Canllawiau

Rhoi gwybod i CThEM am fenthyciad myfyriwr neu ôl-raddedig yn eich Ffurflen Dreth

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae’n rhaid i chi ei defnyddio i roi gwybod i CThEM am eich didyniadau benthyciad myfyriwr neu ôl-raddedig

Bydd angen i chi lenwi’r adran ad-daliadau benthyciad myfyriwr neu fenthyciad ôl-raddedig ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad os rhoddodd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wybod bod eich ad-daliadau am ddechrau ar neu cyn 6 Ebrill yn y flwyddyn rydych yn llenwi’ch Ffurflen Dreth ar ei chyfer. Os ydych yn talu benthyciad myfyriwr a benthyciad ôl-raddedig, bydd angen i chi lenwi’r ddwy adran. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosbau os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth gywir.

Cyfrifir eich didyniad benthyciad myfyriwr (Cynllun 1, 2 neu 4) ar sail 9% o gyfanswm eich incwm sydd dros drothwy’r math o gynllun sydd gennych.

Cyfrifir eich didyniad benthyciad ôl-raddedig ar sail 6% o gyfanswm eich incwm sydd dros y trothwy.

Os ydych yn ad-dalu benthyciad myfyriwr (Cynllun 1, 2 neu 4) a benthyciad ôl-raddedig ar yr un pryd, bydd disgwyl i chi ad-dalu 15% o gyfanswm eich incwm sydd dros y trothwy.

Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn rhoi gwybodaeth am eich benthyciad neu’r math o gynllun sydd gennych i CThEF.

Bydd angen i chi roi’r wybodaeth pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar-lein. Os penderfynwch beidio â chyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar-lein, ffoniwch ni i ofyn am Ffurflen Dreth bapur.

Gwybodaeth y bydd ei hangen arnoch

Yn ogystal, bydd angen manylion unrhyw un o’r canlynol:

Os ydych wedi cael mwy nag un swydd yn ystod y flwyddyn, bydd angen i chi adio’r ad-daliadau a ddangosir ar eich holl slipiau cyflog, yn hytrach na dim ond y rheini o’r swydd ddiweddaraf. Ni fydd eich P60 (yn Saesneg) yn dangos y symiau a ddidynnwyd gan gyflogwr blaenorol.

Os nad oes gennych fynediad at rai o’ch slipiau cyflog, neu bob un ohonynt, gallwch gysylltu â’r canlynol:

  • eich cyflogwr blaenorol
  • eich cyflogwr presennol, os nad yw’ch slip talu neu ffurflen P60 gennych

Os oedd gennych fwy nag un ffynhonnell o incwm yn ystod y flwyddyn, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu mwy na’ch didyniadau Talu Wrth Ennill (TWE) yn unig.

Gweithio oddi ar y gyflogres

Os ydych yn destun rheolau gweithio oddi ar y gyflogres am unrhyw gyfnod yn ystod y flwyddyn dreth, bydd eich didyniadau benthyciad myfyriwr a benthyciad ôl-raddedig ar gyfer y cyfnod hwnnw yn cael eu cyfrifo drwy’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Sut i lenwi’ch Ffurflen Dreth ar-lein

Section 2 — ‘Tell us about you’

Dewiswch ‘Iawn’.

Os oedd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi rhoi gwybod i chi fod eich ad-daliadau am ddechrau ar neu cyn 6 Ebrill yn y flwyddyn rydych yn llenwi’ch Ffurflen Dreth ar ei chyfer, hyd yn oed os gwnaeth cyflogwr ddidynnu ad-daliadau neu os oedd eich incwm o dan y trothwy perthnasol, mae angen i chi ddewis y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • y math o gynllun benthyciad myfyriwr rydych yn ei ad-dalu
  • benthyciad ôl-raddedig
  • y math o gynllun benthyciad myfyriwr a’r benthyciad ôl-raddedig, os ydych yn ad-dalu’r ddau fenthyciad ar yr un pryd

Mae’n bosibl bod y blychau hyn eisoes wedi’u llenwi ar eich cyfer.

