Canllawiau

Pwyntiau cosb a chosbau os byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW yn hwyr

O 1 Ionawr 2023, byddwch yn cael pwyntiau cosb os bydd-wch yn cyflwyno Ffurflen TAW yn hwyr (gan gynnwys ffurf-lenni ‘dim taliad’). Dysgwch sut mae pwyntiau’n gweithio a sut i osgoi cosb o £200.

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu TAW sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023, mae cosbau am gyflwyno’n hwyr ar waith os cyflwynwch eich Ffurflen TAW yn hwyr. Mae hyn yn cynnwys Ffurflenni TAW ad-daliad neu Ffurflenni TAW ‘dim’.

Mae’r gordal diffygdalu TAW yn cael ei ddisodli gan gosbau newydd ar gyfer Ffurflenni TAW a gaiff eu cyflwyno’n hwyr a TAW a gaiff ei thalu’n hwyr. Mae’r ffordd y codir llog hefyd yn newid.

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu TAW a ddechreuodd ar neu cyn 31 Rhagfyr 2022, darllenwch arweiniad ynghylch y gordal diffygdalu TAW (yn Saesneg).

Sut mae cosbau am gyflwyno’n hwyr yn gweithio

Mae’n rhaid i chi anfon Ffurflen TAW erbyn y dyddiad cau ar gyfer eich cyfnod cyfrifyddu. Eich cyfnod cyfrifyddu yw’r cyfnod y mae’n rhaid i chi anfon Ffurflen TAW ar ei gyfer, er enghraifft, bob chwarter.

Mae cosbau am gyflwyno’n hwyr yn gweithio ar sail system bwyntiau.

Am bob Ffurflen TAW y byddwch yn ei chyflwyno’n hwyr, byddwch yn cael pwynt cosb tan i chi gyrraedd y trothwy pwyntiau cosb.

Pan fyddwch yn cyrraedd y trothwy, byddwch yn cael cosb o £200. Byddwch hefyd yn cael cosb bellach o £200 am bob cyflwyniad hwyr dilynol tra byddwch ar y trothwy.

Y trothwy pwyntiau cosb ar gyfer eich cyfnod cyfrifyddu

Caiff y trothwy pwyntiau cosb ei bennu yn ôl eich cyfnod cyfrifyddu. Y trothwy yw uchafswm y pwyntiau y gallwch eu cael.

Cyfnod cyfrifyddu Trothwy pwyntiau cosb
Blynyddol 2
Chwarterol 4
Misol 5

Enghraifft o gosb ar gyfer busnes sy’n cyflwyno Ffurflenni bob chwarter

Mae cwmni’n cyflwyno’i Ffurflen TAW bob chwarter. Mae hyn yn golygu mai ei drothwy pwyntiau cosb yw 4.

Mae gan y busnes dri phwynt cosb yn barod gan iddo gyflwyno’i dair Ffurflen flaenorol yn hwyr.

Mae’n cyflwyno’i Ffurflen nesaf yn hwyr ac yn cael pedwerydd pwynt cosb. Oherwydd bod y busnes wedi cyrraedd y trothwy pwyntiau cosb, mae’n cael cosb o £200.

Mae’r cwmni’n cyflwyno’i Ffurflen nesaf mewn pryd. Mae’n aros ar y trothwy o 4 pwynt cosb, ond nid yw’n cael cosb o £200.

Mae’r cwmni’n cyflwyno’i Ffurflen nesaf yn hwyr. Gan fod y cwmni’n dal i fod ar y trothwy pwyntiau cosb, sef 4 pwynt yn yr achos hwn, mae’n cael cosb arall o £200.

Os ydych yn defnyddio cyfnod cyfrifyddu ansafonol

Os oes gennych gytundeb gan CThEF i ddefnyddio cyfnodau cyfrifyddu ansafonol, mae rheolau gwahanol ar waith.

Cyfnod cyfrifyddu Trothwy pwyntiau cosb Rheolau sydd ar waith
Dros 20 wythnos 2 Blynyddol
Dros 8 wythnos a heb fod yn fwy nag 20 wythnos 4 Chwarterol
8 wythnos neu lai 5 Misol

Sut mae newidiadau i’ch busnes yn effeithio ar bwyntiau cosb

Newid eich cyfnod cyfrifyddu

Os ydych wedi cytuno â CThEF i newid pa mor aml yr ydych yn cyf-lwyno Ffurflenni, byddwn yn add-asu’ch trothwy a’ch pwyntiau cosb.

