Canllawiau

Trothwyau enillion tramor ar gyfer benthyciadau myfyrwyr Cynllun 4

Dim ond pan fyddwch yn ennill mwy na'r trothwy ad-dalu y byddwch yn gwneud ad-daliadau i'ch benthyciad myfyriwr. Mae yna drothwyon ad-dalu gwahanol ar gyfer gwahanol wledydd.

Applies to Scotland

Dogfennau

Manylion

Mae’r canllaw hwn yn berthnasol i gwsmeriaid Cynllun 4. Rydych chi’n gwsmer Cynllun 4 os cawsoch arian gan Student Awards Agency Scotland.

Gallwch hefyd ddarganfod y trothwyon ad-dalu tramor ar gyfer Cynllun 1, Cynllun 2 ac ad-daliadau Benthyciad Ôl-raddedig. Gwiriwch pa gynllun ad-dalu rydych chi arno.

Sut y gosodir y trothwyon ad-dalu tramor bob blwyddyn

Mae trothwyon tramor yn seiliedig ar gostau byw ym mhob gwlad unigol. Dyma pam nad yw’r trothwy ad-dalu bob amser yr un fath ag y mae ar gyfer y rheini yn y Deyrnas Unedig.

Defnyddir y Mynegai Lefelau Prisiau (PLI) i fesur y gwahaniaethau yn y lefelau prisiau cyffredinol ar gyfer pob gwlad, er enghraifft, costau bwyd, tai a thrafnidiaeth, er mwyn caniatáu i drothwy tebyg gael ei osod.

Pennir y trothwyon ad-dalu ar gyfer pob gwlad unwaith y flwyddyn ar 6 Ebrill.  Gall newidiadau i hyn effeithio ar faint sydd angen i chi ei ad-dalu hyd yn oed os yw eich incwm wedi aros yr un fath.

Daw’r wybodaeth PLI o’r flwyddyn ddiweddaraf a gyhoeddwyd gan Fanc y Byd.

Sut rydym yn gweithio allan y gyfradd gyfnewid a ddefnyddir bob blwyddyn

Mae’r gyfradd gyfnewid a ddefnyddiwn i drosi eich cyflog i GBP yn seiliedig ar y cyfraddau cyfnewid arian cyfred cyfartalog ar gyfer y flwyddyn galendr ddiweddaraf a gyhoeddwyd gan CThEF.

Caiff y rhain eu hadolygu bob blwyddyn ar 6 Ebrill. Ni fyddant yn dangos unrhyw newidiadau cyfradd o fis i fis.

Sut rydym yn cyfrifo eich cyflog blynyddol gros gan ddefnyddio eich slipiau cyflog

Os cewch eich talu’n fisol, byddwn yn defnyddio’ch incwm o’ch slipiau cyflog am y tri mis diwethaf i gyfrifo’ch cyflog misol cyfartalog. Yna rydym yn lluosi hwn â 12 mis i gyfanswm eich cyflog blynyddol gros.

Enghraifft: 

Incwm mis 1 £2,500
Incwm mis 2 £3,000
Incwm mis 3 £2,750

£2,500 + £3,000 + £2,750 = £8,250

£8,250 / 3 = £2,750 cyflog misol cyfartalog

£2,750 x 12 mis = £33,000 o gyflog blynyddol gros

Os cewch eich talu’n wythnosol, byddwn yn defnyddio’r incwm cyfartalog o’ch slipiau cyflog am y 12 wythnos diwethaf ac yn lluosi hwn â 52 wythnos i gyfrifo’ch cyflog blynyddol gros.

Os ydych yn cael eich talu bob yn ail wythnos neu bob pythefnos, byddwn yn defnyddio’r incwm cyfartalog o’ch slipiau cyflog am y 6 wythnos ddiwethaf ac yn lluosi hwn â 24 wythnos (ar gyfer tâl bob yn ail wythnos) neu 26 wythnos (ar gyfer tâl bob pythefnos) i gyfrifo’ch cyflog blynyddol gros.

