Codi, adennill a chofnodi TAW

Neidio i gynnwys y canllaw

TAW ar ostyngiadau neu roddion

Mae gwahanol reolau ar gyfer codi TAW ar ostyngiadau, rhoddion a gwasanaethau sy’n rhad ac am ddim.

Codi TAW ar ostyngiadau

Pan ddaw i ostyngiadau sylfaenol (er enghraifft, gostyngiad o 20%) codwch TAW ar y pris gostyngol.

Cynigion amleitem

Cynigion amleitem yw pan fo’r cwsmer yn cael gostyngiad am brynu rhagor o eitemau, er enghraifft 3 eitem am £20.

Ar gyfer cynigion amleitem lle mae pob eitem â’r un gyfradd TAW (fel arfer y gyfradd safonol), codwch TAW ar y pris cyfunol.

Os oes gan yr eitemau yn y cynnig gyfraddau gwahanol o TAW, mae angen i chi ddefnyddio dull o’r enw ‘dosrannu’.

Darllenwch adran 8 o’r arweiniad ar reolau a gweithdrefnau TAW i weld sut mae dosrannu’n gweithio.

Cynigion drwy arbedion-cyswllt

Cynigion drwy arbedion-cyswllt yw pan fo’r cwsmer yn cael ail eitem am bris gostyngol (neu am ddim) gyda’i bryniant, er enghraifft ‘prynu un, cael un am ddim’.

Defnyddiwch y dull ‘dosrannu’ i gyfrifo’r TAW, oni bai bod yr eitem sy’n rhad ac am ddim neu’n ostyngol:

  • â gwerth o ran ailwerthu sy’n llai na £1

  • â gwerth o ran gwerthu sy’n llai na £5

  • yn costio llai nag 20% o gyfanswm yr eitemau eraill yn y cynnig i chi

  • ddim yn cael ei gwerthu am bris ar wahân i’r prif gynnyrch

Os yw unrhyw un o’r uchod yn berthnasol, codwch TAW ar werth cyfun yr eitemau.

Codi TAW ar gwponau neu dalebau

Peidiwch â chodi TAW ar y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • cwpon neu daleb arian parod rydych chi’n ei roi am ddim gydag eitem arall ar adeg y prynu

  • talebau ‘gwerth enwol’ y gellir eu defnyddio ar gyfer mwy nag un math o nwyddau neu wasanaeth (os cânt eu gwerthu am eu gwerth ariannol neu am lai)

Codwch TAW pan fydd cwsmer yn defnyddio taleb ‘gwerth enwol’ i brynu rhywbeth oddi wrthych. Os gwnaethoch werthu’r daleb am bris gostyngol, codwch TAW ar y gwerth gostyngol.

TAW ar roddion

Nid oes arnoch TAW os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn rhoi’ch nwyddau a gwasanaethau eich hunan i ffwrdd

  • mae cyfanswm gwerth y rhoddion a roddir i’r un person mewn cyfnod o 12 mis yn llai na £50

TAW ar nwyddau a gwasanaethau sy’n rhad ac am ddim

Fel arfer nid oes arnoch TAW ar nwyddau a gwasanaethau a rowch i ffwrdd am ddim.

Eitem neu wasanaeth Amod i’w fodloni i fod wedi eich eithrio rhag talu TAW
Samplau rhad ac am ddim I’w defnyddio at ddibenion marchnata a rhoi digon ohonynt i ganiatáu i ddarpar gwsmeriaid brofi’r cynnyrch
Benthyciadau am ddim o asedion busnes Mae cost llogi’r ased wedi’i chynnwys mewn rhywbeth arall rydych yn ei werthu i’r cwsmer
Gwasanaethau rhad ac am ddim Nid ydych yn cael unrhyw daliad neu nwyddau neu wasanaethau yn gyfnewid