Pryd i beidio â chodi TAW

Ni allwch godi TAW ar nwyddau neu wasanaethau sydd wedi’u heithrio.

Os byddwch yn prynu neu’n gwerthu eitem sydd wedi’i heithrio, dylech gofnodi’r trafodyn yn eich cyfrifon busnes cyffredinol o hyd.

Mae nwyddau a gwasanaethau sydd wedi’u heithrio rhag TAW yn cynnwys:

  • gwasanaethau ariannol, buddsoddiadau ac yswiriant

  • garejys, llefydd parcio ac angorau cwch preswyl

  • eiddo, tir ac adeiladau

  • addysg a hyfforddiant

  • gofal iechyd a thriniaeth feddygol

  • cynlluniau angladd, gwasanaethau claddu neu amlosgi

  • digwyddiadau elusennol

  • hynafolion

  • hapchwarae neu docynnau loteri

  • gweithgareddau chwaraeon

Mae rhestr lawn o’r nwyddau sydd wedi’u heithrio rhag TAW ar gael yma.

Nwyddau a gwasanaethau sydd ‘y tu hwnt i gwmpas’

Mae rhai nwyddau a gwasanaethau tu allan i’r system TAW (‘y tu hwnt i gwmpas’), felly ni allwch godi nac adennill TAW arnynt. Er enghraifft:

  • nwyddau neu wasanaethau rydych yn eu prynu a’u defnyddio y tu allan i’r DU

  • ffioedd statudol, megis tâl atal tagfeydd Llundain

  • nwyddau rydych yn eu gwerthu fel hobi, megis stampiau o gasgliad

  • cyfraniadau i elusen, os fe’u rhoddir heb gael unrhyw beth yn ôl

Codi TAW ar elusennau

Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW werthu rhai nwyddau a gwasanaethau i elusennau ar y gyfradd sero neu’r gyfradd is o TAW.

Dysgwch beth sy’n gymwys ar gyfer y gyfradd is.

Os ydych yn fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, eich cyfrifoldeb chi yw gwirio a yw’r elusen yn gymwys, ac i ddefnyddio’r gyfradd gywir.

Nid yw clybiau chwaraeon amatur cymunedol yn gymwys i gael y rhyddhadau TAW ar gyfer elusennau.

Gwirio bod yr elusen yn gymwys

Gofynnwch i’r elusen roi tystiolaeth i chi ei bod yn elusen. Gall hyn fod yn un o’r canlynol:

  • rhif cofrestru’r Comisiwn Elusennau

  • llythyr o gydnabyddiaeth gan Gyllid a Thollau EM (CThEM) os nad yw wedi’i gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau (er enghraifft, os yw’n elusen yn yr Alban neu’n Gogledd Iwerddon)

Cael datganiad ysgrifenedig

Mae angen i chi hefyd ofyn i’r elusen roi datganiad ysgrifenedig neu dystysgrif i chi yn cadarnhau ei bod yn bodloni’r amodau ar gyfer y rhyddhad TAW penodol.

Rhaid i elusennau ddilyn fformat penodol ar gyfer y datganiad neu dystysgrif. Rhaid i’r datganiad fod ar wahân i’r ffurflen archebu neu anfoneb.

Mae’n rhaid i chi gadw unrhyw ddatganiad neu dystysgrif am o leiaf 4 blynedd.