Newid eich manylion

Mae’n rhaid i chi gadw’ch manylion cofrestru TAW yn gyfredol. Mae rhai newidiadau’n golygu bod yn rhaid i chi ganslo’ch cofrestriad TAW neu drosglwyddo’ch cofrestriad TAW.

Rhowch wybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) cyn pen 30 diwrnod i unrhyw newidiadau i’r canlynol:

  • enw, enw masnachu neu brif gyfeiriad eich busnes

  • y cyfrifydd neu’r asiant sy’n delio â’ch TAW

  • aelodau partneriaeth, neu enw neu gyfeiriad cartref unrhyw un o’r partneriaid

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os na rowch wybod i CThEF am newidiadau cyn pen 30 diwrnod.

Newid eich manylion banc

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF o leiaf 14 diwrnod cyn i chi newid eich manylion banc.

Os ydych yn talu’ch TAW drwy Ddebyd Uniongyrchol, bydd angen i chi roi gwybod i’ch banc hefyd. Peidiwch â gwneud hyn yn y 5 diwrnod banc cyn neu ar ôl dyddiad dyledus eich Ffurflen TAW – gallai olygu y byddwch yn talu ddwywaith.

Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol (yn agor tudalen Saesneg), mae’n rhaid i chi ysgrifennu at yr Uned Gofrestru ar gyfer Cyfrifyddu Blynyddol (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn newid manylion eich Debyd Uniongyrchol. Cofiwch gynnwys eich rhif cofrestru.

Sut i roi gwybod i CThEF

Gallwch newid eich manylion:

Mae’n rhaid i chi anfon ffurflen VAT2 i’r Gwasanaeth Cofrestru TAW (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau i bartneriaeth.

Os byddwch yn cymryd cyfrifoldebau TAW rhywun arall drosodd

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF cyn pen 21 diwrnod os byddwch yn cymryd drosodd gyfrifoldebau TAW rhywun sydd wedi marw neu sy’n sâl ac nad yw’n gallu rheoli ei faterion ei hun.

Defnyddiwch ffurflen VAT484 a’i phostio i’r cyfeiriad ar y ffurflen. Cofiwch nodi manylion dyddiad y farwolaeth neu’r dyddiad y dechreuodd y salwch.

Os byddwch yn ymuno â grŵp TAW

Os byddwch yn ymuno â grŵp TAW, yn gyntaf bydd yn rhaid i chi ganslo’ch cofrestriad TAW. Bydd angen i chi ddefnyddio rhif TAW y grŵp unwaith y byddwch wedi ymuno ag ef. Dylai’r grŵp TAW roi gwybod i CThEF am yr aelod newydd (yn agor tudalen Saesneg).

Os byddwch yn newid strwythur eich busnes

Mae angen i chi roi gwybod i CThEF os byddwch yn newid strwythur eich busnes.

Gallwch drosglwyddo’ch cofrestriad TAW os ydych am gadw’r un rhif TAW.