Anfon diweddariadau chwarterol
Sut a phryd i anfon diweddariad-au chwarterol, yn seiliedig ar eich cyfnod cyfrifyddu.
Bob 3 mis, bydd eich meddalwedd sy’n cydweddu yn ychwanegu eich cofnodion digidol at ei gilydd ar gyfer pob busnes sydd gennych. Mae hyn yn creu cyfansymiau ar gyfer eich treuliau a’ch incwm o hunangyflogaeth ac eiddo. Gelwir y rhain yn ddiweddariadau chwarterol — crynodebau ydyn nhw, nid Ffurflenni Treth.
Defnyddiwch eich meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, i anfon eich diweddariadau chwarterol at CThEF bob 3 mis ar gyfer pob busnes hunangyflogaeth ac eiddo sydd gennych.
Dylai fod gan eich darparwr meddalwedd arweiniad ar sut i wneud hyn. Ni all CThEF roi cyngor ynghylch cynhyrchion meddalwedd penodol, gan y bydd pob cynnyrch yn gweithio’n wahanol.
Nid oes angen i chi wneud unrhyw addasiadau cyfrifyddu nac unrhyw addasiadau at ddibenion treth cyn anfon diweddariad chwarterol.
Bydd eich diweddariadau chwarterol yn cynnwys cyfansymiau ar gyfer pob categori incwm a threuliau a ddefnyddiwyd gennych i greu eich cofnodion digidol.
Ni fydd CThEF yn cael manylion unrhyw dderbynebau neu anfonebau unigol yn eich diweddariadau chwarterol.
Incwm a threuliau y dylech eu cynnwys
Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn defnyddio’r un categorïau incwm a threuliau â Hunanasesiad. Gallwch ddarllen rhagor am y categorïau y dylech eu defnyddio yn y Cyfarwyddyd diweddariad chwarterol ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg).
Mae pob diweddariad yn cwmpasu’r flwyddyn dreth hyd yn hyn
Mae pob diweddariad chwarterol yn cwmpasu’r cyfnod o ddechrau’r flwyddyn dreth bresennol (6 Ebrill) hyd at ddiwedd y cyfnod diweddaru. Caiff y rhain eu cyfrifo’n awtomatig gan eich meddalwedd ac mae’n rhaid i chi eu gwirio cyn eu hanfon.
Bydd pob diweddariad chwarterol yn dangos cyfanswm eich incwm a’ch treuliau ar gyfer pob busnes sydd gennych ar gyfer y flwyddyn dreth hyd yn hyn, a hynny’n seiliedig ar eich cofnodion digidol. Mae hyn er mwyn i chi allu gwneud unrhyw gywiriadau i’ch cofnodion pe bai angen. Bydd y cywiriadau hyn wedyn yn cael eu cynnwys yn eich diweddariad nesaf.
Mae’n rhaid i chi anfon diweddariad chwarterol at CThEF, hyd yn oed os na chawsoch unrhyw incwm nac ysgwyddo unrhyw dreuliau yn ystod cyfnod diweddaru.
Ar ôl i chi anfon diweddariad chwarterol, bydd y gweithgarwch diweddar yn eich cyfrif ar-lein CThEF nodi ‘Gwnaethoch anfon diweddariad chwarterol’. Bydd angen i chi fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF gyda’r manylion a ddefnyddiwyd gennych pan wnaethoch gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Cael amcangyfrif o’ch bil treth
Ar ôl i chi anfon diweddariad, gallwch gael amcangyfrif o’ch bil treth ar gyfer eich incwm o hunangyflogaeth ac eiddo ar gyfer y flwyddyn dreth hyd yn hyn. Bydd y manylion hyn i’w gweld yn eich:
-
meddalwedd sy’n cydweddu
-
cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF
Fel rhan o’ch amcangyfrif, bydd CThEF yn cynnwys unrhyw wybodaeth arall sydd eisoes ar gael.
Er enghraifft, os ydych yn ad-dalu benthyciad myfyriwr neu fenthyciad ôl-raddedig, caiff math eich cynllun neu’r math o fenthyciad sydd gennych ei ychwanegu’n awtomatig i gyfrifo’ch ad-daliadau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i roi gwybod i CThEF am fenthyciad myfyriwr neu ôl-raddedig yn eich Ffurflen Dreth.
Ni fydd eich amcangyfrif yn hollol gywir os oes gennych ffynonellau incwm eraill nad ydych wedi rhoi gwybod i CThEF amdanynt eto, neu os nad yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn cyd-fynd â’r flwyddyn dreth.
Ffynonellau incwm eraill
Yn dibynnu ar y feddalwedd rydych yn ei defnyddio a’r ffynonellau incwm sydd gennych, efallai y gallwch ychwanegu ffynonellau incwm eraill at eich meddalwedd yn ystod y flwyddyn dreth, er enghraifft llog cynilion.
Ni fydd y ffynonellau incwm eraill hyn yn cael eu cynnwys yn eich diweddariadau chwarterol, ond bydd eu hychwanegu at eich meddalwedd yn rhoi gwell amcangyfrif o’ch bil treth.
