Ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr
Gwneud ad-daliadau ychwanegol
Gallwch ddewis gwneud ad-daliadau ychwanegol tuag eich benthyciad myfyrwyr. Mae’r rhain yn ychwanegol i’r ad-daliadau y mae’n rhaid i chi eu gwneud pan fydd eich incwm yn uwch na’r swm trothwy ar gyfer eich cynllun ad-dalu. Nid oes unrhyw gosb os ydych yn gwneud ad-daliadau ychwanegol.
Ni allwch gael arian yn ôl ar gyfer unrhyw ad-daliadau ychwanegol yr ydych yn eu gwneud.
Efallai na fyddwch yn elwa o wneud ad-daliadau ychwanegol gan y bydd eich benthyciad yn cael ei ddiystyru ar ddiwedd cyfnod y benthyciad. Cyn gwneud ad-daliad ychwanegol, gwiriwch ba bryd y bydd eich benthyciad yn cael ei ddiystyru.
Dylech sgwrsio â chynghorydd ariannol os nad ydych yn siŵr a ddylech wneud ad-daliadau ychwanegol ai peidio.
Os byddwch yn penderfynu gwneud ad-daliad ychwanegol, gallwch ddewis sut y caiff ei gymhwyso i’ch benthyciad. Er enghraifft, gallwch ei ddefnyddio i leihau cyfanswm balans eich benthyciad neu i leihau balans cynllun penodol (os oes gennych fwy nag un cynllun).
Os nad ydych chi’n dewis sut y caiff yr ad-daliad ei gymhwyso, bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn penderfynu sut y caiff ei gymhwyso ar eich rhan.
Os ydych yn fyfyriwr llawn amser o Gymru, efallai y gallwch gael £1,500 o Grant Cynhaliaeth wedi’i ddiystyru.
Gwneud ad-daliad heb fewngofnodi i gyfrif
Gallwch wneud ad-daliad drwy gerdyn tuag at eich benthyciad chi neu un rhywun arall heb fewngofnodi i gyfrif ar-lein.
Rydych angen cyfenw’r person a’i gyfeirnod cwsmer (CRN).
Gwneud ad-daliadau ychwanegol o’r DU
Gallwch wneud ad-daliadau ychwanegol:
- drwy eich cyfrif ar-lein
- drwy drosglwyddiad banc
- drwy siec
Cyfrif ar-lein
Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein er mwyn:
- gwneud ad-daliad gyda cherdyn debyd
- sefydlu Debyd Uniongyrchol
Trosglwyddiad Banc
Er mwyn gwneud trosglwyddiad banc neu sefydlu archeb sefydlog o gyfrif banc yn y DU, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r manylion banc canlynol:
Enw’r cyfrif: Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr
Cod didoli: 60 70 80
Rhif cyfrif: 10027254
Defnyddiwch un o’r rhain fel eich cyfeirnod:
- cyfeirnod cwsmer (CRN)
- cyfeirnod grant (os yw ar gyfer ad-daliad grant)
Ni fydd eich taliad yn cael ei gymhwyso i’ch cyfrif benthyciad myfyrwyr os nad ydych yn defnyddio eich rhif cyfeirnod.
Siec
Er mwyn talu gyda siec, mae angen i chi wneud eich siec yn daladwy i Student Loans Company Ltd a’i anfon at:
Finance Department
Student Loans Company Ltd
10 Clyde Place
Glasgow
G5 8DF
Mae angen i chi ysgrifennu eich cyfeirnod cwsmer (CRN) ar gefn eich siec. Os na fyddwch yn gwneud hyn, ni chaiff eich taliad ei gymhwyso i’ch cyfrif benthyciad myfyrwyr.
Mae’n cymryd mwy o amser i brosesau sieciau na thaliadau drwy gerdyn debyd neu drosglwyddiad banc. Bydd eich siec yn cael ei hôl-ddyddio felly ni fyddwch yn cronni llog ychwanegol oherwydd yr oedi.
Gwneud ad-daliadau ychwanegol o wlad dramor
Gallwch wneud ad-daliadau ychwanegol:
- drwy eich cyfrif ar-lein
- drwy Drosglwyddiad Banc Rhyngwladol (IBAN)
Cyfrif ar-lein
Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein er mwyn:
- gwneud taliad untro neu sefydlu taliadau cerdyn rheolaidd drwy ddefnyddio cerdyn debyd rhyngwladol
- sefydlu Debyd Uniongyrchol
Trosglwyddiad Banc Rhyngwladol
Er mwyn trosglwyddo arian o gyfrif banc y tu allan i’r DU, defnyddiwch y manylion canlynol:
IBAN: GB37NWBK60708010027254
SWIFT: NWBKGB2L
NatWest Government Banking Team
NatWest Customer Service Centre
Brampton Road
Newcastle-under-Lyme
Staffordshire
ST5 0QX
Defnyddiwch un o’r rhain fel eich cyfeirnod:
- cyfeirnod cwsmer (CRN)
- cyfeirnod grant (os yw ar gyfer ad-daliad grant)
Ni fydd eich taliad yn cael ei gymhwyso i’ch cyfrif benthyciad myfyrwyr os nad ydych yn defnyddio eich rhif cyfeirnod.
Talu eich benthyciad yn llawn
Gallwch gysylltu â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i gael gwybod:
- y cyfanswm sydd angen i chi ei dalu (dyma’r ‘swm setlo’)
- y dyddiad y mae angen i chi dalu’r swm hwn erbyn (dyma’r ‘dyddiad setlo’)
Bydd angen eich cyfeirnod cwsmer (CRN) arnoch a’ch slip cyflog diweddaraf (os ydych yn cael eich cyflogi).
Pan fyddwch yn gwybod y cyfanswm sydd angen i chi ei dalu, gallwch dalu drwy gerdyn debyd dros y ffôn, trosglwyddiad banc neu siec.
Os nad ydych chi’n talu’r swm setlo erbyn y dyddiad setlo, bydd angen i chi gysylltu â SLC eto. Mae hyn oherwydd gallai’r swm y mae angen i chi ei dalu fod wedi newid. Bydd ond angen i chi ddarparu unrhyw gyfrifiadau neu slipiau cyflog sy’n newydd ers i chi alw ddiwethaf.