Canllawiau

Trothwyau enillion tramor ar gyfer benthyciadau i fyfyrwyr ôl-raddedig

Dim ond pan fyddwch yn ennill mwy na’r isafswm y byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr. Mae’r trothwyau enillion yn amrywio o’r naill wlad dramor i’r llall.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Manylion

Os ydych yn byw dramor neu’n gweithio i gyflogwr tramor, gallai’r isafswm y mae’n rhaid i chi ei ennill fod yn wahanol i’r isafswm sy’n berthnasol i’r DU.

Caiff trothwyau enillion ar gyfer gwledydd tramor eu pennu bob blwyddyn. Maent yn disgrifio’r isafswm y mae’n rhaid i chi ei ennill mewn gwlad cyn y byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad.

Mae’r trothwyau yn ystyried y gwahaniaethau rhwng costau byw yn y wlad dan sylw a chostau byw yn y DU. Caiff y cyfraddau cyfnewid a ddefnyddir i gyfrifo’r trothwyau eu darparu hefyd.

Yn achos pob gwlad, ceir swm penodol i’w ad-dalu bob mis. Dyma’r swm y gallech fod yn ei dalu bob mis os na fyddwch yn rhoi gwybod i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr am eich incwm.

Caiff trothwyau enillion tramor ar gyfer ad-dalu benthyciadau myfyrwyr eu seilio ar y canlynol:

  • y trothwy enillion blynyddol ar gyfer y DU yn ystod y cyfnod dan sylw

  • data Banc y Byd, sy’n mesur y gwahaniaethau rhwng lefelau prisiau cyffredinol o’r naill wlad i’r llall

  • y cyfraddau cyfnewid, a gyfrifir fel y gyfradd gyfartalog ar gyfer y flwyddyn galendr flaenorol yn y DU.

Cyhoeddwyd ar 6 April 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 April 2023 + show all updates
  1. Thresholds have been updated for the 2023-24 tax year.

  2. Overseas earnings thresholds HTMLs updated for the 2022-23 tax year

  3. Corrected threshold information for the Channel Islands.

  4. Updated the HTML attachments (English and Welsh) in line with the new overseas thresholds coming in for 2021/22 tax year

  5. Updated thresholds for 2020-21

  6. Added Welsh language translation.

  7. First published.