Ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr
Faint fyddwch yn ei ad-dalu
Mae faint y byddwch yn ei ad-dalu yn dibynnu ar eich incwm - y swm rydych yn ei ennill (gan gynnwys elfennau fel taliadau bonws neu oramser) cyn treth a didyniadau eraill.
Nid yw’r swm sydd angen i chi ei dalu (sef cyfanswm faint rydych wedi’i fenthyca yn ogystal â llog) yn cael dim effaith ar faint rydych yn ei ad-dalu bob blwyddyn.
Byddwch yn ad-dalu canran o’ch incwm sydd dros y trothwy incwm ar gyfer y math o fenthyciad sydd gennych.
Mae’r trothwyon incwm yn wahanol ar gyfer pob math cynllun, ac yn dibynnu ar ba mor aml rydych yn cael eich talu.
| Math y cynllun | Trothwy incwm blynyddol | Trothwy incwm misol | Trothwy incwm wythnosol |
|---|---|---|---|
| Cynllun 1 | £26,900 | £2,241 | £517 |
| Cynllun 2 | £29,385 | £2,448 | £565 |
| Cynllun 4 | £33,795 | £2,816 | £649 |
| Cynllun 5 | £25,000 | £2,083 | £480 |
| Benthyciad Ôl-raddedig | £21,000 | £1,750 | £403 |
Byddwch yn ad-dalu naill ai:
- 9% o’ch incwm dros y trothwy os ydych ar Gynllun 1, 2, 4 neu 5
- 6% o’ch incwm dros y trothwy os ydych ar gynllun Benthyciad Ôl-raddedig
Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos faint y byddech yn ei ad-dalu yn dibynnu ar eich incwm a’r math o gynllun:
Enghraifft
Rydych ar Gynllun 1 ac mae gennych incwm o £33,000 y flwyddyn, sy’n golygu bod £2,750 yn cael ei dalu i chi pob mis.
Cyfrifiad:
£2,750 – £2,241 (eich incwm tynnu’r trothwy Cynllun 1) = £509
9% of £509 = £45.81
Mae hyn yn golygu mai £45 yw’r swm y byddech yn ei ad-dalu pob mis.
Enghraifft
Rydych ar Gynllun 4 ac mae gennych incwm o £36,000 y flwyddyn, sy’n golygu bod £3,000 yn cael ei dalu i chi bob mis.
Cyfrifiad:
£3,000 – £2,816 (eich incwm tynnu’r trothwy Cynllun 4) = £184
9% o £184 = £16.56
Mae hyn yn golygu mai £16 yw’r swm y byddech yn ei ad-dalu pob mis.
Os yw eich incwm yn newid yn ystod y flwyddyn
Byddwch yn gwneud ad-daliad os yw eich incwm yn mynd y tu hwnt i’r trothwy wythnosol neu fisol ar gyfer eich cynllun (er enghraifft, rydych yn cael taliad bonws neu oramser). Gallwch ofyn am arian yn ôl ar ddiwedd y flwyddyn dreth os yw eich incwm blynyddol yn llai na’r trothwy blynyddol ar gyfer eich cynllun.
Llog
Mae faint o log rydych chi angen ei dalu yn dibynnu ar ba gynllun rydych chi arno.
Ar hyn o bryd codir y tâl canlynol arnoch:
- 4.1% os ydych chi ar Gynllun 1
- 4.1% os ydych ar Gynllun 4
- 4.1% os ydych ar Gynllun 5
- 6% os ydych chi ar gynllun Benthyciad Ôl-raddedig
Bydd llog yn parhau i gael ei ychwanegu (’ei gymhwyso’) i’r swm sy’n ddyledus gennych hyd yn oed os nad ydych chi’n gweithio neu mae eich incwm yn is na’r trothwy ad-dalu.
Gallwch weld sut mae’r llog wedi’i gymhwyso yn eich datganiad blynyddol. Mae hwn fel arfer ar gael yn eich cyfrif ad-dalu ar-lein erbyn diwedd mis Awst.
