Ffurflenni TAW a thaliadau hwyr

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch Ffurflen TAW, bydd CThEF yn anfon ‘hysbysiad TAW o asesiad treth’ atoch yn rhoi gwybod i chi faint o TAW y maent yn credu sydd arnoch.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu gordal neu gosb am gyflwyno’ch Ffurflen TAW ar ôl y dyddiad cau, neu os ydych yn ei thalu’n hwyr.

Bydd y swm sydd arnoch yn cael ei gyfrifo’n wahanol, gan ddibynnu ar ba gyfnod cyfrifyddu y mae ar ei gyfer.

Dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF) cyn gynted â phosibl os ydych yn ei chael hi’n anodd talu erbyn y dyddiad cau.

Os dechreuodd eich cyfnod cyfrifyddu ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023

Byddwch yn cael cosbau ar wahân am gyflwyno’ch Ffurflen TAW yn hwyr ac am dalu’n hwyr.

Os byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW yn hwyr

Am bob Ffurflen TAW yr ydych yn ei chyflwyno’n hwyr, byddwch yn cael pwynt cosb. Mae hyn yn cynnwys Ffurflenni TAW sy’n dangos ‘dim’ (lle nad oes gennych unrhyw beth i’w ddatgan).

Unwaith y byddwch wedi cyrraedd eich trothwy pwyntiau cosb, cewch gosb o £200. Pennir y trothwy gan eich cyfnod cyfrifyddu (os ydych yn talu bob mis, yn chwarterol neu’n flynyddol).

Byddwch yn cael cosb bellach o £200 am bob cyflwyniad hwyr dilynol tra byddwch ar y trothwy.

Gallwch weld faint o bwyntiau sydd gennych yn eich cyfrif ar-lein.

Cyflwynwch Ffurflenni TAW mewn pryd yn y dyfodol i ddileu pwyntiau cosb o’ch cyfrif.

Os byddwch yn talu’n hwyr

Mae’n bosibl y codir cosb arnoch os byddwch yn talu’n hwyr:

  • ar eich Ffurflen TAW
  • yn dilyn diwygiad neu gywiriad i Ffurflen TAW
  • o asesiad TAW a anfonwyd gan CThEF pan na wnaethoch gyflwyno’ch Ffurflen TAW
  • o asesiad TAW a anfonwyd gan CThEF am reswm arall

Mae faint a godir arnoch yn dibynnu ar ba mor hwyr y byddwch yn talu.

Mae cyfanswm y gosb yn codi ar ôl 16 diwrnod, ac yn codi eto ar ôl 31 diwrnod.

Codir llog am dalu’n hwyr arnoch o’r diwrnod cyntaf y bydd eich taliad yn hwyr, hyd nes y byddwch yn talu’r swm llawn. Mae hyn hefyd yn berthnasol os ydych yn talu mewn rhandaliadau.

Os dechreuodd eich cyfnod cyfrifyddu ar neu cyn 31 Rhagfyr 2022

Bydd CThEF yn cofnodi ‘diffyg’ ar eich cyfrif os bydd eich Ffurflen TAW neu’ch taliad yn hwyr.

Mae’n bosibl y bydd diffygdalu yn eich rhoi mewn ‘cyfnod gordal’ o 12 mis. Os byddwch yn diffygdalu eto yn ystod y cyfnod hwnnw o 12 mis, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu swm ychwanegol (‘gordal’) ar ben y TAW sydd arnoch.

Nid ydych yn talu gordal y tro cyntaf eich bod yn diffygdalu.

Dechrau cyfnod gordal

Byddwch yn dechrau cyfnod gordal o 12 mis os byddwch yn talu’n hwyr, ac os yw’ch trosiant yn £150,000 neu’n fwy.

Os yw’ch trosiant yn llai na £150,000, byddwch yn dechrau cyfnod gordal o 12 mis os byddwch yn talu’n hwyr dwywaith o fewn 12 mis.

Os byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW neu’ch taliad yn hwyr yn ystod cyfnod gordal

Os byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW yn hwyr, bydd eich cyfnod gordal o 12 mis yn ailddechrau.

Os byddwch yn talu’n hwyr, bydd eich cyfnod gordal o 12 mis yn ailddechrau ac efallai y bydd angen i chi dalu gordal.

Faint rydych yn ei dalu

Mae’r gordal yn ganran o’r TAW heb ei thalu ar gyfer y cyfnod dan ddifygdaliad. Mae’n cael ei gyfrifo ar y dyddiad cau.

Mae’r tabl hwn yn dangos faint a godir arnoch os byddwch yn diffygdalu yn ystod cyfnod gordal. Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch i esbonio unrhyw ordaliadau sydd arnoch.

Diffygdaliadau cyn pen 12 mis Gordal os yw’r trosiant blynyddol yn llai na £150,000 Gordal os yw’r trosiant blynyddol yn £150,000 neu’n fwy
2il Dim gordal 2% (dim gordal os yw hwn yn llai na £400)
3ydd 2% (dim gordal os yw hwn yn llai na £400) 5% (dim gordal os yw hwn yn llai na £400)
4ydd 5% (dim gordal os yw hwn yn llai na £400) 10% neu £30 (p’un bynnag sydd fwyaf)
5ed 10% neu £30 (p’un bynnag sydd fwyaf) 15% neu £30 (p’un bynnag sydd fwyaf)
6 neu fwy 15% neu £30 (p’un bynnag sydd fwyaf) 15% neu £30 (p’un bynnag sydd fwyaf)

Does dim cosb am gyflwyno Ffurflen TAW sy’n dangos dim (lle nad oes gennych unrhyw beth i’w ddatgan) yn hwyr.

Os yw eich hysbysiad TAW o asesiad treth yn anghywir

Os yw’r asesiad yn rhy uchel, anfonwch Ffurflen TAW gywir a thaliad TAW cywir.

Os yw’r asesiad yn rhy isel, bydd angen i chi wneud un o’r canlynol:

  • rhoi gwybod i CThEF cyn pen 30 diwrnod
  • anfon Ffurflen TAW gywir a thaliad TAW cywir

Fel arall, mae’n bosibl y codir cosb arnoch (hyd at 30% o’r asesiad).

Sut i dalu gordal neu gosb

Mae sawl ffordd y gallwch dalu eich bil TAW, gan gynnwys unrhyw ordaliadau a chosbau.