Ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr
Pryd y byddwch yn dechrau ad-dalu
Byddwch yn ad-dalu eich benthyciad i fyfyrwyr pan fydd eich incwm yn uwch na’r swm trothwy ar gyfer eich cynllun ad-dalu, oni bai bod gormod o arian wedi’i dalu i chi.
Eich incwm yw’r swm rydych yn ei ennill (gan gynnwys elfennau fel bonws a goramser) cyn treth a didyniadau eraill.
Mae’r symiau trothwy yn newid ar 6 Ebrill bob blwyddyn.
Y cynharaf y byddwch yn dechrau ad-dalu yw’r mis Ebrill ar ôl i chi adael eich cwrs. Os ydych yn astudio mwy nag un cwrs ar yr un pryd, gallent gael dyddiadau dechrau ad-dalu gwahanol.
Os ydych yn astudio cwrs rhan amser, byddwch yn dechrau ad-dalu yn y mis Ebrill sy’n disgyn 4 blynedd ar ôl i’ch cwrs dechrau, cyhyd â bod y cwrs:
- yn hirach na 4 blynedd
- wedi dechrau cyn 1 Ionawr 2027
Mae eich ad-daliadau’n cael eu gohirio’n awtomatig:
- os ydych yn rhoi’r gorau i weithio neu
- os yw eich incwm yn disgyn yn is na’r trothwy
Byddwch yn ad-dalu os yw eich incwm yn mynd y tu hwnt i’r trothwy wythnosol neu fisol ar gyfer eich cynllun (er enghraifft, os oes bonws neu oramser yn cael ei dalu i chi). Gallwch ofyn am arian yn ôl ar ddiwedd y flwyddyn dreth os oedd eich incwm blynyddol yn llai na’r trothwy blynyddol ar gyfer eich cynllun.
Os oes gennych fenthyciad myfyrwyr Cynllun 1
Dim ond pan fydd eich incwm dros £517 yr wythnos, £2,241 y mis neu £26,900 y flwyddyn y byddwch chi’n ad-dalu.
Os oes gennych fenthyciad myfyrwyr Cynllun 2
Dim ond pan fydd eich incwm dros £565 yr wythnos, £2,448 y mis neu £29,385 y flwyddyn y byddwch chi’n ad-dalu.
Os oes gennych fenthyciad myfyrwyr Cynllun 4
Dim ond pan fydd eich incwm dros £649 yr wythnos, £2,816 y mis neu £33,795 y flwyddyn y byddwch chi’n ad-dalu.
Os oes gennych fenthyciad myfyrwyr Cynllun 5
Dim ond pan fydd eich incwm dros £480 yr wythnos, £2,083 y mis neu £25,000 y flwyddyn y byddwch chi’n ad-dalu.
Os ydych ar gynllun ad-dalu Benthyciad Ôl-raddedig
Os cawsoch Fenthyciad Meistr neu Fenthyciad Doethurol, dim ond pan fydd eich incwm dros £403 yr wythnos, £1,750 y mis neu £21,000 y flwyddyn y byddwch yn ad-dalu.
Ad-daliadau cynnar
Nid oes unrhyw gosb am dalu rhywfaint neu’r cyfan o’ch benthyciad yn gynnar.
Effaith ad-daliadau ar fenthyciadau eraill
Nid yw benthyciadau i fyfyrwyr yn ymddangos ar adroddiadau credyd ac nid ydynt yn effeithio ar eich sgôr credyd. Fodd bynnag, efallai y bydd benthycwyr yn eu hystyried yn ystod gwiriadau fforddiadwyedd ar gyfer mathau eraill o fenthyciadau, er enghraifft morgais.
Ad-dalu gordaliad
Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn cysylltu â chi os oes mwy o grant neu fenthyciad myfyrwyr yn cael ei dalu i chi nag y mae gennych yr hawl iddo.
Mae’n rhaid i chi ad-dalu hwn yn ychwanegol at weddill eich benthyciad myfyrwyr.
Darllenwch ragor ynghylch ad-dalu gor-daliad.