Dyma sut y byddwn yn addasu’ch tro-thwy pwyntiau cosb:

Previous accounting period Previous penalty point threshold New accounting period New penalty point threshold
Blynyddol 2 Chwarterol 4
Blynyddol 2 Misol 5
Chwarterol 4 Blynyddol 2
Chwarterol 4 Misol 5
Misol 5 Blynyddol 2
Misol 5 Chwarterol 4

Os oes gennych bwyntiau cosb yn barod, dyma sut y byddwn yn addasu’ch pwyntiau cosb:

Cyfnod cyfrifyddu blaenorol Cyfnod cyfrifyddu newydd Addasiad i’r pwyntiau cosb
Blynyddol Chwarterol + 2 bwynt
Blynyddol Misol + 3 phwynt
Chwarterol Blynyddol - 2 bwynt
Chwarterol Misol + 1 bwynt
Misol Blynyddol - 3 phwynt
Misol Chwarterol -1 bwynt

Pan fyddwch yn newid eich cyfnod cyfrifyddu:

  • byddwn yn gosod eich pwynt-iau cosb i sero os bydd yr addasiad yn rhoi ffigur minws i chi
  • ni fyddwn yn gwneud addas-iad os nad oes gennych un-rhyw bwyntiau

Ni allwch apelio yn erbyn addasiadau i’ch pwyntiau cosb.

Wrth newid o gyfnod cyfrifyddu an-safonol i’r cyfnod safonol cyfatebol, ni fydd eich pwyntiau’n newid.

Cyfnod cyfrifyddu ansafonol Cyfnod cyfrifyddu safonol cyfatebol
Dros 20 wythnos Blynyddol
Dros 8 wythnos a heb fod yn fwy nag 20 wythnos Chwarterol
8 wythnos neu lai Misol

Cymryd busnes drosodd

Os byddwch yn cymryd drosodd fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW fel ‘busnes hyfyw’, ni fydd unrhyw bwyntiau cosb a gronnwyd gan y busnes yn cael eu trosglwyddo i’ch rhif cofrestru TAW. Bydd hyn yn wir hyd yn oed os caiff y rhif cofrestru TAW ei drosglwyddo o’r perchennog blaenorol i chi’ch hun.

Dysgwch ragor am yr hyn y mae ‘busnes hyfyw’ yn ei olygu at ddiben TAW ym mharagraffau 1.3 ac 1.4 o Hysbysiad TAW 700/9 (yn Saesneg).

Grwpiau TAW a phwyntiau cosb

Os bydd aelod cynrychiadol grŵp TAW (yn Saesneg) yn newid, bydd unrhyw bwyntiau cosb y mae wedi’u cronni’n cael eu trosglwyddo i’r aelod cynrychiadol newydd.

Ni fydd cyfanswm pwyntiau cosb y grŵp TAW yn newid os bydd person yn:

  • ymuno â’r grŵp, hyd yn oed os oedd gan yr aelod sy’n ymuno bwyntiau cosb
  • gadael y grŵp (nid yw’r aelod sy’n gadael yn mynd â’r pwyntiau gydag ef)

Ffurflenni TAW na effeithir arnynt

Nid yw’r rheolau o ran cosbau am gyflwyno’n hwyr yn berthnasol i’ch:

  • Ffurflen TAW gyntaf os ydych newydd gofrestru ar gyfer TAW
  • Ffurflen TAW olaf ar ôl i chi ganslo’ch cofrestriad TAW
  • Ffurflenni TAW untro sy’n cwmpasu cyfnod heblaw mis, chwarter neu flwyddyn

Er enghraifft, efallai y byddwch yn cyflwyno Ffurflen TAW untro sy’n cwmpasu cyfnod o bedwar mis oherwydd i chi newid o gyflwyno’n chwarterol i gyflwyno’n flynyddol.

Apelio yn erbyn pwynt neu gosb ariannol

Os byddwch yn cael pwynt cosb am gyflwyno’n hwyr neu gosb o £200, bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi mewn llythyr penderfyniad o gosb. Bydd y llythyr yn cynnig adolygiad i chi gyda CThEF.

Dysgwch sut a phryd y gallwch apelio yn erbyn cosb.

Gallwch ddewis cael adolygiad neu apelio ar y tribiwnlys treth.

Mae’n bosibl y bydd eich cosb yn cael ei chanslo neu ei diwygio os oes gennych esgus rhesymol.

Gwirio ac apelio yn erbyn cosbau ar-lein

Gallwch wirio manylion cosbau yn eich cyfrif TAW ar-lein a gofyn am adolygiad drwy’ch cyfrif ar-lein.

Os na allwch ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein, gallwch ysgrifennu at y cyfeiriad hwn i ofyn am adolygiad. Does dim rhaid i chi gynnwys enw stryd, dinas na blwch Swyddfa’r Post:

Swyddfa’r Cyfreithiwr a Gwasanaethau Cyfreithiol — Solicitor’s Office and Legal Services
HMRC
BX9 1ZT

Cyhoeddwyd ar 4 January 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 March 2023 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.