau’n newid, mae’n bosib y gallwch ddod yn esempt rhag defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os byddwch yn dod yn esempt ym mlwyddyn dreth 2026 i 2027, byddwch yn dychwelyd i’r cosbau presennol am dalu’n hwyr ac am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Hunanasesiad.
Os byddwch yn dod yn esempt ym mlwyddyn dreth 2027 i 2028:
-
byddwch yn aros o dan y cosbau newydd — o fis Ebrill 2027, bydd y cosbau newydd yn berthnasol i bawb sy’n cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad bersonol
-
bydd trothwy’ch pwyntiau cosb yn gostwng o 4 bwynt i 2 bwynt
Os oes eisoes gennych bwynt cosb
Os oes eisoes gennych bwynt cosb pan fydd trothwy’ch pwyntiau yn newid o 4 i 2, bydd eich pwyntiau yn gostwng fel nad ydych yn agosach at eich trothwy newydd.
Er enghraifft, os oes gennych 3 phwynt cosb, rydych chi 1 pwynt i ffwrdd o’ch trothwy 4 pwynt. Os byddwch wedyn yn dod yn esempt, byddai’ch pwyntiau yn gostwng i 1. Mae hyn yn golygu y byddwch dal i fod 1 pwynt i ffwrdd o’r trothwy 2 bwynt.