Diwygio grŵp TAW
Defnyddiwch ffurflen VAT50/51 i ddiwygio neu i dynnu grŵp TAW sy’n bodoli eisoes.
Defnyddiwch y ffurflen hon i ddiwygio grŵp TAW sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys:
-
ychwanegu neu dynnu cwmnïau
-
gwneud cais i ddiddymu
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Ychwanegu aelodau at grŵp sy’n bodoli eisoes
Ar gyfer pob aelod arfaethedig o’r grŵp, bydd angen y canlynol arnoch:
- ei statws ymgorffori, rhif a dyddiad ymgorffori (os yw’n berthnasol)
- ei rif cofrestru TAW (os yw’n berthnasol)
- ei gyfanswm disgwyliedig o ran trosiant trethadwy a throsiant anhrethadwy — dylai hyn gynnwys cyflenwadau i gyd-aelodau o’r grŵp
- ei leoliad
- p’un a yw’n bodloni’r amodau rheoli yn Hysbysiad TAW 700/2 Cofrestru grwpiau ac isadrannau (yn agor tudalen Saesneg)
- manylion unrhyw daliadau a wnaed neu a gafwyd i’w dosbarthu ar ôl iddo ymuno â’r grŵp
Bydd yn rhaid i chi gadarnhau’r canlynol hefyd:
- statws esemptio pob aelod arfaethedig o’r grŵp a statws esemptio’r grŵp ei hun ar ôl ei sefydlu
- os yw’r aelod wedi cael asedion cyfalaf yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf sydd yn, neu bydd yn, cael eu prydlesu neu’n cael eu defnyddio gan aelodau’r grŵp
- os yw’r aelod yn berchen ar unrhyw asedion cyfalaf sy’n destun y Cynllun Nwyddau Cyfalaf pan ddaw’r cais i rym
Er mwyn diddymu grŵp TAW neu dynnu aelodau o grŵp sy’n bodoli eisoes
Ar gyfer pob aelod sy’n gadael y grŵp, bydd angen:
- ei gyfeirnod cofrestru TAW atodol
- ei statws ymgorffori, rhif a dyddiad ymgorffori (os yw’n berthnasol)
- ei gyfanswm disgwyliedig o ran trosiant trethadwy a throsiant anhrethadwy — dylai hyn gynnwys cyflenwadau i gyd-aelodau o’r grŵp
- i chi gadarnhau a yw unrhyw un o’r cwmnïau wedi gwneud cais am gofrestriad TAW, a rheswm pob cwmni dros adael y grŵp
- i chi roi gwybod i ni a yw’n berchen ar unrhyw asedion cyfalaf sy’n destun y Cynllun Nwyddau Cyfalaf pan ddaw’r cais i rym
- ei statws esemptio
- manylion unrhyw daliadau a wnaed neu a gafwyd am gyflenwadau sydd i’w dosbarthu ar ôl iddo adael y grŵp
- i chi roi gwybod i ni a yw’n disgwyl i dreth fewnbwn gael ei chodi arno, ar ôl gadael y grŵp, mewn perthynas â chyflenwadau a wnaed pan oedd yn dal i fod yn aelod
Diwygio grŵp TAW
Os rydych yn ymarferwr ansolfedd, ni fyddwch yn gallu defnyddio’r gwasanaeth ar-lein.
Diwygio ar-lein
Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych ID Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf).
Os ydych yn asiant, bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch ID Defnyddiwr a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif gwasanaethau asiant, neu greu cyfrif gwasanaethau asiantau.
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein
-
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.
-
Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Dysgwch am gofrestru grwpiau ac isadrannau (yn agor tudalen Saesneg) ac am y ffurflenni y mae angen i chi eu defnyddio er mwyn gwneud cais.
Defnyddiwch ffurflen VAT56 er mwyn gwneud cais am gael newid yr aelod cynrychiadol ar gyfer grŵp TAW (yn agor tudalen Saesneg).
Defnyddiwch ffurflen VAT53 er mwyn awdurdodi asiant i ffurfio neu ddiwygio grŵp TAW (yn agor tudalen Saesneg).