Rheoli balans eich benthyciad myfyrwyr

Mewngofnodwch i’ch cyfrif ad-daliadau benthyciad myfyriwr:

  • i wirio eich balans
  • i weld faint ydych chi wedi ei ad-dalu tuag at eich benthyciad
  • i weld faint o log sydd wedi ei godi ar eich benthyciad hyd yma
  • i wneud ad-daliad untro
  • i sefydlu a gwneud newidiadau i Ddebydau Uniongyrchol
  • i wirio pa gynllun ad-dalu ydych chi arno
  • i wirio a diweddaru eich manylion banc
  • i argraffu prawf o’ch cynllun ad-dalu os oes angen i chi ei ddangos i’ch cyflogwr
  • i roi gwybod i’ch Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) os ydych chi wedi newid eich manylion cyswllt
  • i weld llythyrau a negeseuon e-bost mae SLC wedi eu hanfon atoch
  • i ad-dalu yn eich arian lleol os ydych chi’n byw dramor – mae hyn yn cynnwys taliadau cerdyn cylchol

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael hefyd yn Saesneg (English).

At hynny, gallwch wneud ad-daliadau a wneir unwaith yn unig tuag at eich benthyciad myfyrwyr chi, neu fenthyciad rhywun arall, heb fewngofnodi.

Bydd angen defnyddio gwasanaeth arall i ddiweddaru manylion eich cyflogaeth, er enghraifft os byddwch yn gadael y DU am fwy na 3 mis.

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

I fewngofnodi, bydd arnoch angen:

  • eich cyfeirnod cwsmer neu’ch cyfeiriad ebost
  • eich cyfrinair
  • eich ateb cyfrinachol, er enghraifft enw eich mam cyn priodi

Os nad ydych yn gwybod y manylion hyn, gallwch eu hailosod drwy ddefnyddio’r cyfeiriad ebost a oedd gennych pan wnaethoch gais am eich benthyciad. Cysylltwch â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr os ydych wedi newid eich cyfeiriad ebost.