Gwneud cais i gofrestru grŵp TAW
Defnyddiwch ffurflen VAT50/51 er mwyn gwneud cais i gofrestru grŵp TAW.
Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am y canlynol:
- 2 neu fwy o gwmnïau
- cyrff corfforaethol eraill fel un endid gydag un rhif cofrestru TAW
Dysgwch sut i ddiwygio grŵp TAW, os ydych wedi cofrestru eisoes.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Ar gyfer pob aelod arfaethedig o’r grŵp, bydd angen y canlynol arnoch:
-
ei statws ymgorffori, rhif a dyddiad ymgorffori (os yw’n berthnasol)
-
ei rif cofrestru TAW (os yw’n berthnasol)
-
ei gyfanswm disgwyliedig o ran trosiant trethadwy a throsiant anhrethadwy – dylai hyn gynnwys cyflenwadau i gyd-aelodau o’r grŵp
-
ei leoliad
-
p’un a yw’n bodloni’r amodau rheoli yn Hysbysiad TAW 700/2 Cofrestru grwpiau ac isadrannau
-
manylion unrhyw daliadau a wnaed neu a gafwyd i’w dosbarthu ar ôl iddo ymuno â’r grŵp
Bydd yn rhaid i chi gadarnhau’r canlynol hefyd:
-
statws esemptio pob aelod arfaethedig o’r grŵp a statws esemptio’r grŵp ei hun ar ôl ei sefydlu
-
os yw’r aelod wedi cael asedion cyfalaf yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf sydd yn, neu bydd yn, cael eu prydlesu neu’n cael eu defnyddio gan aelodau’r grŵp
-
os yw’r aelod yn berchen ar unrhyw asedion cyfalaf sy’n destun y Cynllun Nwyddau Cyfalaf pan ddaw’r cais i rym
Gwneud cais i gofrestru grŵp TAW
-
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.
-
Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Mae angen i chi uwchlwytho’r VAT50/51 i’ch cofrestriad TAW ar-lein unwaith i chi gofrestru.
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Dysgwch am gofrestru grwpiau ac adrannau (yn agor tudalen Saesneg) ac am y ffurflenni y mae angen i chi eu defnyddio er mwyn gwneud cais.
Defnyddiwch ffurflen VAT56 er mwyn gwneud cais am gael newid yr aelod cynrychiadol ar gyfer grŵp TAW (yn agor tudalen Saesneg).
Defnyddiwch ffurflen VAT53 er mwyn awdurdodi asiant i ffurfio neu ddiwygio grŵp TAW (yn agor tudalen Saesneg).