Debyd Uniongyrchol

Defnyddiwch eich cyfrif TAW ar-lein er mwyn trefnu Debyd Uniongyrchol.

Dylech drefnu’r Debyd Uniongyrchol o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen TAW ar-lein. Fel arall, ni fydd y taliad yn cael ei gymryd o’ch cyfrif banc mewn pryd.

Unwaith y byddwch wedi trefnu’r Debyd Uniongyrchol, cesglir taliadau yn awtomatig o’ch cyfrif banc 3 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad cau ar gyfer talu sydd ar eich Ffurflen TAW.

Os byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW yn hwyr, bydd eich taliad yn cael ei gymryd 3 diwrnod ar ôl i chi ei chyflwyno.

Ni allwch dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol os oes gennych drefniant ‘taliadau ar gyfrif’ (yn Saesneg).

Cyfeirnod

Bydd angen eich rhif cofrestru TAW 9 digid arnoch i wneud taliad.

Gallwch ddod o hyd i’ch rhif cofrestru:

Peidiwch â rhoi unrhyw fylchau rhwng y digidau wrth dalu’ch bil TAW.

Os oes angen i chi dalu gordal TAW neu gosb

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod 14 o gymeriadau sy’n dechrau gydag X pan fyddwch chi’n talu.

Gallwch ddod o hyd i hyn ar y llythyr a anfonodd Cyllid a Thollau EF (CThEF) atoch am eich gordal neu gosb.

Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol

Gall busnesau sy’n defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol (yn Saesneg) ond trefnu Debyd Uniongyrchol awtomatig ar-lein ar gyfer taliadau mantoli yn unig.

Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol ar gyfer taliadau rheolaidd gan ddefnyddio ffurflen TAW 623 (yn Saesneg).

Cael ad-daliadau TAW

Ni fydd manylion y cyfrif banc a ddefnyddiwch i drefnu’ch Debyd Uniongyrchol yn cael eu defnyddio ar gyfer ad-daliadau TAW.

I sicrhau y caiff ad-daliadau TAW eu talu i’ch cyfrif banc, diweddarwch y manylion cofrestru yn eich cyfrif TAW ar-lein. Fel arall, bydd CThEF yn anfon siec atoch.