Skip to main content

Ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr

Sgipio cynnwys

Cael arian yn ôl

Gallwch ofyn am arian yn ôl os:

  • ydych wedi talu mwy na’r cyfanswm sydd arnoch chi
  • oedd eich incwm blynyddol yn is na’r trothwy
  • wnaethoch ddechrau gwneud ad-daliadau cyn yr oedd angen i chi
  • rydych wedi ad-dalu mwy nag sydd angen i chi gan fod eich cyflogwr wedi’ch nodi ar y cynllun ad-dalu anghywir

Ni allwch gael arian yn ôl am ad-daliadau ychwanegol.

Os ydych yn talu mwy yn ôl nag sydd arnoch chi

Bydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) yn dweud wrth eich cyflogwr i roi’r gorau i dynnu ad-daliadau o’ch cyflog pan fyddwch wedi ad-dalu eich benthyciad yn llawn. Gall gymryd hyd at 4 wythnos i ddidyniadau cyflog ddod i ben.

Mae hyn yn golygu y gallwch dalu mwy nag sydd arnoch chi.

Gallwch osgoi talu mwy nag sydd arnoch chi drwy newid eich taliadau i Ddebyd Uniongyrchol yn ystod blwyddyn olaf eich ad-daliadau. Cadwch eich manylion cyswllt yn gyfredol yn eich cyfrif ar-lein er mwyn i SLC allu rhoi gwybod i chi sut i sefydlu hyn.

Os ydych wedi talu gormod, bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn ceisio:

  • cysylltu â chi i ddweud wrthych sut i gael arian yn ôl
  • rhoi arian yn ôl yn awtomatig i chi (bydd hyn yn ymddangos ar eich cyfrif banc fel ‘SLC Receipts’)

Gallwch wirio eich balans benthyciad yn eich cyfrif ar-lein.

Os ydych wedi gordalu a heb glywed gan SLC, gallwch ofyn iddo am arian yn ôl.

Os oedd eich incwm blynyddol yn is na’r trothwy

Eich incwm yw’r swm rydych yn ei ennill (gan gynnwys elfennau fel bonws a goramser) cyn treth a didyniadau eraill.

Gallwch ofyn am arian yn ôl os gwnaethoch ad-daliadau ond roedd eich incwm dros y flwyddyn dreth gyfan (6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol) yn llai na:

  • £26,900 y flwyddyn ar gyfer Cynllun 1
  • £29,385 y flwyddyn ar gyfer Cynllun 2
  • £33,795 y flwyddyn ar gyfer Cynllun 4
  • £21,000 y flwyddyn ar gyfer Benthyciad Ôl-raddedig

Os yw eich cyflog blynyddol yn llai na hyn, efallai y bydd eich cyflogwr wedi didynnu ad-daliadau o hyd. Er enghraifft, os talwyd bonws i chi a’i fod wedi eich gwthio dros y trothwy misol ar gyfer eich cynllun, byddai’n didynnu ad-daliad ar gyfer y mis hwnnw.

Ni chewch arian yn ôl ar gyfer unrhyw ad-daliadau nes bod SLC wedi cadarnhau eich incwm blynyddol gyda CThEF. Ni fydd hyn yn digwydd tan ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Dim ond ar gyfer blynyddoedd treth sydd wedi dod i ben y gallwch ofyn am arian yn ôl.

Os ydych yn ad-dalu cyfuniad o fenthyciadau Cynllun 1, Cynllun 2 a Chynllun 4, dim ond os oedd eich incwm yn llai na’r trothwy isaf y gallwch gael arian yn ôl.

Enghraifft

Rydych yn ad-dalu benthyciad Cynllun 1 a Chynllun 2.

Trothwy Cynllun 1 yw £26,900 y flwyddyn.

Trothwy Cynllun 2 yw £29,385 y flwyddyn.

Mae trothwy Cynllun 1 yn is.

Mae hyn yn golygu mai dim ond os oedd eich incwm yn llai na throthwy Cynllun 1 (£26,900 y flwyddyn) y gallwch gael arian yn ôl.

Gwiriwch ba gynllun ad-dalu rydych arno os nad ydych chi’n siŵr.

Gallwch wirio’r trothwyon blaenorol os ydych yn gofyn ynghylch arian yn ôl ar ad-daliadau a gafodd eu gwneud cyn y flwyddyn dreth hon.

Os gwnaethoch ddechrau ad-dalu cyn yr oedd angen i chi wneud

Os caiff swm ei dynnu o’ch cyflog cyn y mae disgwyl i chi ddechrau ad-dalu, gallwch ofyn am arian yn ôl.

Os oedd eich cyflogwr wedi’ch nodi ar y cynllun ad-dalu anghywir

Gallwch gael arian yn ôl os ydych ar Gynllun 2 neu Gynllun 4 ond roedd eich cyflogwr wedi’ch nodi ar gynllun arall. Gwiriwch fod eich cyflogwr wedi’ch nodi ar y cynllun ad-dalu cywir.

Sut i ofyn am arian yn ôl

Os oedd eich incwm blynyddol yn is na’r trothwy ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol

Mewngofnodwch i’ch cyfrif ad-dalu benthyciad myfyrwyr a gofyn am arian yn ôl.

Os ydych angen arian yn ôl am unrhyw reswm arall

Cysylltwch â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr gyda’ch cyfeirnod cwsmer (CRN).