Addasu eich incwm o hunangyflogaeth ac eiddo

Sut a phryd i wneud addasiadau cyn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Drwy gydol y flwyddyn, mae angen i chi gywiro eich cofnodion digidol, unwaith y byddwch yn ymwybodol o wall, er mwyn sicrhau eu bod yn gywir.

Unwaith y byddwch wedi anfon eich pedwerydd diweddariad chwarterol, bydd gan CThEF y manylion o’ch holl dreuliau ac incwm o eiddo a hunangyflogaeth. Mae hyn ar gyfer pob busnes sydd gennych, ac ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan.

Wrth ddefnyddio’ch meddalwedd, mae’n bosibl y bydd angen i chi addasu’r data rydych wedi eu hanfon, cyn i chi gwblhau a chyflwyno’ch Ffurflen Dreth. Gall hyn gynnwys:

  • hawlio rhyddhadau neu lwfansau sy’n lleihau swm trethadwy yr incwm a gewch o hunangyflogaeth neu o eiddo, fel y lwfans incwm masnachu
  • gwneud addasiadau treth, fel tynnu treuliau na allwch eu hawlio, a gaiff eu hadnabod fel treuliau na ellir eu caniatáu
  • gwneud addasiadau cyfrifyddu, fel addasu ar gyfer rhagdaliadau neu groniadau
  • gwneud addasiadau o ganlyniad i’ch cyfnod cyfrifyddu dewisol
  • hawlio lwfansau cyfalaf sy’n caniatáu i chi ddidynnu cost asedion cyfalaf, fel offer a pheiriannau

Hawlio rhyddhadau neu lwfansau

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhyddhadau neu lwfansau a fydd yn lleihau swm y Dreth Incwm sydd arnoch.

Rhyddhad Rhentu Ystafell

Mae’r rhyddhad Rhentu Ystafell yn eich galluogi i ennill hyd at £7,500 y flwyddyn yn rhydd o dreth drwy roi llety wedi’i ddodrefnu yn eich cartref ar osod. Bydd y swm hwn yn cael ei haneru os ydych yn rhannu’r incwm â’ch partner neu rywun arall.

Os ydych yn bwriadu defnyddio’r rhyddhad, gallwch greu cofnodion digidol o’r incwm o rentu ystafell yn ystod y flwyddyn dreth, a fydd yn cael eu cynnwys ymhob diweddariad chwarterol. Bydd y rhyddhad yn cwmpasu hyd at £7,500, neu fe gaiff ei haneru os yw’r eiddo yn cael ei rannu, wrth i chi greu’r cofnodion digidol.

Gwneud addasiadau

Byddwch yn gwneud y rhan fwyaf o addasiadau trwy ddiweddaru’r cyfanswm blynyddol ar gyfer categori treuliau yn eich meddalwedd.

Os ydych wedi gwneud mwy nag un cofnod digidol sy’n berthnasol i’r un categori, ni fydd rhaid i chi addasu pob trafodyn unigol.

Addasiadau treth

Bydd angen i chi wneud addasiadau treth trwy addasu cyfanswm blynyddol eich treuliau.

Er enghraifft, os oes gennych un ffôn at ddefnydd busnes a phersonol, bydd angen i chi leihau cyfanswm y categori ar gyfer costau ffôn, ffacs, deunydd ysgrifennu a chostau swyddfa eraill, fel eich bod yn hawlio treuliau a ddefnyddiwyd at ddiben eich busnes yn unig.

Addasiadau cyfrifyddu

Cyfrifyddu ar sail arian parod yw’r dull diofyn o gyfrifyddu ar gyfer incwm o eiddo a hunangyflogaeth. Nid oes angen i chi wneud yr addasiadau hyn os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod.

Os ydych yn dewis defnyddio cyfrifyddu traddodiadol, bydd eich meddalwedd yn caniatáu i chi addasu’r cyfansymiau blynyddol o’ch diweddariadau chwarterol i fynd i’r afael ag addasiadau cyfrifyddu, megis ar gyfer rhagdaliadau neu groniadau.