Bydd systemau CThEF wedyn yn defnyddio’r wybodaeth a roddwyd gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i gyfrifo’r swm cywir sydd angen i chi ei ad-dalu ar gyfer:

  • eich benthyciad myfyriwr
  • eich benthyciad ôl-raddedig
  • eich benthyciad myfyriwr a’ch benthyciad ôl-raddedig, os ydych yn ad-dalu’r ddau fenthyciad ar yr un pryd

Os byddwch yn newid y blychau:

  • bydd neges o rybudd yn ymddangos, yn rhoi gwybod bod y cofnod yn wahanol i’r math o gynllun neu’r benthyciad a gofnododd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr — mae’r neges o rybudd yn eich cynghori i wirio’r llythyr gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr er mwyn cadarnhau’r benthyciad a/neu’r math o gynllun cywir

  • bydd cyfrifiad awtomatig yn cael ei gyhoeddi, yn rhoi gwybod bod CThEF wedi newid y benthyciad, y math o gynllun a’r effaith y mae hyn wedi’i chael ar y cyfrifiad

Bydd cofnodi’r mathau anghywir o fenthyciadau yn effeithio ar swm y benthyciad myfyriwr a’r benthyciad ôl-raddedig a godir. Bydd systemau CThEF yn dilysu’r wybodaeth a roddodd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a chyhoeddir cyfrifiad yn awtomatig sy’n rhoi gwybod am unrhyw newidiadau.

Dyma’r unig gwestiynau y mae’n rhaid i chi eu hateb os ydych yn ad-dalu’ch benthyciad myfyriwr neu’ch benthyciad ôl-raddedig, neu’r ddau ohonynt, ac nad oes gennych unrhyw incwm TWE.

Adran 4 — ‘Llenwch eich Ffurflen Dreth’

Rhowch gyfanswm y symiau a ddidynnwyd eisoes drwy’ch cyflogaeth ar gyfer y flwyddyn dreth rydych yn llenwi’ch Ffurflen Dreth ar ei chyfer. Gallwch ddod o hyd i’r symiau hyn ar eich P60 neu drwy adio’r holl ddidyniadau ar gyfer y benthyciad myfyriwr, y benthyciad ôl-raddedig, neu’r ddau ohonynt, ar eich slipiau cyflog ar gyfer y flwyddyn honno.

Mae angen i chi gofnodi’r didyniadau ar gyfer y math o gynllun benthyciad myfyriwr a’r didyniadau benthyciad ôl-raddedig ar wahân yn y blychau perthnasol.

Peidiwch â chynnwys unrhyw daliadau debyd uniongyrchol tramor na thaliadau gwirfoddol rydych wedi’u gwneud yn yr adran hon.

Mae’n bosibl bod swm yr ad-daliad a ddidynnwyd gan eich cyflogwr eisoes yn dangos yma. Mae angen i chi wirio bod y swm yn gywir, hyd yn oed os yw’n sero.

Os yw’n gywir, dewiswch ‘Iawn’ ac yna ‘Cadw ac yn eich blaen’.

Os nad yw’n gywir, dewiswch ‘Na’ a nodwch y swm cywir. Cofiwch roi gwybod i ni pam mae’r ffigur yn wahanol a chynnwys enw a dyddiad y ddogfen sy’n dangos hyn.

Byddwn yn gwirio’r swm a roddwyd yn erbyn yr wybodaeth a ddarparwyd gan eich cyflogwr.

Bydd cofnodi didyniadau anghywir yn effeithio ar y tâl benthyciad myfyriwr a benthyciad ôl-raddedig a godir, a gallai arwain at godi mwy arnoch.

Gwyliwch fideo i’ch helpu gyda llenwi’ch Ffurflen Dreth

Gallwch wylio fideos YouTube i’ch helpu gyda llenwi’r adran hon.

Gwyliwch fideo YouTube ynghylch pam mae Ffurflen Dreth yn gofyn ynghylch Benthyciadau Myfyrwyr sy’n Amodol ar Incwm.

Why does my tax return ask about income contingent student loans?

Gwyliwch fideo YouTube ynghylch pam mae Ffurflen Dreth yn gofyn ynghylch Benthyciad Ôl-raddedig.

Why does my tax return ask about postgraduate loans?

Gwyliwch fideo YouTube ynghylch sut i ddangos Benthyciad Myfyriwr a Benthyciad Ôl-raddedig ar eich Ffurflen Dreth.

