Trosolwg

Mae TAW (Treth ar Werth) yn dreth a ychwanegir at y rhan fwyaf o gynhyrchion a gwasanaethau a werthir gan fusnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW.

Mae’n rhaid i fusnesau gofrestru ar gyfer TAW os yw eu trosiant trethadwy TAW yn fwy nag £90,000. Gallant hefyd ddewis cofrestru os yw eu trosiant yn llai nag £90,000.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Eich cyfrifoldebau fel busnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW

Fel busnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cynnwys TAW ym mhris yr holl nwyddau a gwasanaethau ar y gyfradd gywir (yn Saesneg)
  • cadw cofnodion o faint o TAW rydych yn ei thalu am bethau rydych yn eu prynu ar gyfer eich busnes
  • rhoi cyfrif am TAW ar unrhyw nwyddau rydych yn eu mewnforio i’r DU
  • rhoi gwybod am faint o TAW y gwnaethoch ei chodi ar eich cwsmeriaid a faint o TAW a dalwyd gennych i fusnesau eraill drwy anfon Ffurflen TAW i Gyllid a Thollau EF (CThEF) - fel arfer bob 3 mis
  • talu unrhyw TAW sydd arnoch i CThEF

Fel arfer, y TAW rydych yn ei thalu yw’r gwahaniaeth rhwng unrhyw TAW rydych wedi’i thalu i fusnesau eraill, a’r TAW rydych wedi’i chodi ar eich cwsmeriaid.

Os ydych wedi codi mwy o TAW nag yr ydych wedi’i thalu, mae’n rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth i CThEF.

Os ydych wedi talu mwy o TAW nag yr ydych wedi’i chodi, bydd CThEF fel arfer yn ad-dalu’r gwahaniaeth i chi (yn Saesneg).

Gallwch benodi asiant i ddelio â CThEF ar eich rhan, os yw’n well gennych.

Mae cynlluniau TAW y gallwch ymuno â nhw sy’n effeithio ar sut rydych yn cyfrifo ac yn rhoi gwybod am y TAW sydd arnoch i CThEF.