Canllawiau

Dileu’r pwyntiau cosb a gawsoch ar ôl cyflwyno’ch Ffurflen TAW yn hwyr

Os ydych wedi cyrraedd uchafswm nifer y pwyntiau a ganiateir, dewch o hyd i sut i’w dileu ac osgoi cosb bellach o £200. Gwirio pan ddaw pwyntiau cosb unigol i ben.

Os ydych wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer pwyntiau cosb am gyflwyno’n hwyr, bydd angen i chi gymryd camau i’w dileu er mwyn osgoi cosbau pellach o £200.

Os nad ydych wedi cyrraedd y trothwy, bydd pwyntiau unigol yn dod i ben yn awtomatig. Gallwch hefyd gymryd camau i gael gwared ohonyn nhw.

Gallwch wirio’r pwyntiau cosb yn eich cyfrif ar-lein ac apelio yn erbyn pwynt neu gosb ariannol.

Os nad ydych wedi cyrraedd y trothwy pwyntiau cosb

Os nad ydych wedi cyrraedd y trothwy pwyntiau cosb ar gyfer eich cyfnod cyfrifyddu (yn Saesneg), bydd pwyntiau unigol yn dod i ben yn awtomatig. Eich cyfnod cyfrifyddu yw pan fydd angen i chi anfon Ffurflen TAW i CThEF fel arfer, er enghraifft bob chwarter.

Mae pryd y daw pwyntiau cosb i ben yn dibynnu ar y dyddiad yr oedd eich Ffurflen TAW i fod i gael ei chyflwyno.

Os mai’r dyddiad cau ar gyfer ei chyflwyno oedd:

  • nid diwrnod olaf y mis — bydd pwynt cosb yn dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis, 24 mis ar ôl hyn
  • diwrnod olaf y mis — bydd pwynt cosb yn dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis, 25 mis ar ôl hyn

Gallwch hefyd gael gwared ar eich holl bwyntiau trwy fodloni’r ddau amod, sef A a B a ddisgrifir yn yr adran nesaf. Gall hyn helpu i’w symud yn gynt nag aros 24 mis iddynt ddod i ben.

Dileu’r holl bwyntiau cosb os ydych wedi cyrraedd y trothwy

Os ydych wedi cyrraedd y trothwy pwyntiau cosb a bod gennych uchafswm nifer y pwyntiau a ganiateir ar gyfer eich cyfnod cyfrifyddu, dim ond drwy fodloni amodau A yn ogystal â B y gallwch eu dileu.

Bydd cwrdd â’r ddau amod yn cael gwared ar eich holl bwyntiau hyd yn oed os nad ydych ar y trothwy

A: cwblhau cyfnod cydymffurfio, gan gyflwyno pob un o’r Ffurflenni TAW erbyn y dyddiad cau.

B: cyflwyno pob un o’r Ffurflenni Treth a oedd fod i ddod i law ar gyfer y 24 mis blaenorol.

Cyn i chi ddechrau, nodwch unrhyw gymorth a allai eich helpu i gyflwyno’ch Ffurflenni TAW (yn Saesneg) er mwyn bodloni amodau A yn ogystal â B.

Cwblhau cyfnod cydymffurfio (amod A)

Cyfnod cydymffurfio yw pan fyddwch yn cyflwyno pob un o’ch Ffurflenni TAW mewn pryd.

Pryd i ddechrau cyfnod cydymffurfio

I benderfynu ar y dyddiad cynharaf y gallwch ddechrau cyfnod cydymffurfio, dilynwch y camau hyn:

  1. Cofnodwch y diwrnod ar ôl y dyddiad cau a fethwyd ar gyfer eich cyfnod cyfrifyddu.
  2. Cofnodwch ddiwrnod cyntaf y mis yn dilyn y dyddiad a gofnodwyd yng ngham 1.
  3. Dechreuwch eich cyfnod cydymffurfio ar y dyddiad a gofnodwyd yng ngham 2.
Enghraifft o ddyddiad cyflwyno a fethwyd Dechrau cynharaf — cyfnod cydymffurfio
7 Gorffennaf 1 Awst
31 Mawrth 1 Mai

Ffurflenni TAW y bydd angen i chi eu cyflwyno

Yn dibynnu ar eich cyfnod cyfrifyddu, bydd disgwyl i chi gyflwyno’r Ffurflenni TAW hyn mewn pryd yn ystod cyfnod cydymffurfio.

Cyfnod cyfrifyddu Cyfnod cydymffurfio Ffurflenni TAW i’w cyflwyno
Blynyddol 24 mis 2
Chwarterol 12 mis 4
Misol 6 mis 6

Cyflwyno pob un o’r Ffurflenni TAW a oedd fod i ddod i law (amod B)

Bydd angen i chi hefyd gyflwyno unrhyw Ffurflenni TAW a oedd fod i ddod i law ar gyfer y 24 mis blaenorol. Bydd y 24 mis yn cynnwys y cyfnod cydymffurfio.

Enghraifft o ddileu pwyntiau (Ffurflenni TAW chwarterol)

Gwyliwch drosolwg fideo o gyflwyniad TAW yn hwyr a chosbau a llog am dalu’n hwyr (yn Saesneg).

Mae Cwmni X yn cyflwyno’i Ffurflenni TAW bob chwarter, felly ei drothwy cosb am gyflwyno’n hwyr yw 4 pwynt. Erbyn 7 Awst 2024, mae wedi cyrraedd y trothwy drwy fethu â chyflwyno Ffurflenni TAW a oedd fod i ddod i law ar y dyddiadau hyn:

  • 7 Mai 2023 (yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023)
  • 7 Tachwedd 2023 (yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2023)
  • 7 Chwefror 2024 (yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023)
  • 7 Awst 2024 (yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2024)

Bodloni amod A

I fodloni amod A, rhaid i Gwmni X gyflwyno pob un o’r Ffurflenni TAW mewn pryd am 12 mis. Gan mai 7 Awst 2024 oedd y dyddiad cau diwethaf a fethwyd, bydd y cyfnod cydymffurfio o 12 mis yn:

  • dechrau ar 1 Medi 2024, ar y cynharaf
  • dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, ar 31 Awst 2025

Mae Cwmni X yn cyflwyno pob un o’i Ffurflenni TAW a oedd fod i ddod i law rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025 mewn pryd, sef 4 Ffurflen TAW. Mae hyn yn golygu ei fod wedi bodloni amod A.

Bodloni amod B

Er mwyn bodloni amod B, mae angen i Gwmni X fod wedi cyflwyno pob un o’r Ffurflenni TAW a oedd fod i ddod i law yn ystod y 24 mis blaenorol.

Mae Cwmni X yn cyflwyno’r Ffurflenni TAW a oedd fod i ddod i law ym mis Chwefror 2024 a mis Awst 2024. Mae’r holl Ffurflenni TAW a oedd fod i ddod i law yn ystod y cyfnod rhwng 1 Medi 2023 a 31 Awst 2025 wedi’u cyflwyno erbyn hyn, fel bod amod B yn cael ei fodloni.

Bydd pwyntiau cosb Cwmni X yn cael eu hailosod i sero ar y diwrnod cyntaf pan fydd amod A yn ogystal ag amod B yn cael eu bodloni.

Cyhoeddwyd ar 4 January 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 February 2023 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.