Canllawiau

Llog ar ad-daliadau ar gredydau TAW neu ordaliadau TAW

Gwirio pryd y byddwch yn gymwys i gael llog ar ad-daliadau os yw CThEF yn hwyr yn setlo hawliad am ad-daliad yn sgil Ffurflen TAW neu TAW a ordalwyd gennych.

Os gwnaethoch godi llai o TAW ar eich cwsmeriaid nag oeddech wedi talu ar eich pryniannau, bydd CThEF fel arfer yn ad-dalu’r gwahaniaeth i chi drwy ad-daliad TAW (yn agor tudalen Saesneg). Gan amlaf, byddwn hefyd yn ad-dalu unrhyw symiau TAW rydych wedi eu gordalu.

Os bydd CThEF yn hwyr yn eich talu, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i log ar ad-daliadau ar unrhyw TAW sy’n ddyledus i chi. Bydd llog ar ad-daliadau yn disodli’r atodiad ad-dalu (yn agor tudalen Saesneg)  ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2023 neu ar ôl hynny.

Cyfrifo llog ar ad-daliadau TAW

Telir llog ar ad-daliadau ar gyfradd sylfaen Banc Lloegr minws 1%, gyda chyfradd isaf o 0.5%.

Pryd na fyddwch yn gymwys i gael llog ar ad-daliadau ar ordaliadau

Telir llog ar ad-daliadau ar ordaliadau sy’n ymwneud â swm sy’n ddyledus i CThEF.  Ni fyddwn yn talu llog pan fyddwch wedi talu swm ar gam.

Er enghraifft, os byddwch yn talu £1,000 yn hytrach na £100.

Dyddiad dechrau ar gyfer llog ar ad-daliadau TAW

Mae’r adeg y mae CThEF yn dechrau cyfrifo llog ar ad-daliadau yn dibynnu ar p’un a ydym yn ad-dalu swm rydych:

  • eisoes wedi’i dalu i CThEF
  • heb dalu ac mae’n dangos fel credyd sy’n ddyledus i chi ar Ffurflen TAW neu ar hawliad

Os ydych eisoes wedi talu’r TAW i CThEF

Bydd y llog ar ad-daliadau’n cael ei gyfrifo o’r diwrnod ar ôl y naill neu’r llall o’r ddau ddyddiad canlynol, p’un bynnag sydd hwyraf:

  • y dyddiad pan wnaethoch dalu’r TAW i CThEF
  • y dyddiad cau ar gyfer talu ar gyfer eich cyfnod cyfrifyddu

Ni fydd CThEF yn talu llog ar daliadau TAW cynnar.

Os nad ydych wedi talu’r TAW i CThEF

Bydd y llog ar ad-daliadau’n dechrau ar y diwrnod ar ôl y naill neu’r llall o’r ddau ddyddiad canlynol, p’un bynnag sydd hwyraf:

  • y dyddiad cau ar gyfer eich Ffurflen TAW ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu
  • y dyddiad pan wnaethoch gyflwyno’r Ffurflen TAW neu’r hawliad

Eithriadau i’r rheolau am ddyddiadau dechrau

Os byddwch yn hawlio swm, a bod rhan ohono’n TAW a daloch i CThEF a rhan ohono’n TAW na daloch i CThEF, gall y ddwy reol o ran dyddiadau dechrau fod yn berthnasol.

Mae llog ar ad-daliadau’n cael ei gyfrifo mewn ffordd wahanol ar gyfer cwsmeriaid taliad ar gyfrif (yn agor tudalen Saesneg). Os byddant yn talu rhandaliadau sy’n fwy na’r hyn sydd arnynt ar gyfer cyfnod cyfrifyddu TAW, bydd llog ar ad-daliadau ar y swm a ordalwyd yn dechrau ar ddyddiad cau’r Ffurflen TAW.

Os oes gennych unrhyw Ffurflenni TAW sydd heb eu cyflwyno, bydd llog ar ad-daliadau ar Ffurflen TAW sy’n arwain at ad-daliad dim ond yn dechrau pan fydd CThEF wedi cael pob un Ffurflen TAW gennych.

Er enghraifft, mae llog ar ad-daliadau ar Ffurflen TAW sy’n arwain at ad-daliad yn dechrau ar 1 Ionawr, ond mae dal gennych Ffurflen TAW i’w chyflwyno. Os byddwch yn ei chyflwyno ar 15 Ionawr, mae’r llog ar ad-daliadau yn dechrau ar y dyddiad hwn.

