Canllawiau

Caniatáu i rywun arall reoli eich cyfrif benthyciad myfyrwyr

Gallwch ganiatáu i unigolyn arall neu sefydliad helpu i reoli eich cyfrif neu weithredu ar eich rhan.

Applies to England

Gallwch roi caniatâd i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn y ffyrdd canlynol:

1. Caniatâd i rannu

Mae caniatâd i rannu’n caniatáu i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr siarad am eich cyfrif â rhywun yr ydych wedi rhoi caniatâd iddo. Ni fyddwn yn trafod eich manylion banc.

Sut mae rhoi caniatâd

Gallwch sefydlu hyn yn eich cyfrif ar-lein trwy ddewis ‘rhannu eich gwybodaeth cyllid myfyriwr’. Mae angen i chi roi’r wybodaeth ganlynol i ni:

  • eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer
  • eich enw a’ch cyfeiriad
  • enw llawn y person neu’r sefydliad yr ydych am roi caniatâd iddo
  • ei gyfeiriad llawn, gan gynnwys y cod post
  • ei ddyddiad geni llawn
  • ei berthynas â chi
  • cyfrinair y byddwn yn gofyn i’r trydydd parti ei gadarnhau. Bydd angen iddo fod yn wahanol i’r cyfrinair sydd gennych i fewngofnodi i’ch cyfrif.
  • y dyddiad y daw’r caniatâd i ben

Gallwch hefyd sefydlu hyn trwy alw neu ysgrifennu at SLC.

Rhaid i’r person neu’r sefydliad allu cadarnhau’r holl fanylion hyn cyn y gallwn drafod gwybodaeth eich cyfrif gyda nhw.

2. Atwrneiaeth

Mae atwrneiaeth yn ddogfen gyfreithiol swyddogol sy’n eich galluogi i enwi rhywun a all ofyn am wybodaeth am eich cyfrif neu ddiweddaru gwybodaeth ynddo. Rhaid i ddogfen yr atwrneiaeth gynnwys y cyfnod penodol y gall y person a enwebwyd weithredu fel atwrnai, a’r tasgau penodol y gall eu cyflawni.

Darllen mwy am y gwahanol fathau o atwrneiaeth.

3. Gorchymyn dirprwyaeth

Dirprwyaeth yw pan gaiff trydydd parti ei benodi’n ddirprwy i rywun os oes gan yr unigolyn hwnnw ‘ddiffyg galluedd meddyliol’. Mae hynny’n golygu na all yr unigolyn wneud penderfyniadau drosto’i hun ar yr adeg pan fo angen i’r penderfyniadau gael eu gwneud. Mae’n bosibl y bydd yr unigolyn yn dal yn gallu gwneud penderfyniadau drosto’i hun weithiau.

Darllen mwy am y gwahanol fathau o ddirprwyaeth ac am wneud penderfyniadau dros rywun â diffyg galluedd.

Sut mae trefnu atwrneiaeth neu orchymyn dirprwyaeth

Gallwch eu trefnu drwy ysgrifennu at y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Rhaid i chi gynnwys eich dogfen ardystiedig ar gyfer yr atwrneiaeth neu’r gorchymyn dirprwyaeth yn ogystal â’r wybodaeth ganlynol:

  • eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer
  • eich enw a’ch cyfeiriad
  • enw llawn y person yr ydych am roi caniatâd iddo
  • ei gyfeiriad llawn, gan gynnwys y cod post
  • ei ddyddiad geni llawn
  • ei berthynas â chi

Rhaid i’r person allu cadarnhau’r holl fanylion hyn cyn y gallwn drafod gwybodaeth eich cyfrif gyda nhw. Gall fod uchafswm o ddau berson a enwir ar eich cyfrif.

Cyhoeddwyd ar 1 August 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 December 2023 + show all updates
  1. Updated 'How to give permission' section to match what's shown in customer accounts.

  2. Added information on being able to setup Consent to share on their online account.

  3. First published.