Canllawiau

Rhoi gwybod i CThEM ac ad-dalu grant y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth

Dysgwch beth i’w wneud os oes angen i chi ad-dalu rhywfaint o’r grant SEISS neu’r cyfan ohono.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEM os nad oeddech yn gymwys am y grant pan wnaethoch yr hawliad. Er enghraifft:

Mae’n rhaid i chi hefyd rhoi gwybod i ni os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • cawsoch fwy na’r hyn yr oeddem wedi rhoi gwybod i chi fod gennych yr hawl iddo
  • gwnaethoch ddiwygio unrhyw un o’ch Ffurflenni Treth ar neu ar ôl 3 Mawrth 2021 mewn ffordd sy’n golygu nid ydych yn gymwys mwyach neu mae gennych yr hawl i bedwerydd grant sy’n is na’r hyn a gawsoch
  • gwnaethoch gamgymeriad wrth roi gwybod am eich trosiant yn eich hawliad am y pumed grant sy’n golygu bod gennych hawl i gael grant is na’r hyn a gawsoch
  • rydych wedi cael llythyr neu e-bost gan CThEM sy’n rhoi gwybod bod angen i chi ad-dalu’r grant cyfan, neu ran ohono

Pryd y bydd yn rhaid i chi roi gwybod i CThEM

Yn y rhan fwyaf o achosion, os nad ydych yn gymwys a’ch bod yn gorfod ad-dalu’r grant, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni cyn pen 90 diwrnod ar ôl cael y grant.

Ar gyfer y pedwerydd a’r pumed grant mae’r rheolau ar gyfer pryd i roi gwybod i ni yn wahanol os yw diwygio’ch Ffurflen Dreth yn effeithio ar swm eich grant neu’ch cymhwystra. 

Os yw’ch Ffurflen Dreth wedi’i diwygio

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni a oes diwygiad i unrhyw un o’ch Ffurflenni Treth ar neu ar ôl 3 Mawrth 2021 sydd naill ai:

  • yn gostwng swm y pedwerydd neu bumed grant yr ydych yn gymwys ar ei gyfer 
  • yn achosi i chi beidio â bod yn gymwys mwyach ar gyfer y pedwerydd neu bumed grant 

Os cafodd eich Ffurflen Dreth ei diwygio cyn i chi hawlio’ch grant, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni cyn pen 90 diwrnod ar ôl cael eich grant.

Os cafodd eich Ffurflen Dreth ei diwygio ar ôl i chi gael eich grant, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni cyn pen 90 diwrnod o wneud y diwygiad.

Os nad ydych yn rhoi gwybod i ni, byddwn yn ysgrifennu atoch er mwyn adennill y grant ac efallai hefyd y bydd yn rhaid i chi dalu cosb. Rhagor o wybodaeth am sut byddwn yn adennill eich grant a ordalwyd.

Does dim rhaid i chi roi gwybod i ni os yw swm y grant:

  • yr ydych yn gymwys ar ei gyfer yn gostwng £100 neu lai
  • yn £100 neu lai

Os nad ydych yn siŵr, dylech roi gwybod i ni o hyd am y diwygiad drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein. 

Os gwnaethoch gamgymeriad wrth roi gwybod am eich trosiant

Mae’n rhaid i chi roi gwybod os yw’r canlynol yn wir:

  • gwnaethoch gamgymeriad wrth roi gwybod am eich trosiant yn eich hawliad sy’n golygu bod gennych hawl i gael grant is na’r hyn a gawsoch
  • gwnaethoch sylweddoli yn ddiweddarach y dylech fod wedi nodi ffigur trosiant gwahanol yn eich hawliad sy’n golygu bod gennych hawl i grant is na’r hyn a gawsoch

Ad-daliadau gwirfoddol

Gallwch hefyd roi gwybod i ni os ydych am ad-dalu rhywfaint o’r grant a gawsoch, neu’r cyfan ohono, yn wirfoddol. Gallwch wneud hyn ar unrhyw adeg.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen y canlynol arnoch:

Gwirio sut i roi gwybod i CThEM a thalu’r arian yn ôl

Mae’r broses yn wahanol yn dibynnu ar pam bod angen i chi dalu’r grant yn ôl.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i weld a oes angen i chi roi gwybod i ni a thalu cyfan o grant yn ôl neu rywfaint ohono.

Dechrau nawr

Os na allwch ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein

Os na allwch ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein, dylech gysylltu â ni am help.

Cosbau am beidio â rhoi gwybod i CThEM

Os nad ydych yn rhoi gwybod i ni cyn pen 90 diwrnod i’ch diwygiad, neu ar ôl i chi dalu’r grant, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb hefyd.

Rhagor o wybodaeth am gosbau am beidio â rhoi gwybod i CThEM am ordaliadau cynllun cymhorthdal coronafeirws (COVID-19).

Cysylltu â CThEM

Rydym yn derbyn nifer fawr iawn o alwadau ar hyn o bryd. Mae cysylltu â CThEM yn ddiangen yn peryglu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Mae croeso, er hynny, i chi gysylltu â CThEM os nad oes modd i chi gael yr help sydd ei angen arnoch ar-lein.

Cyhoeddwyd ar 14 July 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 January 2022 + show all updates
  1. If you've received an email from HMRC, you can now check whether you need to tell HMRC and pay back a grant.

  2. If you've received a letter from HMRC you may need to pay back some or all of the grant. A new section has also been added called 'Check how to tell HMRC and pay money back'. You can use the service to check whether you need to tell HMRC and pay back a grant.

  3. Guidance about if you have amended your tax return has been updated. Guidance on what to do after you have applied has also been updated.

  4. New information added explaining when and how to tell HMRC about a tax return amendment if it affects your eligibility or grant amount. Links to more information on penalties and how HMRC can recover overpaid grants have also been added.

  5. New guidance on ‘If amending your return affects your grant amount or eligibility’ added under ‘How to tell us’ section.

  6. This guidance has been updated with information about the fourth SEISS grant.

  7. Added translation

  8. Added translation

  9. Information about when you must tell HMRC and pay the grant back has been added, also included details about when you may have to pay a penalty.

  10. First published.