Enghraifft o addasiad ar gyfer rhagdaliad

Mae’n bosibl y byddwch yn talu £1,200 ym mis Ionawr am bolisi yswiriant 12 mis. Yn hytrach na chofnodi’r gost lawn ym mis Ionawr, gallwch ddewis lledaenu’r gost hon dros 12 mis, ar £100 y mis. Byddai hyn yn golygu bod un chwarter o’r gost yn disgyn i’r flwyddyn dreth gyntaf, a thri chwarter i’r nesaf.

I wneud hyn, byddech yn lleihau cyfanswm y categori ar gyfer rhent, ardrethi, costau pŵer ac yswiriant ar gyfer y flwyddyn dreth gyntaf i £300, a’i gynyddu ar gyfer y flwyddyn dreth nesaf i £900, a hynny er mwyn adlewyrchu’r hyn sy’n cael ei dalu ym mhob blwyddyn dreth.

Enghraifft o addasiad ar gyfer croniad

Rydych wedi cael gwasanaethau gan ymgynghorydd ym mis Mawrth 2026 ond nid ydych wedi cael eich anfonebu eto. Er mwyn adlewyrchu’r costau rydych wedi’u hwynebu, mae’n bosibl yr hoffech gofnodi traul sydd wedi’i chronni (croniad) yn y flwyddyn dreth honno (2025 i 2026). Golyga hyn y bydd eich treuliau yn cyd-fynd â’r un flwyddyn dreth hyd yn oed os nad ydych wedi cael eich talu am y gwasanaeth eto.

Addasiadau sydd angen i chi eu gwneud o ganlyniad i’ch cyfnod cyfrifyddu dewisol

Eich cyfnod cyfrifyddu yw’r cyfnod sy’n cael ei gwmpasu gan eich cyfrifon neu’ch llyfrau. Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn cyd-fynd â’r flwyddyn dreth (6 Ebrill hyd at 5 Ebrill), yna does dim angen i chi wneud unrhyw un o’r addasiadau hyn. Bydd eich meddalwedd hefyd yn gosod cyfnod cyfrifyddu sy’n cyd-fynd â’r flwyddyn dreth yn awtomatig.

Os nad yw eich cyfnod cyfrifyddu yn cyd-fynd â’r flwyddyn dreth, yna bydd rhaid i chi addasu’r cyfansymiau ar gyfer eich treuliau neu’ch incwm o hunangyflogaeth neu o eiddo, neu gadarnhau nad oes angen addasiad.

Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth

Mae’r addasiadau sydd angen i chi eu gwneud yn dibynnu ar bryd y gwnaethoch ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, ac yn dibynnu a ydych wedi dewis cyfnodau diweddaru calendr yn eich meddalwedd.

Os gwnaethoch ddechrau ym mlwyddyn dreth 2025 i 2026 a dewis cyfnodau diweddaru calendr

Os gwnaethoch gofrestru i brofi’r gwasanaeth yn 2025 i 2026, yna bydd angen i chi wneud addasiad ar ôl diwedd y flwyddyn dreth honno. Mae hyn er mwyn i chi ychwanegu eich incwm a’ch treuliau o 1 i 5 Ebrill, fel eu bod yn cael eu cynnwys yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2025 i 2026.

Er mwyn gwneud yr addasiad, bydd angen i chi gymryd y camau canlynol:

  1. Adolygu eich cofnodion ar gyfer y cyfnod o 1 i 5 Ebrill 2025 (yn gynhwysol).

  2. Cyfrif eich treuliau a’ch incwm o hunangyflogaeth ac eiddo ar gyfer y cyfnod hynny, ar gyfer pob categori rydych wedi’i ddefnyddio.

  3. Cynnwys y symiau hyn yn eich cyfansymiau blynyddol ar gyfer 2025 i 2026 ar gyfer y categorïau hyn o incwm a threuliau.