How do I show student loan and postgraduate loan on my tax return?

Sut i lenwi’ch Ffurflen Dreth bapur

Blwch 1

Rhowch ‘X’ ym mlwch 1 os yw’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi rhoi gwybod i chi fod eich ad-daliadau wedi dechrau ar neu cyn 6 Ebrill yn y flwyddyn rydych yn llenwi’ch Ffurflen Dreth ar ei chyfer, hyd yn oed os yw’r incwm o dan y trothwy ar gyfer math y benthyciad.

Dyma’r unig gwestiwn y mae’n rhaid i chi ei ateb os ydych yn ad-dalu’ch benthyciad myfyriwr, benthyciad ôl-raddedig, neu’r ddau ohonynt, ac nad oes gennych unrhyw incwm TWE.

Blwch 2

Rhowch gyfanswm yr holl ddidyniadau benthyciad myfyriwr (Cynllun 1, 2 neu 4) a gymerwyd o’ch holl gyflogaethau drwy TWE yn ystod y flwyddyn dreth rydych yn llenwi’ch Ffurflen Dreth ar ei chyfer. Mae’r wybodaeth hon i’w gweld ar eich P60 neu drwy adio’r holl ddidyniadau (Cynllun 1, 2 neu 4) ar eich slipiau cyflog ar gyfer y flwyddyn honno.

Blwch 3

Rhowch gyfanswm yr holl ddidyniadau benthyciad ôl-raddedig a gymerwyd o’ch holl gyflogaethau drwy TWE yn ystod y flwyddyn dreth rydych yn llenwi’ch Ffurflen Dreth ar ei chyfer. Mae’r wybodaeth hon i’w gweld ar eich P60 neu drwy adio’r holl ddidyniadau benthyciad ôl-raddedig ar eich slipiau cyflog ar gyfer y flwyddyn honno.

Bydd cofnodi didyniadau anghywir yn effeithio ar y tâl benthyciad myfyriwr a benthyciad ôl-raddedig a godir, a gallai arwain at godi mwy arnoch.

Os ydych yn talu’r benthyciad myfyriwr a’r benthyciad ôl-raddedig, yna llenwch flwch 2 a blwch 3.

Taliadau Debyd Uniongyrchol tramor

Os ydych wedi bod yn talu taliadau Debyd Uniongyrchol i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr tra roeddech tramor, bydd angen i’ch Ffurflen Dreth gynnwys cyfanswm eich incwm.

Caiff eich ad-daliadau benthyciad myfyriwr eu cyfrifo ar gyfanswm yr incwm hwn, ond ni fyddant yn cymryd i ystyriaeth y taliadau Debyd Uniongyrchol rydych eisoes wedi’u gwneud i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth, cysylltwch â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a byddant yn rhoi gwybod i CThEF faint rydych wedi’i dalu.

Bydd CThEF wedyn yn defnyddio’r ffigur hwn i ostwng swm y dreth sydd arnoch.

Taliadau gwirfoddol

Os ydych am wneud hynny, gallwch wneud taliadau ychwanegol i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Mae’r taliadau gwirfoddol hyn ar wahân i symiau a gasglwyd gan eich cyflogwr neu drwy’ch Ffurflen Dreth. Ni fydd gwneud taliadau gwirfoddol yn newid y symiau a gasglwyd gan eich cyflogwr neu drwy’ch Ffurflen Dreth.

Ni allwch ddewis gwneud y taliadau ychwanegol hyn yn hytrach na’ch taliadau arferol, ac ni ellir ad-dalu taliadau gwirfoddol.

Bydd taliadau gwirfoddol yn lleihau hyd cyfan eich benthyciad, a’r llog a godir arno.

Rhagor o wybodaeth am sut i wneud taliad gwirfoddol.

Os oes gennych fuddiannau a delir drwy’r gyflogres

Nid yw didyniadau benthyciad myfyriwr a benthyciad ôl-raddedig yn ddyledus ar fuddiannau a delir drwy’r gyflogres sy’n destun cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.

Ar hyn o bryd, nid yw ein system Hunanasesiad yn gallu gwahaniaethu rhwng y buddiannau hyn a delir drwy’r gyflogres a gweddill yr incwm TWE. O ganlyniad, mae’r rhain yn cael eu cynnwys yng nghyfrifiadau o ad-daliadau benthyciad myfyriwr a benthyciad ôl-raddedig.

