Canllawiau

Canslo benthyciad myfyrwyr – os byddwch yn mynd yn an-ffit yn barhaol i weithio

Gellir canslo eich benthyciad myfyrwyr os byddwch yn mynd yn an-ffit yn barhaol i weithio.

Efallai y bydd modd i chi ganslo eich benthyciad myfyrwyr os byddwch yn cael un o’r budd-daliadau canlynol yn ymwneud ag anabledd yn y DU:

  • Taliadau Annibyniaeth Personol
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Industrial Injuries Benefit
  • Lwfans Anabledd Difrifol

Y dystiolaeth y bydd angen i chi ei hanfon

Bydd angen i chi ysgrifennu at y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i ofyn iddo ganslo eich benthyciad. Bydd angen hefyd i chi gynnwys eich cyfeirnod cwsmer a llungopïau o’r ddau lythyr canlynol:

  • llythyr gan feddyg, meddyg ymgynghorol neu seiciatrydd, sy’n nodi eich bod ‘yn an-ffit yn barhaol i weithio’ ac sydd â dyddiad yn ystod y 6 mis diwethaf arno
  • llythyr gan yr asiantaeth budd-daliadau, sy’n dangos eich bod yn cael budd-dal yn ymwneud ag anabledd, rhaid mai’r llythyr asesu diweddaraf ydyw a rhaid iddo gynnwys yr holl dudalennau.

Os na allwch ofyn i’r benthyciad gael ei ganslo

Weithiau, mae’n bosibl na fyddwch yn ddigon hwylus i ddweud wrthym eich bod yn an-ffit yn barhaol i weithio. Gall y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr dderbyn gwybodaeth a thystiolaeth gan drydydd parti yn lle hynny, ond dim ond os oes gan y trydydd parti atwrneiaeth. Os nad oes atwrneiaeth yn bodoli, byddwn yn ysgrifennu at drydydd parti ‘dan ofal’ cyfeiriad y cwsmer.

Ni all y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ganslo unrhyw fenthyciadau heb dystiolaeth.

Cysylltu â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr

Student Loans Company
10 Clyde Place
Glasgow
G5 8DF

Cyhoeddwyd ar 13 August 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 December 2023 + show all updates
  1. Updated Student Loans Company address from 100 Bothwell Street, Glasgow, G2 7JD to 10 Clyde Place, Glasgow, G5 8DF

  2. Removed "an additional Universal Credit award relating to disability" from list of benefits that can lead to student loan cancellation and clarified that benefits must be from UK

  3. Added translation