Ni fydd angen i chi wneud hyn ar gyfer blynyddoedd treth yn y dyfodol os ydych yn parhau i ddefnyddio cyfnodau diweddaru calendr. Bydd eich meddalwedd bellach wedi’i sefydlu gyda’ch cyfnod cyfrifyddu.

Os gwnaethoch ddechrau ym mlwyddyn dreth 2026 i 2027 a dewis cyfnodau diweddaru calendr

Os gwnaethoch ddechrau yn 2026 i 2027 a dewis cyfnodau diweddaru calendr yn eich meddalwedd, ni fydd angen i chi wneud y math hwn o addasiad ar ôl diwedd blwyddyn dreth.

Os gwnaethoch anghofio dewis cyfnodau diweddaru calendr, mae’n bosibl bydd angen i chi wneud addasiadau ar ddiwedd y flwyddyn dreth honno. Cyhoeddir arweiniad pellach yn ddiweddarach.

Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn dod i ben ar 1, 2, 3, neu 4 Ebrill

Mae rheolau arbennig yn berthnasol yn awtomatig er mwyn trin eich incwm a’ch treuliau ar gyfer y dyddiau rhwng eich dyddiad cyfrifyddu a 5 Ebrill (yn gynhwysol) fel eu bod yn rhan o’r flwyddyn dreth nesaf. Dysgwch ragor ynghylch rheolau dyddiad cyfrifyddu hwyr (yn agor tudalen Saesneg).

P’un a ydych yn defnyddio cyfnodau diweddaru safonol neu gyfnodau diweddaru chwarterol, bydd eich cofnodion digidol yn cwmpasu cyfnod sy’n wahanol i’ch cyfnod cyfrifyddu. Bydd angen i chi wneud addasiadau er mwyn sicrhau bod cyfansymiau eich treuliau a’ch incwm blynyddol yn cyd-fynd â’ch cyfnod cyfrifyddu, a sicrhau bod y rheolau arbennig yn cael eu rhoi ar waith yn gywir.

Er enghraifft, mae eich cyfnod cyfrifyddu yn rhedeg o 3 Ebrill 2026 i 2 Ebrill 2027 ond rydych yn defnyddio cyfnodau diweddaru calendr sy’n rhedeg o 1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2027. Bydd angen i chi wneud yr addasiadau canlynol i’ch cyfansymiau blynyddol 2026 i 2027:

  • dileu incwm a threuliau ar gyfer 1 a 2 Ebrill 2026
  • adio incwm a threuliau ar gyfer 1 a 2 Ebrill 2027

Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn dod i ben ar unrhyw ddyddiad arall

Bydd angen i chi ddefnyddio eich meddalwedd sy’n cydweddu i wneud addasiadau ychwanegol ar ôl diwedd y flwyddyn dreth 2026 i 2027. Er enghraifft, os yw eich cyfnod cyfrifyddu yn rhedeg o 1 Ionawr 2026 i 31 Rhagfyr 2027.

Byddwn yn cyhoeddi arweiniad yn y dyfodol er mwyn egluro’r ffordd o wneud yr addasiadau hyn.

Lwfansau cyfalaf

Mae lwfansau cyfalaf yn fath o ryddhad treth i fusnesau. Maent yn gadael i chi ddidynnu holl werth eitem, neu ran ohono, o’ch elw cyn i chi dalu treth.

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch meddalwedd i gofnodi’ch hawliad lwfans cyfalaf cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth. Mae’n bosibl y bydd eich meddalwedd yn gallu cofnodi’ch hawliad yn ystod y flwyddyn dreth, ond ni fydd CThEF yn prosesu’ch hawliad nes i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Yr hyn i’w wneud nesaf

Yna, dylech gwblhau eich Ffurflen Dreth drwy adrodd am unrhyw golledion sydd gennych, ychwanegu ffynonellau eraill o incwm ac enillion, gwirio’r wybodaeth a chyflwyno eich Ffurflen Dreth gan ddefnyddio eich meddalwedd sy’n cydweddu.