Er enghraifft, os ydych yn landlord sy’n gyflogedig ac sydd hefyd yn cael incwm o log ar gynilion, bydd eich amcangyfrif o’ch bil treth yn seiliedig ar y canlynol:
-
treuliau ac incwm o eiddo, pan fyddwch yn anfon y cyfansymiau hynny yn eich diweddariadau chwarterol
-
incwm o gyflogaeth (TWE) a ychwanegir gan CThEF
-
incwm o log ar gynilion, os dewiswch ei ychwanegu
Os na allwch gofnodi ffynonellau incwm eraill yn eich meddalwedd yn ystod y flwyddyn dreth, neu os byddwch yn dewis peidio â gwneud hynny, bydd angen i chi ychwanegu’r ffynonellau hyn cyn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth gan ddefnyddio’ch meddalwedd.
Ar gyfer eiddo a osodir ar y cyd, gallwch ddewis cynnwys y naill neu’r llall o’r canlynol yn eich diweddariadau chwarterol:
-
treuliau ac incwm o eiddo
-
incwm o eiddo yn unig
Os byddwch yn dewis peidio â chynnwys eich treuliau ar gyfer eiddo a osodir ar y cyd, mae’n rhaid i chi roi gwybod amdanynt ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Gwnewch hyn drwy ail-anfon eich pedwerydd diweddariad chwarterol cyn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth gan ddefnyddio’ch meddalwedd.
Os ydych hefyd yn berchen ar eiddo arall ar eich pen eich hun, mae angen i chi gynnwys y treuliau a’r incwm ar gyfer yr eiddo hynny yn eich diweddariadau chwarterol.
Mae 2 fath o gyfnodau diweddaru y gallwch eu defnyddio ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm:
-
cyfnodau diweddaru safonol — dyma’r opsiwn diofyn yn eich meddalwedd oherwydd bod y cyfnodau hyn yn cyd-fynd â’r flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill)
-
cyfnodau diweddaru calendr — dylech ddefnyddio’r rhain os yw’ch cyfnod cyfrifyddu rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth
Mae’r dyddiadau cau ar gyfer anfon eich diweddariadau chwarterol yr un peth ar gyfer y ddau opsiwn.
Os nad ydych yn siŵr, gall eich asiant roi gwybod i chi pa gyfnod i’w ddefnyddio, os oes gennych asiant
Cyfnodau diweddaru safonol
Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn cyd-fynd â’r flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill), dylech ddefnyddio cyfnodau diweddaru safonol.
Mae pob diweddariad chwarterol yn cwmpasu’r cyfnod o ddechrau’r flwyddyn dreth hyd at ddiwedd y cyfnod diweddaru.
Er enghraifft, bydd eich trydydd diweddariad chwarterol yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 6 Ebrill a 5 Ionawr.
Mae’r tabl hwn yn dangos y dyddiau ar gyfer y cyfnodau diweddaru safonol ochr yn ochr â’r dyddiad cau ar gyfer y diweddariadau chwarterol.
| Cyfnodau diweddaru safonol | Dyddiad cau diweddaru |
|---|---|
| 6 Ebrill i 5 Gorffennaf | 7 Awst |
| 6 Ebrill i 5 Hydref | 7 Tachwedd |
| 6 Ebrill i 5 Ionawr | 7 Chwefror |
| 6 Ebrill i 5 Ebrill | 7 Mai (y flwyddyn dreth ganlynol) |
Cyfnodau diweddaru calendr
Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn cwmpasu’r cyfnod 1 Ebrill i 31 Mawrth, dylech ddefnyddio cyfnodau diweddaru calendr. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i chi gadw cofnodion.
Mae pob diweddariad chwarterol yn cwmpasu’r cyfnod o ddechrau’r flwyddyn dreth hyd at ddiwedd y cyfnod diweddaru.
Er enghraifft, bydd eich trydydd diweddariad chwarterol yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 6 Ebrill a 31 Rhagfyr.
Mae’r tabl hwn yn dangos y dyddiadau ar gyfer y cyfnodau diweddaru calendr ochr yn ochr â’r dyddiadau cau ar gyfer diweddariadau chwarterol.
| Cyfnod diweddaru calendr | Dyddiad cau ar gyfer diweddaru |
|---|---|
| 1 Ebrill i 30 Mehefin | 7 Awst |
| 1 Ebrill i 30 Medi | 7 Tachwedd |
| 1 Ebrill i 31 Rhagfyr | 7 Chwefror |
| 1 Ebrill i 31 Mawrth | 7 Mai (y flwyddyn dreth ganlynol) |
Bydd gosodiadau eich meddalwedd wedi’u sefydlu i ddefnyddio cyfnod diweddaru safonol. Os ydych am newid hyn i gyfnodau diweddaru calendr, bydd angen i chi ddewis yr opsiwn hwn yn eich meddalwedd cyn i chi anfon eich diweddariad chwarterol cyntaf.
