Canllawiau

Canslo benthyciad myfyrwyr – os bydd cwsmer yn marw

Os bydd cwsmer yn marw, gellir canslo ei fenthyciad myfyrwyr.

Gallwch ffonio’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr neu ysgrifennu ato i ddweud wrtho bod rhywun wedi marw.

Y dystiolaeth y bydd angen i chi ei hanfon

Bydd angen i chi roi i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr gyfeirnod cwsmer y sawl sydd wedi marw, ac anfon un o’r canlynol:

  • y copi gwreiddiol o’r dystysgrif marwolaeth
  • y copi gwreiddiol o dystysgrif interim y crwner
  • copi o dystysgrif y crwner, wedi’i stampio gan y crwner
  • copi o dystysgrif marwolaeth dramor

Ni all y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ganslo unrhyw fenthyciadau heb dystiolaeth.

Cysylltu â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr

Dros y ffôn

Yn y DU: 0300 100 0611
Dramor: +44 141 243 3660
Llun-Gwener, rhwng 8am ac 6pm

Yn byw yng Nghymru: 0300 100 0370
Llun-Gwener, rhwng 8am a 6pm

Drwy’r post

Student Loans Company
10 Clyde Place
Glasgow
G5 8DF

Cyhoeddwyd ar 13 August 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 December 2023 + show all updates
  1. Have updated address and opening hours.

  2. Added translation