Os nad yw’ch buddiannau a delir drwy’r gyflogres yn destun cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, dylech lenwi’r camau canlynol i wneud yn siŵr bod didyniadau eich benthyciad wedi’u cyfrifo’n gywir.

Os byddwch yn llenwi Ffurflen Dreth ar-lein

  1. Didynnwch y buddiannau a delir drwy’r gyflogres o gyfanswm eich incwm TWE a ddangosir ar eich P45 neu’ch P60 (gall eich cyflogwr roi’r ffigurau i chi os nad ydych yn siŵr).

  2. Ewch i’r adran ‘Llenwch eich Ffurflen Dreth’ (adran 4), dod o hyd i’r adran ‘Incwm i’ch cyflogwr’ a nodi’r ffigur o gam 1 yn y blwch ‘tâl gan eich cyflogwr’ (blwch cyflogaeth 03).

  3. Dewiswch ‘Iawn’ pan ofynnir a ydych wedi cael buddiannau trethadwy gan eich cyflogwr.

  4. Yn yr adran nesaf, nodwch ffigur y buddiannau a delir drwy’r gyflogres yn y blwch ‘buddiannau eraill’ (blwch cyflogaeth 20).

  5. Nodwch y canlynol yn y blwch ‘gwybodaeth ychwanegol’ — ‘Rwy wedi nodi fy muddiannau a delir drwy’r gyflogres yn yr adran ‘buddiannau eraill’ oherwydd fy mod i’n fenthyciwr benthyciad myfyriwr’.

Os byddwch yn llenwi Ffurflen Dreth bapur

  1. Didynnwch eich buddiannau a delir drwy’r gyflogres o gyfanswm eich incwm TWE a ddangosir ar eich P45 neu’ch P60 (gall eich cyflogwr roi’r ffigurau i chi os nad ydych yn siŵr).

  2. Ewch i’r dudalen cyflogaeth a nodi’r ffigur hwn yn y blwch ‘tâl o’r gyflogaeth hon’ (blwch 1).

  3. Nodwch ffigur y buddiannau yn y blwch ‘buddiannau eraill’ (blwch 15) ar y dudalen ‘cyflogaeth’.

  4. Ar ffurflen SA100, nodwch y canlynol yn y blwch ‘unrhyw wybodaeth arall’ (blwch 19) ar dudalen TR7 — ‘Mae’r ffigur a nodwyd ym mlwch 15 mewn perthynas â’m buddiannau a delir drwy’r gyflogres oherwydd fy mod i’n fenthyciwr benthyciad myfyriwr.’

Enghraifft o sut i gyfrifo’ch buddiannau a delir drwy’r gyflogres, a’u nodi, ar eich Ffurflen Dreth

Mae cyfanswm eich incwm ar eich P45 neu’ch P60 yn £50,000 (gan gynnwys buddiant car cwmni). Mae’ch cyflogwr yn cadarnhau bod y buddiant car cwmni’n £10,000.

Mae hyn yn golygu mai ffigur eich incwm TWE yw £40,000, ac mai ffigur y ‘buddiannau’ yw £10,000.

Byddech yn nodi £40,000 yn y blwch ‘tâl o’r gyflogaeth’ (Ffurflen Dreth ar-lein) neu yn y blwch ‘tâl o’r gyflogaeth hon’ (Ffurflen Dreth bapur).

Byddech yn nodi £10,000 yn y blwch ‘buddiannau eraill’ (Ffurflen Dreth ar-lein a phapur).

Cyhoeddwyd ar 29 December 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 September 2023 + show all updates
  1. Added translation

  2. Information added about how to complete your tax return if you receive payrolled benefits in kind from your employer.

  3. Information added on how to request a SA100 paper form

  4. The guide has been updated to include student loan Plan 4.

  5. YouTube videos to help you fill in your tax return have been added.

  6. Information about 'Off-payroll working' and PGL has been added.

  7. This guide has been amended for the 2019 to 2020 tax year.

  8. Information about overseas Direct Debit payments has been added.

  9. This guidance has been updated with information on how to give details of your Student Loan on an online tax return.

  10. Added translation

  11. First published.