Codi, adennill a chofnodi TAW
Codi TAW
Fel busnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, rhaid i chi godi TAW ar y nwyddau a gwasanaethau yr ydych yn eu gwerthu.
Mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW i allu codi TAW ar eich anfonebau.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Sut i godi TAW
Pan ydych y gwerthu nwyddau neu wasanaethau, rhaid i chi wneud y canlynol:
-
cyfrifo’r pris sy’n cynnwys TAW gan ddefnyddio’r gyfradd TAW gywir (y gyfradd safonol, is neu sero)
-
dangos yr wybodaeth TAW ar eich anfoneb - rhaid i anfonebau gynnwys eich rhif TAW a dangos y TAW ar wahân
-
dangos y trafodyn yn eich cyfrif TAW - crynodeb o’ch TAW
-
cofnodi’r swm ar eich Ffurflen TAW
Cyfraddau TAW
Mae 3 cyfradd TAW.
Cyfradd safonol
Mae’r rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau ar y gyfradd safonol. Codwch y gyfradd hon oni bai bod y nwyddau neu’r gwasanaethau wedi’u hystyried ar gyfradd is neu gyfradd sero.
Mae hyn yn cynnwys unrhyw nwyddau sydd o dan y trothwy gwerthu o bell yr ydych yn eu cyflenwi i Ogledd Iwerddon i gwsmeriaid yn yr UE sydd heb gofrestru ar gyfer TAW . Os byddwch yn mynd dros y trothwy, bydd yn rhaid i chi wneud cais i gofrestru ar gyfer TAW yn y wlad honno.
Cyfradd is
Mae pryd y gallwch godi’r gyfradd hon yn dibynnu ar yr eitem ac amgylchiadau’r gwerthu, er enghraifft:
-
codir 5% ar seddi car i blant a thanwydd neu bŵer domestig
-
codir 5% ar gymhorthion symud i bobl hŷn os ydynt ar gyfer rhywun sydd dros 60 oed a bod y nwyddau’n cael eu gosod yn ei gartref
Mae rhestr o nwyddau a gwasanaethau ar gyfradd is ar gael yma.
Cyfradd sero
Mae’r gyfradd hon yn golygu bod y nwyddau’n parhau i fod yn agored i TAW ond mai 0% yw’r gyfradd sy’n rhaid i chi ei chodi.
Codwch y gyfradd sero ar nwyddau y gwnaethoch eu hallforio o dan yr amgylchiadau canlynol:
-
Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) i rywle y tu allan i’r DU
-
Gogledd Iwerddon i rywle y tu allan i’r DU a’r UE
-
nwyddau yr ydych yn eu cyflenwi o Ogledd Iwerddon i fusnes yn yr UE sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW - gallwch wirio os yw’r rhif TAW yn ddilys
Gall cyfraddau newid a rhaid i chi ddefnyddio unrhyw newidiadau i’r cyfraddau o’r dyddiad y maent yn newid.
Prisiau sy’n cynnwys TAW a phrisiau heb gynnwys TAW
Bydd angen i chi gyfrifo’r pris yn cynnwys TAW wrth godi TAW ar nwyddau neu wasanaethau. Mae’n bosibl y bydd angen i chi hefyd gyfrifo swm y TAW a daloch ar nwyddau a brynwyd gennych, os ydych yn bwriadu adennill y TAW.
Prisiau sy’n cynnwys TAW
I gyfrifo pris sy’n cynnwys y gyfradd safonol o TAW (20%), lluoswch y pris heb gynnwys TAW ag 1.2.
Enghraifft
Rydych yn gwerthu cadair am £60 ac mae angen ychwanegu 20% o TAW i gael y pris sy’n cynnwys TAW.
60 x 1.2 = 72
Y pris sy’n cynnwys TAW yw £72.
I gyfrifo pris sy’n cynnwys y gyfradd is o TAW (5%), lluoswch y pris heb gynnwys TAW ag 1.05.
Enghraifft
Rydych yn gwerthu sedd car i blant am £200 ac mae angen ychwanegu 5% o TAW i gael y pris sy’n cynnwys TAW.
200 x 1.05 = 210
Y pris sy’n cynnwys TAW yw £210.
Prisiau heb gynnwys TAW
I gyfrifo pris sydd heb gynnwys y gyfradd safonol o TAW (20%), dylech rannu’r pris sy’n cynnwys TAW ag 1.2.
Enghraifft
Gwnaethoch brynu bwrdd a chyfanswm y pris yn cynnwys TAW o 20% oedd £180.
180 ÷ 1.20 = 150
Y pris heb gynnwys TAW yw £150. Y swm y gallwch ei adhawlio yw’r gwahaniaeth rhwng y ddau rif - £30.
I gyfrifo pris sydd heb gynnwys y gyfradd is o TAW (5%), dylech rannu’r pris sy’n cynnwys TAW ag 1.05.
Enghraifft
Gwnaethoch brynu lifft risiau a chyfanswm y pris yn cynnwys TAW o 5% oedd £483.
483 ÷ 1.05 = 460
Y pris heb gynnwys TAW yw £460. Y swm y gallwch ei adhawlio yw’r gwahaniaeth rhwng y ddau rif - £23.