Efallai y bydd CThEF yn gofyn i chi dalu gwarant TAW. Os nad ydych yn talu hwn, ni fyddwch yn cael llog ar ad-daliadau ar eich Ffurflen TAW sy’n arwain at ad-daliad:

  • o’r dyddiad y mae CThEF yn rhoi hysbysiad i chi dalu gwarant
  • hyd nes y byddwch yn talu’r warant honno

Dyddiad y daw’r llog ar ad-daliadau TAW i ben

Bydd llog ar ad-daliadau yn dod i ben pan fydd CThEF naill ai’n ad-dalu’r TAW i chi, neu’n ei osod yn erbyn TAW gwahanol neu swm gwahanol o dreth sydd arnoch iddynt – eich dyledion eraill.

Os bydd CThEF yn gosod y TAW yn erbyn eich dyledion eraill, bydd y llog ar ad-daliadau’n dod i ben ar y dyddiad:

  • pan wnaethoch gyflwyno’r Ffurflen TAW neu’r hawliad, neu
  • pan oedd y ddyled, y cafodd y llog ei osod yn ei herbyn, yn ddyledus

Fel rheol, ni fyddai llog ar ad-daliadau’n ddyledus.

Enghraifft o ad-daliad lle bo’r TAW heb ei thalu

Mae gan Gwmni A gredyd TAW o £10,000, ac mae llog ar ad-daliadau am 3 diwrnod

Mae’r cwmni’n defnyddio cyfnod cyfrifyddu misol. Mae’r dyddiadau fel a ganlyn:

  • 30 Medi — sef y dyddiad y daw cyfnod cyfrifyddu misol y cwmni i ben
  • 1 Tachwedd — sef y dyddiad y cyflwynodd ei Ffurflen TAW â chredyd TAW o £10,000
  • 7 Tachwedd — sef y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen TAW mis Medi
  • 10 Tachwedd — sef y dyddiad y mae CThEF yn talu £10,000 i Gwmni A

Bydd llog ar ad-daliadau ar y £10,000 yn ddyledus am 3 diwrnod i Gwmni A o 8 Tachwedd 2023 tan 10 Tachwedd 2023, yn gynhwysol.

Ar gyfer yr enghraifft hon, cyfradd sylfaen Banc Lloegr yw 1%, sy’n golygu bod y gyfradd llog ar ad-daliadau yn 0.5%.

Mae’r llog ar ad-daliadau am 3 diwrnod yn 41 ceiniog.

(£10,000 × 0.5% × 3 ÷ 365 diwrnod) = 41 ceiniog.

Enghraifft o ad-daliad lle bo’r TAW wedi’i thalu

Mae Cwmni B wedi gordalu £3,000, ac mae llog ar ad-daliadau am 18 diwrnod

Mae Cwmni B yn defnyddio cyfnod cyfrifyddu chwarterol. Mae’r dyddiadau fel a ganlyn:

  • 31 Mawrth — sef y dyddiad y daw cyfnod cyfrifyddu chwarterol Cwmni B i ben
  • 7 Mai — sef y dyddiad y mae’r cwmni’n cyflwyno’i Ffurflen TAW a thalu’r TAW o £10,000 ar ddyddiad cau’r Ffurflen TAW
  • 12 Mai — sef y dyddiad y mae Cwmni B yn nodi camgymeriad ar ei Ffurflen TAW ar gyfer mis Mawrth ac yn hawlio ad-daliad TAW o £3,000
  • 25 Mai — sef y dyddiad y mae CThEF yn ad-dalu £3,000 i Gwmni B

Bydd llog ar ad-daliadau ar y £3,000 yn ddyledus am 18 diwrnod i Gwmni B o 8 Mai 2023 tan 25 Mai 2023, yn gynhwysol.

Ar gyfer yr enghraifft hon, cyfradd sylfaen Banc Lloegr yw 3%, sy’n golygu bod y gyfradd llog ar ad-daliadau yn 2%.

Mae’r llog ar ad-daliadau am 18 diwrnod yn £2.96.

(£3,000 × 2% × 18 ÷ 365 diwrnod) = £2.96.

Help a chymorth

Gallwch ddod o hyd i ragor o enghreifftiau wrth wylio’r gweminar wedi’i recordio Overview of new VAT penalties and interest charges (yn agor tudalen Saesneg).

Cyhoeddwyd ar 4 January 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 January 2024 + show all updates
  1. Information on eligibility criteria for repayment interest on overpayments and start dates when VAT is not paid to HMRC has been updated. Information on repayment interest end dates when HMRC sets it off against your debts has also been updated.

  2. Translation added.

  3. When you're not eligible for repayment interest and when repayment interest ends has been clarified.

  4. First published.