Canllawiau

Canslo benthyciad yn rhannol yng Nghymru

Gallai myfyrwyr llawn-amser sydd wedi cymryd Benthyciad Cynhaliaeth gan Cyllid Myfyrwyr Cymru ganslo hyd at £1,500.

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn a gynigir gan Lywodraeth Cymru:

  • rhaid eich bod wedi bod yn fyfyriwr llawn-amser
  • rhaid eich bod wedi cymryd Benthyciad Cynhaliaeth gan Cyllid Myfyrwyr Cymru ers blwyddyn academaidd 2010/11
  • rhaid eich bod wedi dechrau ad-dalu neu’ch bod wedi gwneud ad-daliad gwirfoddol

Faint o’r Benthyciad Cynhaliaeth fydd yn cael ei ganslo

Pan fyddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr, gallai Llywodraeth Cymru ddileu hyd at £1,500 o unrhyw falans Benthyciad Cynhaliaeth ar gyfer myfyriwr llawn-amser. Os byddwch yn cymryd benthyciad yn ystod mwy nag un flwyddyn academaidd, dim ond i’r Benthyciad Cynhaliaeth cyntaf a gymerwyd gennych y bydd y cynllun dileu’n berthnasol. Bydd y swm a gaiff ei ddileu’n dibynnu ar swm eich ad-daliad cyntaf. Gallwch gael gwybod mwy ar www.llyw.cymru/cyllid-myfyrwyr-y-cynllun-dileu-rhannol.

Os yw eich incwm ar hyn o bryd yn rhy isel i chi fod yn ad-dalu, byddwch yn dal yn gallu canslo rhan o’ch Benthyciad Cynhaliaeth os byddwch yn dechrau ad-dalu yn y dyfodol.

Dim ond unwaith y gallwch fanteisio ar y cynllun i ganslo benthyciad. Ni allwch fanteisio arno os oes gennych unrhyw daliadau, costau, treuliau neu gosbau sydd heb eu talu yng nghyswllt eich benthyciad, neu os ydych yn gweithredu’n groes i gytundeb eich benthyciad.

Nid oes rhaid i chi fod yn gwneud ad-daliadau trwy eich cyflog i fod yn gymwys ar gyfer y canslo o £1,500, gallwch wneud ad-daliad gwirfoddol o £5 i’w actifadu.

Enghreifftiau

Unwaith y byddwch wedi gorffen neu adael eich cwrs, bydd y swm gaiff ei ganslo yn dibynnu ar:

  • faint sydd wedi ei ad-dalu
  • y balans ar ôl i’r ad-daliad gael ei wneud
Balans Benthyciad Cynhaliaeth Cyntaf Swm yr ad-daliad cyntaf Balans sy’n weddill Swm a ganslwyd
£200 £200 £0 £0
£1,000 £5 £995 £995
£3,000 £1,000 £2,000 £1,500
Cyhoeddwyd ar 13 August 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 July 2023 + show all updates
  1. Examples have been updated

  2. Updates have been made to explain how repayments are allocated to a customer's student loans, and how those repayments can trigger the Welsh partial cancellation policy.

  3. Bulletpoint updated to include 'made a voluntary repayment'

  4. Content has been updated to include more in-depth guidance about the Welsh Partial Cancellation Policy.

  5. Added translation