Help a chymorth
Dewch o hyd i help, gan gynnwys help gan CThEF, os oes ei angen arnoch.
Gallwch gael gwahanol fathau o gymorth wrth ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Mae hyn yn dibynnu ar ba help sydd ei angen arnoch chi a pha flwyddyn dreth y mae’n berthnasol iddi.
Mae ein harweiniad yn esbonio’r hyn sydd angen i chi ei wneud, o’r amser fyddwch yn cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth gyntaf wrth ddefnyddio’r gwasanaeth.
Mae’n cynnwys y canlynol:
-
gwybodaeth ddefnyddiol, fel y pethau newydd sydd angen i chi ei wneud ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, a throsolwg o’ch blwyddyn gyntaf
-
sut i gael mynediad at eich gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a’r hyn allwch ei wneud yn eich cyfrif ar-lein
-
sut i greu cofnodion digidol ac anfon diweddariadau chwarterol
-
sut i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth a’r hyn sydd angen eu cynnwys
-
yr hyn i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newid
Gofyn i’ch darparwr meddalwedd am help gyda’ch meddalwedd
Ni all CThEF rhoi cyngor ynghylch cynhyrchion meddalwedd penodol. Bydd pob cynnyrch yn gweithio’n wahanol yn dibynnu ar sut mae’r darparwr meddalwedd wedi ei ddatblygu.
Dylai’ch darparwr meddalwedd gael arweiniad ar sut i ddefnyddio ei feddalwedd. Cysylltwch â’ch darparwr yn uniongyrchol os oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch.
Nid ydych wedi cofrestru eto
Os nad ydych chi neu’ch cleient wedi cofrestru eto, gallwch ddysgu mwy am ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm neu gall ein canllawiau cam wrth gam eich helpu i ddeall y camau i’w cymryd yn gyntaf:
-
Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i unig fasnachwyr a landlordiaid: cam wrth gam
-
Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm fel asiant: cam wrth gam
Os oes angen mwy o gymorth arnoch
Os na allwch ddod o hyd i’r cymorth sydd angen arnoch yn y canllaw hwn, gallwch gysylltu â’r canlynol:
-
y llinell neilltuedig i asiantau (yn agor tudalen Saesneg) (os ydych yn asiant)
Os gwnaethoch chi neu’ch cleient gofrestru i brofi’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm am naill ai blwyddyn dreth 2024 i 2025 neu 2025 i 2026, yna gallwch gael cymorth gan Dîm Cymorth i Gwsmeriaid neilltuol CThEF.
Gallan nhw eich helpu gydag unrhyw ymholiad sydd gennych mewn perthynas â’r blynyddoedd treth hynny.
Mae rhif ffôn y tîm cymorth i gwsmeriaid yn y llythyr sy’n cadarnhau eich bod wedi cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Gall y tîm helpu gyda’r canlynol:
-
incwm a threuliau i’w cynnwys yn y diweddariadau chwarterol
-
cymorth â chyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer 2025 i 2026 (erbyn 31 Ionawr 2027)
-
taliadau ac ad-daliadau
-
dyddiadau cau
-
cosbau
-
rhoi gwybod am wallau ar gyfrifiadau, datganiadau, a thaliadau yn deillio o gyflwyniadau
-
Hunanasesiad a Threth Enillion Cyfalaf yn cynnwys blynyddoedd cyn i chi neu’ch cleient ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Ni all y tîm helpu gydag ymholiadau am y canlynol:
-
blwyddyn dreth 2026 i 2027 a blynyddoedd treth hwyrach
-
Treth Gorfforaeth, TAW, neu Yswiriant Gwladol (ac eithrio Hunanasesiad)
-
cynnig cyngor am gynnyrch meddalwedd — cysylltwch â’ch darparwr meddalwedd yn uniongyrchol er mwyn cael cymorth