Ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr
Diweddaru eich manylion cyflogaeth
Mae angen i chi ddiweddaru eich manylion os ydych:
- yn gadael y DU am fwy na 3 mis (er enghraifft, mynd i deithio neu symud dramor)
- yn dychwelyd i’r DU ar ôl mwy na 3 mis i ffwrdd
- yn cael llythyr neu e-bost gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn gofyn i chi ddiweddaru eich manylion cyflogaeth
Mae SLC yn defnyddio’r manylion hyn i gyfrifo a ddylech fod yn ad-dalu eich benthyciad.
Efallai y caiff cyfradd llog uwch ei chodi arnoch neu y byddwch yn adeiladu dyled (’cronni ôl-ddyledion’) os nad ydych yn diweddaru eich manylion.