Bonysau a goramser

Bydd unrhyw fonysau, goramser, comisiwn a lwfansau:

  • sydd yn daliadau untro yn cael eu hychwanegu at eich incwm blynyddol ar ôl iddo gael ei gyfrifo
  • a dderbynnir yn rheolaidd yn cael ei gynnwys wrth gyfrifo eich incwm blynyddol.

Blwydd-dal pensiwn

Ni fydd taliadau blwydd-dal pensiwn yn cael eu cynnwys pan fyddwn yn cyfrifo swm eich ad-daliad misol.

Os cewch eich talu mwy na 12 gwaith y flwyddyn

Mewn rhai gwledydd mae gweithwyr yn cael eu talu mwy na 12 gwaith y flwyddyn. 

Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn defnyddio’r incwm o’ch slipiau cyflog am y tri mis diwethaf i gyfrifo’ch cyflog misol cyfartalog.  Bydd hwn wedyn yn cael ei luosi â nifer y cyfnodau tâl mewn blwyddyn lawn i gyfrifo eich cyflog blynyddol gros.  

Sut rydym yn cyfrifo eich amserlen ad-dalu

Rydym yn defnyddio’r tabl “trothwy ad-dalu tramor ar gyfer Cynllun 4” i gyfrifo swm eich ad-daliad, drwy ddefnyddio’r camau canlynol:

  1. Byddwn yn trosi eich cyflog blynyddol gros yn GBP drwy ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid ar gyfer y wlad rydych yn byw ynddi.
  2. Yna byddwn yn tynnu’r “trothwy ad-dalu (GBP)” ar gyfer y wlad honno o’ch cyflog blynyddol.
  3. Byddwch yn ad-dalu 9% o’r swm sy’n weddill. Caiff hwn ei rannu dros 12 mis i roi swm eich ad-daliad misol i chi.

Er enghraifft:

Rydych chi ar Gynllun 4, yn byw yn Sbaen ac mae gennych incwm o €33,000 y flwyddyn.

Trosir eich cyflog i GBP gan ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid ar gyfer Sbaen sef 0.869943:

€33,000 x 0.869943 = £28,708.11.

Y trothwy ad-dalu ar gyfer Sbaen yw £25,120.

Caiff hwn ei dynnu o’ch enillion blynyddol:

£28,708.11 - £25,120 = £3,588.11

Rydych yn ad-dalu 9% o’r ffigwr hwn (£3,588.11 x 0.09) sef £322.92.

Rhennir hyn yn 12 taliad misol o £26.91 (wedi’i dalgrynnu i lawr i £26).

Cadwch fanylion eich cyflogaeth yn gyfredol os ydych yn mynd dramor

Os ydych chi dramor am fwy na thri mis, mae angen i chi roi gwybodaeth i ni am sut rydych chi’n cynnal eich hun yn ariannol. Gallwch ddiweddaru eich manylion cyflogaeth ar-lein, hyd yn oed i roi gwybod i ni eich bod yn ddi-waith. Bydd y gwasanaeth ar-lein yn dweud wrthych yn union pa wybodaeth sydd ei hangen arnom gennych chi.

Mae hyn yn ein galluogi i benderfynu a ydych ar fin dechrau gwneud ad-daliadau. Os ydych i fod i ddechrau ad-dalu, byddwn yn rhoi cynllun ad-dalu cywir i chi yn seiliedig ar eich enillion neu’n gohirio eich ad-daliadau am 12 mis os ydych yn ennill o dan y trothwy. 

Os na fyddwch yn ein diweddaru, yna disgwylir yr ad-daliad misol sefydlog a ddangosir ar gyfer y wlad rydych yn byw ynddi bob mis.

Os na wneir ad-daliadau, bydd balans gorddyledus yn cronni ar eich cyfrif

Cyhoeddwyd ar 6 April 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 April 2024 + show all updates
  1. Corrections have been made to some thresholds

  2. Corrections have been made to some countries' thresholds

  3. Information has been updated for the 2024-25 tax year

  4. Thresholds have been updated for the 2023-24 tax year

  5. Overseas earnings thresholds HTMLs have been updated for the 2022-23 tax year.

  6. Updated to highlight oversears thresholds for students to self identify

  7. Corrected threshold information for the Channel Islands

  8. Added translation