Ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr
Diweddaru eich manylion cyflogaeth
Mae angen i chi ddiweddaru eich manylion os byddwch:
- 
    yn gadael y DU am fwy na 3 mis 
- 
    yn dychwelyd i’r Deyrnas Unedig wedi mwy na 3 mis i ffwrdd 
- 
    yn cael llythyr neu e-bost gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn gofyn i chi ddiweddaru eich manylion cyflogaeth 
Mae SLC yn defnyddio’r manylion hyn i gyfrifo os dylech fod yn ad-dalu eich benthyciad.
Efallai y codir cyfradd llog uwch arnoch os na fyddwch yn diweddaru eich manylion.