Skip to main content

Ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr

Sgipio cynnwys

Pryd caiff eich benthyciad i fyfyrwyr ei ddiystyru neu ei ganslo

Mae pryd caiff eich benthyciad myfyrwyr ei ddiystyru neu ei ganslo yn dibynnu ar ba gynllun ad-dalu rydych arno.

Os ydych yn fyfyriwr llawn amser o Gymru, efallai y gallwch gael £1,500 o’ch Benthyciad Cynhaliaeth wedi’i ddiystyru.

Pryd caiff benthyciadau Cynllun 1 eu diystyru

Mae pryd caiff eich benthyciad Cynllun 1 ei ddiystyru yn dibynnu ar bryd y cafodd y benthyciad cyntaf ar gyfer eich cwrs ei dalu i chi.

Os cafodd y benthyciad cyntaf ei dalu i chi ar neu ar ôl 1 Medi 2006

Bydd y benthyciadau ar gyfer eich cwrs yn cael eu diystyru 25 mlynedd ar ôl y mis Ebrill yr oeddech chi fod i ddechrau ad-dalu.

Os cafodd y benthyciad cyntaf ei dalu i chi cyn 1 Medi 2006

Bydd y benthyciadau ar gyfer eich cwrs yn cael eu diystyru pan rydych yn 65.

Pryd caiff benthyciadau Cynllun 2 eu diystyru

Caiff benthyciadau Cynllun 2 eu diystyru 30 mlynedd ar ôl y mis Ebrill yr oeddech chi fod i ddechrau ad-dalu.

Pryd caiff benthyciadau Cynllun 4 eu diystyru

Mae pryd caiff eich benthyciad Cynllun 4 ei ddiystyru yn dibynnu ar bryd y cafodd y benthyciad cyntaf ar gyfer eich cwrs ei dalu i chi.

Os cafodd y benthyciad cyntaf ei dalu i chi ar neu ar ôl 1 Awst 2007

Bydd y benthyciadau ar gyfer eich cwrs yn cael eu diystyru 30 mlynedd ar ôl y mis Ebrill yr oeddech chi fod i ddechrau ad-dalu.

Os cafodd y benthyciad cyntaf ei dalu i chi cyn 1 Awst 2007

Bydd y benthyciadau ar gyfer eich cwrs yn cael eu diystyru pan fyddwch yn 65, neu 30 mlynedd ar ôl y mis Ebrill yr oeddech chi fod i ddechrau ad-dalu - pa un bynnag a ddaw gyntaf.

Pryd caiff benthyciadau Cynllun 5 eu diystyru

Caiff benthyciadau Cynllun 5 eu diystyru 40 mlynedd ar ôl y mis Ebrill yr oeddech chi fod i ddechrau ad-dalu.

Pryd caiff Benthyciadau Ôl-raddedig eu diystyru

Os ydych yn fyfyriwr o Gymru neu Loegr, caiff eich Benthyciad Ôl-raddedig ei ddiystyru 30 mlynedd ar ôl y mis Ebrill yr oeddech chi fod i ddechrau ad-dalu.

Os ydych yn fyfyriwr ôl-raddedig o Ogledd Iwerddon, rydych ar Gynllun 1.

Os ydych yn fyfyriwr ôl-raddedig o’r Alban, rydych ar Gynllun 4.

Os yw rhywun sydd â benthyciad myfyriwr yn marw

Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn canslo benthyciad myfyriwr yr unigolyn.

Mae angen i chi roi gwybod i SLC bod yr unigolyn wedi marw a darparu tystiolaeth (er enghraifft, tystysgrif marwolaeth gwreiddiol), yn ogystal â chyfeirnod cwsmer (CRN) yr unigolyn.

Os na allwch weithio mwyach oherwydd salwch neu anabledd

Efallai y gall SLC ganslo eich benthyciad os ydych yn hawlio rhai budd-daliadau anabledd. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth (er enghraifft, llythyr gan yr asiantaeth budd-daliadau) a’ch cyfeirnod cwsmer (CRN).