Pryd i gofrestru ar gyfer TAW

Mae’n rhaid i chi gofrestru os yw’r canlynol yn wir:

  • roedd cyfanswm eich trosiant trethadwy TAW ar gyfer y 12 mis diwethaf dros £90,000 (y trothwy TAW)
  • rydych yn disgwyl i’ch trosiant fod yn fwy nag £90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’n rhaid i chi hefyd gofrestru (ni waeth beth fo’r trosiant trethadwy TAW) os yw pob un o’r canlynol yn wir:

  • rydych wedi’ch lleoli y tu allan i’r DU
  • mae’ch busnes wedi’i leoli y tu allan i’r DU
  • rydych yn cyflenwi unrhyw nwyddau neu wasanaethau i’r DU (neu rydych yn disgwyl gwneud hynny yn ystod y 30 diwrnod nesaf)

Os nad ydych yn sicr a yw hyn yn berthnasol i chi, darllenwch yr arweiniad ar bersonau sy’n agored i dreth y DU, ond heb eu sefydlu yma (NETPs) (yn Saesneg).

Gallwch ddewis cofrestru ar gyfer TAW os yw’ch trosiant yn llai nag £90,000 (‘cofrestriad gwirfoddol’).

Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw TAW sydd arnoch i CThEF o’r dyddiad y mae’n eich cofrestru.

Os yw popeth rydych yn ei werthu wedi’i eithrio rhag TAW, nid oes rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW.

Os aethoch y tu hwnt i’r trothwy yn ystod y 12 mis diwethaf

Mae’n rhaid i chi gofrestru os, erbyn diwedd unrhyw fis, oedd cyfanswm eich trosiant trethadwy TAW ar gyfer y 12 mis diwethaf yn fwy nag £90,000.

Mae’n rhaid i chi gofrestru cyn pen 30 diwrnod i ddiwedd y mis yr aethoch dros y trothwy. Y dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym yw diwrnod cyntaf yr ail fis ar ôl i chi fynd dros y trothwy.

Enghraifft

Rhwng 10 Gorffennaf 2019 a 9 Gorffennaf 2020, eich trosiant trethadwy TAW yw £100,000. Dyna’r tro cyntaf iddo fynd dros y trothwy TAW. Mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn 30 Awst 2020. 1 Medi 2020 yw’r dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym.

Os ydych yn mynd i fynd y tu hwnt i’r trothwy yn ystod y 30 diwrnod nesaf

Mae’n rhaid i chi gofrestru os sylweddolwch fod cyfanswm eich trosiant trethadwy TAW blynyddol yn mynd i fynd dros y trothwy £90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf.

Mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn diwedd y cyfnod hwnnw o 30 diwrnod. Mae’r dyddiad y daw’r cofrestriad i rym yn cyfateb i’r dyddiad y gwnaethoch sylweddoli, nid y dyddiad yr aeth eich trosiant dros y trothwy.

Enghraifft

Ar 1 Mai, rydych yn trefnu contract gwerth £100,000 i ddarparu gwasanaethau. Cewch eich talu ar ddiwedd mis Mai. Mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn 30 Mai. 1 Mai yw’r dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym.

Os ydych yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau sydd wedi’u heithrio rhag TAW ac sydd wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon

Bydd yn rhaid i chi gofrestru os ydych ond yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau sydd wedi’u heithrio rhag TAW neu sydd ‘y tu allan i gwmpas’ TAW ond eich bod yn prynu nwyddau am fwy nag £90,000 oddi wrth gyflenwyr sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW yn yr UE (yn Saesneg) i’w defnyddio yn eich busnes.

Os ydych yn cymryd busnes drosodd sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW

Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW os yw trosiant trethadwy cyfunol y busnes newydd a’ch busnes presennol dros y trothwy.

Cyfrifo’ch trosiant

Eich trosiant yw cyfanswm gwerth popeth rydych yn ei werthu nad yw wedi’i eithrio rhag TAW. Mae hefyd yn cynnwys:

Cofrestru’n hwyr

Os ydych yn cofrestru’n hwyr, mae’n rhaid i chi dalu TAW ar unrhyw werthiannau rydych wedi’u gwneud ers y dyddiad y dylech fod wedi’ch cofrestru.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb, yn dibynnu ar faint sydd arnoch a pha mor hwyr yw’ch cofrestriad.

Os byddwch yn mynd dros y trothwy dros dro

Gallwch wneud cais am ‘eithriad’ rhag cofrestru os bydd eich trosiant trethadwy yn mynd dros y trothwy dros dro.

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) gyda thystiolaeth sy’n dangos pam rydych yn credu na fydd eich trosiant trethadwy TAW yn mynd dros y trothwy datgofrestru o £88,000 yn ystod y 12 mis nesaf.

Bydd CThEF yn ystyried eich eithriad ac yn rhoi gwybod i chi’n ysgrifenedig os byddwch yn cael un. Os na fyddwch yn cael eithriad, bydd CThEF yn eich cofrestru ar gyfer TAW.