Ni allwch newid eich cyfnodau diweddaru ar gyfer gweddill y flwyddyn dreth ar ôl i chi anfon diweddariad chwarterol, felly mae’n bwysig gwirio hyn pan fyddwch chi’n gosod eich meddalwedd.
Gallwch anfon diweddariad chwarterol ar unrhyw adeg ar ôl diwedd y cyfnod diweddaru, hyd at a chan gynnwys y dyddiad cau ar gyfer anfon diweddariad.
Gallwch hefyd anfon diweddariad hyd at 10 diwrnod cyn diwedd y cyfnod diweddaru os nad ydych yn disgwyl cofnodi unrhyw drafodion pellach.
Er enghraifft, efallai eich bod yn mynd ar wyliau ac yn gwybod na fyddwch yn gweithio am weddill y cyfnod ac na fyddwch yn cael unrhyw incwm pellach.
Os byddwch yn methu dyddiad cau ar gyfer anfon diweddariad chwarterol, efallai y cewch gosb am gyflwyno’n hwyr — mae’r rhain yn seiliedig ar bwyntiau. Os byddwch yn cyrraedd trothwy pwyntiau cosb, cewch gosb o £200.
Mae’r trothwy pwyntiau yn dibynnu ar a yw’n ofynnol i chi ddefnyddio Troi Treth yn ddigidol ar gyfer Treth Incwm neu a ydych yn ei ddefnyddio’n wirfoddol.
Blwyddyn dreth 2026 i 2027
Ni fydd CThEF yn codi pwyntiau cosb am ddiweddariadau chwarterol a anfonwyd yn ystod blwyddyn dreth 2026 i 2027.
Bydd angen i chi anfon eich diweddariadau chwarterol cyn y gallwch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth gan ddefnyddio meddalwedd.
Bydd pwyntiau cosb yn dal i fod yn berthnasol os byddwch yn cyflwyno Ffurflenni Treth yn hwyr yn ystod y flwyddyn dreth hon.
Ar ôl blwyddyn dreth 2026 i 2027
Os na fyddwch yn anfon eich diweddariad chwarterol erbyn y dyddiad cau perthnasol, cewch bwynt cosb am gyflwyno’n hwyr. Os byddwch yn cyrraedd 4 pwynt, cewch gosb o £200. Bydd pwyntiau cosb hefyd yn berthnasol os byddwch yn cyflwyno Ffurflenni Treth yn hwyr.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gosbau sy’n berthnasol i’r cynllun Troi Treth yn ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn yn wirfoddoli
Ni fydd cosbau yn cael eu codi tra’ch bod yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn wirfoddol.
Bydd pwyntiau cosb yn dal i fod yn berthnasol os byddwch yn cyflwyno Ffurflenni Treth yn hwyr. Os byddwch yn cyrraedd 2 bwynt, cewch gosb o £200.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gosbau os ydych yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn wirfoddol.
Gallwch ddewis anfon diweddariadau yn amlach. Ar y cyfan, mae meddalwedd sy’n cydweddu yn eich galluogi i anfon diweddariad ar unrhyw ddiwrnod.
Er enghraifft, efallai eich bod am ddeall sut y bydd derbynneb neu draul fusnes sylweddol yn effeithio ar eich amcangyfrif o’ch bil treth.
Os byddwch yn dewis anfon diweddariadau’n amlach, mae’n rhaid iddynt gwmpasu’r cyfnod diweddaru llawn o hyd. Er enghraifft, yn hytrach nag anfon eich diweddariad chwarterol cyntaf sy’n cwmpasu’r cyfnod 6 Ebrill i 5 Gorffennaf, (os ydych chi’n defnyddio cyfnodau diweddaru safonol), gallech ddewis anfon 3 diweddariad ar wahân sy’n cwmpasu:
-
6 Ebrill i 5 Mai
-
6 Ebrill i 5 Mehefin
-
6 Ebrill i 5 Gorffennaf
Os oes angen i chi wneud unrhyw newidiadau i’ch cofnodion digidol, efallai y bydd angen i chi ail-anfon eich pedwerydd diweddariad chwarterol. Gallai hyn fod oherwydd bod angen i chi wneud y canlynol:
-
gywiro’ch cofnodion os ydych wedi nodi gwall
-
cofnodi treuliau incwm eiddo ar y cyd (os na chawsant eu cynnwys mewn diweddariadau cynharach)
-
cofnodi incwm Rhentu Ystafell (os penderfynoch hawlio rhyddhad Rhentu Ystafell ar ôl diwedd y flwyddyn dreth)
Dylech ail-anfon eich pedwerydd diweddariad chwarterol cyn i chi wneud unrhyw addasiadau treth, os oes angen gwneud hynny. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cofnodion digidol y mae angen i chi eu creu a phryd i’w creu.
Ar ôl i chi anfon eich diweddariad chwarterol olaf ar gyfer y flwyddyn dreth, dylech wirio a oes angen i chi wneud unrhyw addasiadau i’ch incwm o hunangyflogaeth ac eiddo cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth gan ddefnyddio’ch meddalwedd.