Skip to main content

Ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr

Sgipio cynnwys

Pa gynllun ad-dalu rydych arno

Mae pryd y byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad a faint y byddwch yn ei ad-dalu yn dibynnu ar eich cynllun ad-dalu.

Os nad ydych chi’n siŵr pa gynllun ad-dalu rydych arno, gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein i wirio.

Ni allwch ddewis eich cynllun ad-dalu. Os oes gennych fwy nag un benthyciad, gallech fod ar gynlluniau gwahanol.

Os gwnaethoch gais i Gyllid Myfyrwyr Lloegr

Mae’r cynllun ad-dalu rydych arno’n dibynnu ar bryd y gwnaethoch ddechrau eich cwrs a pha fath o gwrs y gwnaethoch ei astudio.

Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2023

Byddwch ar Gynllun 5 os:

Byddwch ar gynllun Benthyciad Ôl-raddedig os ydych yn astudio cwrs meistr neu ddoethurol ôl-raddedig. Byddwch ar Gynllun 2 os ydych yn cael Benthyciad Cwrs Byr Addysg Uwch.

Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs rhwng 1 Medi 2012 a 31 Gorffennaf 2023

Byddwch ar Gynllun 2 os:

Byddwch ar gynllun Benthyciad Ôl-raddedig os ydych yn astudio cwrs meistr neu ddoethurol ôl-raddedig.

Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs cyn 1 Medi 2012

Rydych ar Gynllun 1.

Os gwnaethoch gais i Gyllid Myfyrwyr Cymru

Mae’r cynllun ad-dalu rydych arno’n dibynnu ar bryd y gwnaethoch ddechrau eich cwrs a pha fath o gwrs y gwnaethoch ei astudio.

Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2012

Rydych ar:

  • Gynllun 2 os gwnaethoch astudio cwrs israddedig neu Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR)
  • Gynllun Benthyciad Ôl-raddedig os gwnaethoch astudio cwrs meistr neu ddoethurol ôl-raddedig

Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs cyn 1 Medi 2012

Rydych ar Gynllun 1.

Os gwnaethoch gais i Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban

Rydych ar Gynllun 4, p’un a wnaethoch astudio cwrs israddedig neu gwrs ôl-raddedig.

Os gwnaethoch gais i Gyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon

Rydych ar Gynllun 1, p’un a wnaethoch astudio cwrs israddedig neu gwrs ôl-raddedig.

Os ydych yn meddwl eich bod ar y cynllun anghywir

Cymerwch olwg ar ba gynllun rydych arno drwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein a lawrlwythwch eich ‘llythyr math cynllun gweithredol’. Yna gofynnwch i’ch cyflogwr pa gynllun sydd wedi’i nodi ganddo ar eich cyfer.

Os yw’n wahanol i’r cynllun ar eich llythyr, dangoswch hwn i’ch cyflogwr er mwyn iddo allu diweddaru eich manylion cyflogres. Gallwch gael arian yn ôl os gwnaethoch chi dalu gormod o’ch benthyciad yn ôl gan eich bod ar y math anghywir o gynllun.