Canllawiau

Sut mae’ch amodau masnachu’n effeithio ar eich cymhwystra ar gyfer y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth

Dysgu sut i benderfynu os yw coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar eich busnes a sut mae hyn yn effeithio ar eich cymhwystra am grant SEISS.

This guidance was withdrawn on

Claims for the fifth SEISS grant have now closed. The last date for making a claim was 30 September 2021.

You can:

If you received a grant payment, you must report this on your tax return. Find out how to report SEISS grants.

I hawlio’r pumed grant, mae’n rhaid i chi naill ai:

  • bod yn masnachu ar hyn o bryd ond bod llai o alw oherwydd coronafeirws (COVID-19) yn effeithio arnoch
  • wedi bod yn masnachu ond ddim yn gallu gwneud hynny dros dro oherwydd COVID-19

Mae’n rhaid i chi hefyd ddatgan y canlynol:

  • rydych yn bwriadu parhau i fasnachu
  • rydych o’r farn resymol y bydd gostyngiad sylweddol yn eich elw masnachu

Barn resymol

Mae’n rhaid i chi fod o’r farn resymol y bydd gostyngiad sylweddol mewn elw masnachu oherwydd llai o weithgaredd busnes, llai o gapasiti, llai o alw neu analluogrwydd i fasnachu oherwydd COVID-19 rhwng 1 Mai 2021 a 30 Medi 2021. Mae’n rhaid i chi gadw tystiolaeth sy’n dangos bod COVID-19 wedi effeithio ar eich busnes, gan arwain at lai o weithgarwch busnes na’r disgwyl.

Mae CThEM yn disgwyl i chi wneud asesiad gonest ynghylch a ydych o’r farn resymol y bydd eich busnes yn dioddef gostyngiad sylweddol mewn elw.

Gostyngiad sylweddol

Cyn i chi hawlio, mae’n rhaid i chi benderfynu a fydd yr effaith ar eich busnes rhwng 1 Mai 2021 a 30 Medi 2021 yn achosi gostyngiad sylweddol yn eich elw masnachu ar gyfer y flwyddyn dreth yr ydych yn rhoi gwybod am eich elw masnachu ynddi.

Ni all CThEM wneud y penderfyniad hwn ar eich rhan oherwydd y bydd angen ystyried eich amgylchiadau unigol ac amgylchiadau ehangach eich busnes wrth benderfynu a yw’r gostyngiad yn sylweddol.

Dylech aros hyd nes eich bod o’r farn resymol y bydd eich elw masnachu yn gostwng yn sylweddol cyn i chi hawlio.

Nid oes rhaid i chi ystyried unrhyw daliadau yr ydych wedi’u cael drwy gynlluniau cymorth COVID-19 eraill wrth benderfynu a yw’ch elw masnachu wedi gostwng yn sylweddol.

Beth yr ydym yn ei olygu wrth ddweud llai o weithgarwch, capasiti a galw wedi effeithio arnoch

Mae hyn yn berthnasol i’ch busnes os oedd llai o weithgarwch, gallu neu alw wedi effeithio arnoch oherwydd COVID-19. Er enghraifft:

  • mae gennych lai o gwsmeriaid neu gleientiaid na’r disgwyl, gan arwain at lai o weithgarwch oherwydd cadw pellter cymdeithasol neu gyfyngiadau’r llywodraeth
  • mae un neu fwy o gontractau wedi’u canslo a heb gael eu disodli
  • rydych wedi ymgymryd â llai o waith oherwydd tarfu ar y gadwyn gyflenwi

Mae’n rhaid i chi beidio â hawlio os mai costau uwch yw’r unig effaith ar eich busnes. Er enghraifft, os bu’n rhaid i chi brynu mygydau wyneb a chyflenwadau glanhau. Ni fyddai hyn yn cael ei ystyried yn llai o weithgarwch, gallu neu alw.

Beth yr ydym yn ei olygu wrth ddweud wedi masnachu’n flaenorol ond ddim yn gallu gwneud hynny dros dro

Mae hyn yn berthnasol i chi hyd yn oed os na allwch weithio dros dro i ymgymryd â’ch gweithgareddau busnes o ganlyniad i COVID-19, er enghraifft, oherwydd y canlynol:

  • bu’n rhaid i’ch busnes gau yn sgil cyfyngiadau’r llywodraeth
  • os ydych wedi cael gwybod y dylech ddilyn mesurau gwarchod neu hunanynysu yn unol â chanllawiau’r GIG ac na allwch weithio gartref
  • rydych wedi profi’n bositif am COVID-19 ac na allwch weithio
  • ni allwch weithio oherwydd cyfrifoldebau gofalu, er enghraifft o ganlyniad i ysgol neu gyfleuster gofal plant yn cau

Nid yw hyn yn cynnwys sefyllfa lle nad ydych yn gallu masnachu oherwydd bod yn rhaid i chi fod mewn cwarantîn neu hunanynysu ar ôl dychwelyd o dramor i’r DU.

Os oedd yn rhaid i’ch busnes gau cyn 1 Mai 2021 ac wedi parhau i fod ar gau am gyfnod hyd at 30 Medi 2021, gallwch hawlio o hyd cyn belled â’ch bod yn gymwys.

Enghreifftiau o lai o weithgarwch, gallu neu alw neu ddim yn gallu masnachu

Dyma enghreifftiau lle mae COVID-19 wedi effeithio ar bobl.