Llog os ydych chi ar Gynllun 2
Mae llog Cynllun 2 yn Gyfradd Llog Amrywiol (VIR). Mae hyn yn golygu bod y llog rydych chi’n ei dalu yn gallu newid yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Wrth i chi astudio
Fel arfer byddwch yn talu cyfradd llog penodol o’r Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) ynghyd â 3%, ond ar hyn o bryd mae cyfyngiad (neu ‘cap’) o 6%. Byddwch yn talu ar y gyfradd hon o’r diwrnod cyntaf y gwneir eich taliad cyntaf i chi, neu i’ch prifysgol neu’ch coleg.
Bydd y gyfradd llog y byddwch yn ei thalu yn newid, naill ai:
- ar 6 Ebrill wedi i chi orffen neu adael eich cwrs
- ar 6 Ebrill 4 blynedd ar ôl i’r cwrs ddechrau, os ydych chi’n astudio’n rhan amser a bod eich cwrs yn hirach na 4 mlynedd
Ar ôl i chi orffen neu adael eich cwrs
Caiff VIR ei godi arnoch yn seiliedig ar eich incwm blynyddol. Dyma’r RPI fel arfer plws hyd at 3%, ond mae terfyn (neu ‘cap’) o 6% ar hyn o bryd.
| Incwm blynyddol | Cyfradd llog |
|---|---|
| £29,385 neu lai | 4.1% |
| £29,386 i £52,884 | 4.1%, plws hyd at 1.9% |
| £52,885 neu fwy | 6% |
Gallwch gael mwy o wybodaeth am:
- sut y caiff llog Cynllun 1 ei gyfrifo a chyfraddau llog ar gyfer blynyddoedd blaenorol
- sut y caiff llog Cynllun 2 ei gyfrifo a chyfraddau llog ar gyfer blynyddoedd blaenorol
- sut y caiff llog Cynllun 4 ei gyfrifo a chyfraddau llog ar gyfer blynyddoedd blaenorol
- sut y caiff llog Cynllun 5 ei gyfrifo a chyfraddau llog ar gyfer blynyddoedd blaenorol
- sut y caiff llog Benthyciad Ôl-raddedig ei gyfrifo a chyfraddau llog ar gyfer blynyddoedd blaenorol
Os ydych ar fwy nag un math o gynllun ac nid oes gennych Fenthyciad Ôl-raddedig
Byddwch yn ad-dalu 9% o’ch incwm sydd dros y trothwy isaf o’r mathau o gynlluniau sydd gennych.
Dim ond un ad-daliad fydd yn cael ei dynnu pob tro y cewch eich talu, hyd yn oed os ydych yn talu tuag at fwy nag un benthyciad.
Enghraifft
Rydych ar Gynllun 1 a Chynllun 2. Mae gennych incwm o £38,400 y flwyddyn, sy’n golygu bod £3,200 yn cael ei dalu i chi bob mis.
Mae £3,200 dros drothwy misol Cynllun 1 o £2,241 a throthwy misol Cynllun 2 o £2,448.
Byddwch yn ad-dalu 9% o’ch incwm sydd dros £2,241 y mis gan mai dyna yw trothwy isaf y mathau o gynlluniau sydd gennych.
Cyfrifiad:
£3,200 - £2,241 (eich incwm tynnu’r trothwy isaf) = £959
9% o £959 = £86.31
Mae hyn yn golygu mai £86 yw’r swm y byddech yn ei ad-dalu pob mis.
Pan gaiff eich ad-daliad ei rannu rhwng benthyciadau
Mae terfyn (neu ‘cap’) i’r swm y gallwch ei ad-dalu pob mis tuag at y math cynllun sydd â’r trothwy isaf.
Mae’r gwahaniaeth rhwng y trothwyon ar gyfer pob cynllun yn pennu faint fydd y cap.
Os ydych yn mynd y dros y cap, bydd gweddill eich ad-daliad yn mynd tuag at eich benthyciadau eraill.
Enghraifft
Rydych ar Gynllun 1 a Chynllun 2. Rydych yn talu £86 y mis.
Bydd y cap yn berthnasol i’ch benthyciad Cynllun 1 gan fod ganddo’r trothwy isaf. Bydd unrhyw swm rydych yn ei ad-dalu dros y cap yn mynd tuag at eich benthyciad Cynllun 2.
