Ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr
Sut i ad-dalu
Bydd eich ad-daliadau’n cael eu tynnu o’ch cyflog ar yr un pryd â’ch treth a’ch Yswiriant Gwladol os ydych yn weithiwr. Bydd eich slipiau cyflog yn dangos faint sydd wedi cael ei dynnu. Dylech wirio bod eich cyflogwr wedi nodi’r cynllun ad-dalu cywir ar eich cyfer.
Rydych yn dechrau ad-dalu pan mae eich incwm yn fwy na’r isafswm.
Nid oes unrhyw gosb os ydych yn gwneud ad-daliadau ychwanegol i dalu rhywfaint neu’r cyfan o’ch benthyciad yn gynnar.
Os ydych yn hunangyflogedig neu’n cwblhau ffurflen dreth Hunanasesu am reswm arall
Bydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) yn cyfrifo faint y byddwch yn ei dalu o’ch ffurflen dreth Hunanasesu. Byddwch yn talu ar yr un adeg ag y byddwch yn talu eich treth.
Os ydych yn cael eich cyflogi hefyd
Os ydych yn ennill mwy na’r isafswm, bydd eich cyflogwr yn tynnu ad-daliadau benthyciad o’ch cyflog.
Cymerwch olwg ar eich slipiau cyflog neu eich P60 i weld faint o’ch benthyciad rydych wedi’i dalu yn ystod y flwyddyn dreth.
Bydd angen i chi gynnwys y wybodaeth hon pan fyddwch yn llenwi eich ffurflen dreth.
Mae’r flwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.
Os ydych yn cael incwm o bensiwn hefyd
Bydd CThEF yn defnyddio cyfanswm eich incwm blynyddol wrth gyfrifo ad-daliadau benthyciad myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys unrhyw incwm a gewch:
- o bensiwn gweithle
- o bensiwn preifat
- o Bensiwn y Wladwriaeth
Dim ond os yw cyfanswm eich incwm blynyddol, gan gynnwys eich pensiwn, yn uwch na’r trothwy ad-dalu.
Os ydych yn gadael y DU am fwy na 3 mis
Mae’n rhaid i chi ddiweddaru eich manylion cyflogaeth er mwyn rhoi gwybod i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) eich bod wedi gadael y DU.
Bydd angen i chi barhau i ad-dalu eich benthyciad oni bai eich bod yn darparu tystiolaeth bod eich incwm yn is na’r trothwy.
Os nad ydych yn diweddaru eich manylion, gallech gronni ôl-ddyledion ar eich cyfrif. Bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r rhain hyd yn oed os yw eich incwm yn is na’r trothwy ar gyfer eich cynllun ad-dalu. Bydd angen i chi ad-dalu unrhyw ôl-ddyledion yn ychwanegol at eich ad-daliadau misol.
Er mwyn sicrhau eich bod yn ad-dalu’r swm cywir, bydd angen i chi ddiweddaru eich manylion cyflogaeth pob blwyddyn.
Trothwyon ad-dalu ar gyfer gwledydd gwahanol
Mae’r rheolau ar gyfer ad-dalu yr un fath â’r rhai yn y DU, ar wahân i drothwyon ad-dalu gwahanol ar gyfer pob gwlad.
Os ydych mewn gwlad dramor, mae eich symiau ad-dalu yn seiliedig ar y canlynol:
- y lleiafswm dan Gynllun 1 ar gyfer y wlad honno
- y lleiafswm dan Gynllun 2 ar gyfer y wlad honno
- y lleiafswm dan Gynllun 4 ar gyfer y wlad honno
- y lleiafswm dan Gynllun 5 ar gyfer y wlad honno
- y lleiafswm dan y cynllun Benthyciad Ôl-raddedig ar gyfer y wlad honno
Ar ôl i SLC ddweud wrthych faint sydd angen i chi ei ad-dalu, gallwch wneud ad-daliadau:
- drwy eich cyfrif ar-lein
- drwy Drosglwyddiad Banc Rhyngwladol (IBAN)
Cyfrif ar-lein
Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein er mwyn:
- gwneud taliad untro neu sefydlu taliadau cerdyn rheolaidd drwy ddefnyddio cerdyn debyd rhyngwladol
- sefydlu Debyd Uniongyrchol
Gallwch hefyd ddefnyddio eich cyfrif ar-lein i ddiweddaru eich manylion cyswllt a gwneud ad-daliadau ychwanegol.
Trosglwyddiad Banc Rhyngwladol
Er mwyn trosglwyddo arian o gyfrif banc y tu allan i’r DU, defnyddiwch y manylion canlynol:
IBAN: GB37NWBK60708010027254
SWIFT: NWBKGB2L
NatWest Government Banking Team
NatWest Customer Service Centre
Brampton Road
Newcastle-under-Lyme
Staffordshire
ST5 0QX
Defnyddiwch un o’r rhain fel eich cyfeirnod:
- cyfeirnod cwsmer (CRN)
- cyfeirnod grant (os yw ar gyfer ad-daliad grant)
Os byddwch yn dychwelyd i’r DU ar ôl mwy na 3 mis i ffwrdd
Mae’n rhaid i chi ddiweddaru eich manylion cyflogaeth pan fyddwch yn dychwelyd i’r DU ar ôl mwy na 3 mis i ffwrdd.
Os nad ydych chi’n gwneud hynny, byddwch yn parhau i ad-dalu eich benthyciad ar gyfradd y wlad rydych wedi bod yn byw ynddi. Gallai hyn olygu:
- talu mwy na sydd angen i chi
- bod cyfradd llog uwch yn cael ei chodi arnoch
Gwirio eich ad-daliadau
Gallwch wirio eich ad-daliadau a’ch balans yn eich:
- datganiadau blynyddol gan SLC
- cyfrif ar-lein
Os fydd eich manylion cyswllt yn newid, mae’n rhaid i chi eu diweddaru ar eich cyfrif ar-lein.
Osgowch dalu mwy nag sydd arnoch chi
Os ydych bron wedi ad-dalu eich benthyciad, efallai y gallwch wneud eich ad-daliadau olaf drwy Ddebyd Uniongyrchol yn hytrach nag o’ch cyflog.
Mae hyn yn sicrhau na fydd eich cyflogwr yn tynnu mwy nag sydd arnoch chi yn ddamweiniol.
Bydd SLC yn cysylltu â chi yn ystod blwyddyn olaf ad-daliadau eich benthyciad i roi gwybod i chi sut i sefydlu Debyd Uniongyrchol.
Cadwch eich manylion cyswllt yn gyfredol yn eich cyfrif ar-lein.