Llai o weithgarwch, gallu neu alw a barn resymol

Mae gan dafarnwr lai o gwsmeriaid oherwydd cyfyngiadau’r llywodraeth ac mae hynny’n gostwng ei enillion. Mae o’r farn resymol y bydd hyn yn gostwng ei elw masnachu yn sylweddol. Mae’n gymwys i hawlio’r pumed grant.

Mae hyfforddwr personol rhan-amser yn gweithio mewn campfa sydd wedi lleihau ei chapasiti oherwydd cyfyngiadau’r llywodraeth. Mae hyn yn gostwng nifer y cleientiaid ar y diwrnodau mae’n gweithio. Mae o’r farn resymol y bydd hyn yn gostwng ei elw masnachu’n sylweddol. Mae’n gymwys ar gyfer y pumed grant.

Llai o weithgarwch, gallu neu alw a dim barn resymol

Mae gan berchennog caffi lai o gwsmeriaid oherwydd cyfyngiadau’r llywodraeth ar aelwydydd yn cymysgu y tu mewn. Mae’n codi ei brisiau. Nid yw o’r farn y bydd ei elw masnachu yn gostwng yn sylweddol, felly nid yw’n gymwys i hawlio’r pumed grant.

Ddim yn gallu masnachu a barn resymol

Mae perchennog clwb nos wedi gorfod cau ei safle oherwydd cyfyngiadau’r llywodraeth. Ni chaiff unrhyw incwm gan fod y clwb wedi cau ac mae o’r farn resymol y bydd ei elw masnachu’n gostwng yn sylweddol. Mae’n gymwys i hawlio’r pumed grant.

Mae adeiladwr wedi profi’n bositif am COVID-19 ac wedi gorfod hunanynysu am 10 diwrnod llawn. Gan na all weithio gartref, mae o’r farn resymol y bydd ei elw masnachu’n gostwng yn sylweddol. Mae’n gymwys i hawlio’r pumed grant.

Ddim yn gallu masnachu a dim barn resymol

Nid oedd mecanydd yn gallu gweithio am 2 ddiwrnod wrth i’w safle gau i gael ei lanhau’n ddwfn oherwydd achos COVID-19 positif. Nid yw o’r farn y bydd hyn yn gostwng ei elw masnachu yn sylweddol ac nid yw’n gymwys i hawlio’r pumed grant.

Mae ffisiotherapydd wedi profi’n bositif am COVID-19 ac yn hunanynysu am 10 diwrnod cyn cael canlyniad prawf negatif. Yn ystod y 10 diwrnod hynny, nid oedd yn gallu gweithio gartref ond llwyddodd i aildrefnu ei apwyntiadau. Nid yw o’r farn y bydd gostyngiad sylweddol yn ei elw masnachu ac nid yw’n gymwys i hawlio’r pumed grant.

Enghreifftiau eraill

Mae trydanwr yn dal i fasnachu ond mae wedi wynebu costau uwch oherwydd prynu mygydau, cyflenwadau glanhau a sgriniau. Nid yw’n gymwys i gael y pumed grant gan mai costau uwch oedd yr unig effaith ar ei fusnes a pharhaodd i fasnachu fel arfer.

Mae deintydd yn dychwelyd i’r DU ac yn gorfod bod mewn cwarantîn am 10 diwrnod. Gan mai dyma’r unig effaith ar ei fusnes, nid yw’n gymwys i hawlio’r pumed grant. Mae hyn oherwydd nad yw llai o alw oherwydd cwarantîn ar ôl teithio tramor wedi’i gynnwys yn y meini prawf cymhwystra.

Mae cyfrifydd yn lleihau ei weithgarwch busnes oherwydd ei fod eisiau ymddeol yn rhannol. Mae o’r farn resymol y bydd hyn yn gostwng ei elw masnachu’n sylweddol. Nid yw’n gymwys i gael y pumed grant oherwydd nad COVID-19 a achosodd lai o weithgarwch busnes.

Mae cleient unigolyn sy’n mynd â chŵn am dro yn canslo contract oherwydd COVID-19. Gallai’r unigolyn sy’n mynd â chŵn am dro chwilio am waith ychwanegol i gael contract newydd yn ei le ond mae’n dewis peidio. Mae hyn yn golygu bod ei weithgarwch busnes a’i elw masnachu yn gostwng gan ei fod yn dewis peidio â chael contract newydd yn ei le, ac nid oherwydd COVID-19. Nid yw’n gymwys i gael y pumed grant.

Mae gan ymgynghorydd TG incwm arall o rentu eiddo. Mae wedi gwneud colledion ar rentu oherwydd costau adnewyddu. Nid yw hyn yn gysylltiedig â’i elw masnachu o’i wasanaeth ymgynghori TG. Gan nad COVID-19 sydd wedi effeithio ar ei fusnes ymgynghori, nid yw’n gymwys i gael y pumed grant.

Cyhoeddwyd ar 24 November 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 July 2021 + show all updates
  1. This guidance has been updated with information about the fifth SEISS grant.

  2. This guidance has been updated with information about the fourth SEISS grant.

  3. Claims for the third grant have now closed. The last date for making a claim for the third grant was 29 January 2021. Details about the fourth grant will be announced on 3 March 2021.

  4. Added translation

  5. First published.