Sut i gofrestru ar gyfer TAW

Gallwch fel arfer gofrestru ar gyfer TAW ar-lein.

Gallwch ddechrau codi TAW ar eich gwerthiannau ac adennill TAW ar eitemau a brynoch o’r dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch i gofrestru ar gyfer TAW

Mae’r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i gofrestru ar gyfer TAW yn dibynnu ar eich math o fusnes.

Os ydych yn gwmni cyfyngedig

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • rhif cofrestru’ch cwmni
  • manylion cyfrif banc eich busnes
  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
  • manylion eich trosiant blynyddol

Bydd hefyd angen i chi roi gwybodaeth am eich:

  • Hunanasesiad
  • Treth Gorfforaeth
  • Talu Wrth Ennill (TWE)

Os ydych chi’n unigolyn neu’n bartneriaeth

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • dogfen adnabod, megis pasbort neu drwydded yrru
  • manylion eich cyfrif banc
  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), os oes gennych un
  • manylion eich trosiant blynyddol

Bydd angen i chi hefyd roi gwybodaeth am eich:

  • Ffurflen Dreth Hunanasesiad
  • slipiau cyflog
  • P60

Cofrestru ar gyfer TAW

Dechreuwch nawr

Mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch er mwyn cofrestru ar gyfer TAW. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID) eisoes, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.

Nid oes rhaid i chi gwblhau’ch cofrestriad cyfan ar un tro. Gallwch gadw’ch cofnod a mynd yn ôl ato’n ddiweddarach os oes angen.

Pan na allwch gofrestru ar-lein

Mae’n rhaid i chi gofrestru drwy’r post gan ddefnyddio VAT1 os ydych:

Cofrestrwch drwy’r post gan ddefnyddio:

  • ffurflen VAT1A os ydych yn fusnes yn yr UE sy’n ‘gwerthu o bell’ i Ogledd Iwerddon

  • ffurflen VAT1B os ydych yn mewnforio (‘caffael’) nwyddau sy’n werth mwy nag £90,000 i Ogledd Iwerddon o wlad yn yr UE

  • ffurflen VAT1C os ydych yn gwaredu asedion a’ch bod wedi hawlio ad-daliadau Cyfarwyddeb arnynt

Pan fyddwch yn cael eich rhif TAW gan CThEF, gallwch gofrestru ar gyfer cyfrif TAW ar-lein (dewiswch yr opsiwn ‘Cyflwyno Ffurflenni TAW’ / ‘VAT submit returns’).

Defnyddio asiant

Gallwch benodi cyfrifydd (neu asiant) (yn Saesneg) i gyflwyno’ch Ffurflenni TAW a delio â CThEF ar eich rhan.

Os ydych yn defnyddio asiant, byddwch yn dal i allu cofrestru ar gyfer cyfrif TAW ar-lein pan fyddwch yn cael eich rhif TAW (dewiswch yr opsiwn ‘Cyflwyno Ffurflenni TAW’ / ‘VAT submit returns’).

Ar ôl i chi gofrestru

Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer TAW byddwch yn cael y canlynol:

  • rhif TAW 9 digid y mae’n rhaid i chi ei gynnwys ar bob anfoneb a godwch
  • gwybodaeth am sut i drefnu’ch cyfrif treth busnes (os nad oes gennych un eisoes) - bydd angen hyn arnoch i gael mynediad i’r gwasanaeth TAW ar-lein
  • gwybodaeth am pryd y bydd angen i chi gyflwyno’ch Ffurflen TAW gyntaf a’ch taliad cyntaf
  • cadarnhad o’ch dyddiad cofrestru (y cyfeirir ato fel y ‘dyddiad y daw’r cofrestriad i rym’)

Byddwch yn cael yr wybodaeth hon drwy’r post.

Bydd angen i chi fewngofnodi i Borth y Llywodraeth a chofrestru ar gyfer cyfrif TAW ar-lein (dewiswch yr opsiwn ‘Cyflwyno Ffurflenni TAW’ / ‘VAT submit returns’) ar ôl i chi gael yr wybodaeth hon.

Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer TAW a’ch bod yn aros i glywed yn ôl am hynny, gwiriwch pryd y gallwch ddisgwyl ateb.

Rhoi cyfrif am TAW tra ydych yn aros am eich rhif TAW

Ni allwch gynnwys TAW ar eich anfonebau hyd nes eich bod yn cael eich rhif TAW, ond gallwch godi’ch prisiau i roi cyfrif am y TAW y bydd angen i chi ei thalu i CThEF.

Enghraifft

Ar 1 Mai, rydych yn trefnu contract gwerth £100,000 i ddarparu gwasanaethau i gwsmer newydd. Rydych yn cofrestru ar gyfer TAW gan eich bod yn gwybod y byddwch yn mynd dros y trothwy yn ystod y 30 diwrnod nesaf.

1 Mai yw’r dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi dalu TAW i CThEF ar unrhyw anfonebau a godwch o’r dyddiad hwnnw.

I roi cyfrif am y TAW y bydd angen i chi ei thalu, rhowch wybod i’ch cwsmer y byddwch yn ychwanegu 20% at swm gwreiddiol y contract o £100,000 ac yna codwch anfoneb am £120,000.

Ar ôl i chi gael eich rhif TAW, ailanfonwch yr anfoneb gan ddangos y swm llawn gan gynnwys y TAW o £20,000. Nid oes angen i’ch cwsmer wneud taliad ychwanegol ond mae bellach yn gallu adennill yr £20,000 ychwanegol oddi wrth CThEF ar ei Ffurflen TAW nesaf.