Cael eich meddalwedd yn barod
Sut i awdurdodi meddalwedd a gwirio eich cyfnod cyfrifyddu cyn i chi ddefnyddio’r feddalwedd o’ch dewis.
Cyn i chi barhau, gwiriwch eich bod:
-
wedi awdurdodi asiant i weithredu ar eich rhan, os oes un gennych
Ar ôl cofrestru, bydd angen i chi neu’ch cleient ddefnyddio’r feddalwedd o’ch dewis sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i greu cofnodion digidol ac anfon diweddariadau chwarterol.
Cyn i chi ddechrau creu cofnodion digidol, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
-
awdurdodi’ch meddalwedd
-
gwirio eich cyfnod cyfrifyddu yn eich meddalwedd
Mae angen i chi awdurdodi eich meddalwedd sy’n cydweddu fel ei bod hi’n cysylltu â CThEF.
Sut i awdurdodi’ch meddalwedd fel unig fasnachwr neu landlord
-
Dewiswch yr opsiwn i gysylltu â CThEF yn eich meddalwedd sy’n cydweddu.
-
Nodwch y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair a ddefnyddiwyd gennych pan wnaethoch gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
-
Pasiwch y gwiriad adnabod drwy nodi gwybodaeth bersonol a manylion o’ch dogfennau adnabod (os oes angen).
-
Rhowch ganiatâd i’ch meddalwedd gysylltu â CThEF.
Bydd angen i chi ailadrodd y camau hyn bob 18 mis, ond ni fydd angen i chi basio’r gwiriad adnabod eto. Dylai’ch meddalwedd eich atgoffa pryd mae’n bryd ailgysylltu.
Sut i awdurdodi’ch meddalwedd fel asiant
-
Dewiswch yr opsiwn i gysylltu â CThEF yn y feddalwedd sy’n cydweddu.
-
Nodwch y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair a ddefnyddiwyd gennych, neu’r cwmni, i gofrestru ar gyfer cyfrif gwasanaethau asiant.
-
Pasiwch y gwiriad adnabod drwy nodi gwybodaeth bersonol a manylion o ddogfennau adnabod.
-
Rhowch ganiatâd i feddalwedd eich cwmni gysylltu â CThEF.
Mae angen gwybodaeth bersonol gennych chi neu gyflogai yn y cwmni er mwyn atal twyll. Gallwch ddysgu sut rydym yn storio ac yn prosesu gwybodaeth bersonol yn Hysbysiad Preifatrwydd Porth y Llywodraeth a Hysbysiad Preifatrwydd CThEF.
Bydd angen i chi ailadrodd y camau hyn bob 18 mis. Dylai’ch meddalwedd eich atgoffa pryd mae’n bryd ailgysylltu.
Bydd eich meddalwedd yn gosod cyfnod cyfrifyddu sy’n cyd-fynd â’r flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill) yn awtomatig.
Os yw eich cyfnod cyfrifyddu yn rhedeg rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth, mae angen i chi ddewis cyfnodau calendr yn eich meddalwedd cyn i chi anfon eich diweddariad chwarterol cyntaf. Bydd hefyd yn hwyluso’ch gwaith o gadw cofnodion os yw’ch cyfnodau cyfrifyddu yn dod i ben ar ddiwedd y mis.
Ni allwch newid eich cyfnod cyfrifyddu ar ôl i chi anfon diweddariad chwarterol, felly maeֽ’n bwysig eich bod yn gwirio hyn pan fyddwch chi’n gosod eich meddalwedd.
Dysgwch sut i gael mynediad at eich gwasanaeth treth newydd a beth allwch chi ei wneud yn eich cyfrif Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.