Trosolwg

Mae’n rhaid i chi dalu’ch bil TAW erbyn y dyddiad cau a ddangosir ar eich Ffurflen TAW.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu gordal neu gosb os na thalwch mewn pryd.

Mae dyddiadau cau gwahanol os ydych yn defnyddio:

Gwiriwch beth i’w wneud os na allwch dalu’ch bil treth mewn pryd.

Talu eich bil TAW ar-lein

Gallwch dalu Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar-lein drwy’r dulliau canlynol:

  • cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc gan ddefnyddio’ch manylion bancio ar-lein

  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

  • Debyd Uniongyrchol

Bydd angen eich rhif cofrestru TAW 9 digid arnoch.

Talu nawr

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os na allwch dalu ar-lein, gallwch gysylltu â’ch banc er mwyn talu drwy drosglwyddiad banc.

Cadarnhad o’ch taliad

Os ydych yn talu drwy’r gwasanaeth ar-lein, byddwch yn cael cyfeirnod talu ar unwaith oddi wrth CThEF.

Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF i gadarnhau bod eich taliad wedi dod i law.

Bydd eich taliad yn ymddangos ar eich cyfrif TAW ar-lein cyn pen 3 i 5 diwrnod.

Dulliau o dalu

Sicrhewch y bydd eich taliad yn cyrraedd cyfrif banc CThEF erbyn y dyddiad cau.

Gallwch gyfrifo’r dyddiad cau ar gyfer talu TAW, a faint o amser i’w ganiatáu, drwy ddefnyddio’r gyfrifiannell benodol hon (yn Saesneg).

Talu ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod nesaf

Talu ymhen 3 diwrnod gwaith

Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ŵyl banc, mae’n rhaid i’ch taliad gyrraedd cyfrif banc CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy Daliadau Cyflymach).