Cyfrifiad:
£2,448 - £2,241 (Trothwy Cynllun 2 tynnu Trothwy Cynllun 1) = £207
9% (cyfradd Cynllun 1) o £200 = £18.63
Y cap taliad misol ar gyfer eich benthyciad Cynllun 1 yw £18.
Bydd £18 o’ch £86 o ad-daliad yn mynd tuag at eich benthyciad Cynllun 1 a’r £68 sy’n weddill yn mynd tuag at eich benthyciad Cynllun 2.
Os ydych ar fwy nag un math o gynllun ac mae gennych Fenthyciad Ôl-raddedig
Byddwch yn ad-dalu 6% o’ch incwm dros y trothwy Benthyciad Ôl-raddedig (£21,000 y flwyddyn) a 9% o’ch incwm dros y trothwy isaf ar gyfer unrhyw fathau o gynlluniau eraill sydd gennych.
Enghraifft
Mae gennych Fenthyciad Ôl-raddedig a benthyciad Cynllun 2 ac mae gennych incwm o £30,000 y flwyddyn, sy’n golygu bod £2,500 yn cael ei dalu i chi bob mis. Mae hwn dros drothwy’r Benthyciad Ôl-raddedig o £1,750 a throthwy Cynllun 2 o £2,448.
Cyfrifiad:
£2,500 – £1,750 (eich incwm tynnu trothwy Benthyciad Ôl-raddedig) = £750
6% o £750 = £45
£2,500 – £2,448 (eich incwm tynnu trothwy Cynllun 2) = £52
9% o £52 = £4.68
Mae hyn yn golygu mai £49 yw’r swm y byddech yn ei ad-dalu pob mis.
Os ydych yn cael eich cyflogi ac mae gennych fwy nag un cyflogwr
Dim ond o swyddi lle cewch eich talu dros y trothwy ar gyfer y math o gynllun sydd gennych y byddwch yn gwneud ad-daliadau, nid eich incwm cyfunol.
Enghraifft
Mae gennych fenthyciad Cynllun 1 ac mae gennych 2 swydd. Cyn treth a didyniadau eraill, rydych yn cael eich talu £1,000 y mis o un swydd a £800 y mis o’r swydd arall.
Ni fydd rhaid i chi ad-dalu gan nad yw’r un o’r ddau gyflog yn uwch na’r trothwy o £2,241 y mis.
Enghraifft
Mae gennych fenthyciad Cynllun 2 ac mae gennych 2 swydd. Cyn treth a didyniadau eraill, rydych yn cael eich talu £2,500 y mis o un swydd a £500 y mis o’r swydd arall.
Dim ond ar yr incwm o’r swydd sy’n talu £2,500 y mis i chi y byddwch yn gwneud ad-daliadau arno oherwydd ei fod yn uwch na’r trothwy £2,448.
Os ydych yn hunangyflogedig neu’n cwblhau ffurflen dreth Hunanasesu am reswm arall
Bydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) yn cyfrifo faint y byddwch yn ei ad-dalu pob blwyddyn o’ch ffurflen dreth Hunanasesu. Bydd eich ad-daliadau’n seiliedig ar eich incwm ar gyfer y flwyddyn gyfan.
Os ydych yn cael eich cyflogi hefyd
Mae faint y byddwch yn ei ad-dalu yn dibynnu ar eich incwm cyfunol ar gyfer y flwyddyn gyfan.
Enghraifft
Mae gennych fenthyciad Cynllun 1 ac rydych yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig.
Mae gennych incwm o £32,000 y flwyddyn o’ch hunangyflogaeth a £10,000 y flwyddyn o swydd gyda chyflogwr.
Bydd eich ffurflen dreth Hunanasesu yn dangos mai £42,000 yw eich incwm cyfunol. Mae hwn yn uwch na’r trothwy blynyddol ar gyfer Cynllun 1.
Cyfrifiad:
£42,000 - £26,900 (eich incwm tynnu trothwy Cynllun 1) = £15,100
9% o £15,100 = £1,359
Mae hyn yn golygu mai’r swm y byddech yn ei ad-dalu pob blwyddyn fyddai £1,359.
Os ydych eisoes wedi gwneud ad-daliadau o gyflog, bydd CThEF yn eu tynnu o’r swm y mae’n rhaid i chi ei ad-dalu.