Dweud wrth Dŷ’r Cwmnïau am newidiadau i’ch cwmni cyfyngedig

Mae’n rhaid ichi ddweud wrth Dŷ’r Cwmnïau am newidiadau i’ch cwmni cyfyngedig, gan gynnwys:

  • cyfarwyddwyr ac ysgrifenyddion cwmni, er enghraifft penodiadau newydd, ymddiswyddiadau neu newidiadau i’w manylion personol
  • newid enw’ch cwmni
  • newid cyfeiriad eich swyddfa gofrestredig
  • newid eich dyddiad cyfeirnod cyfrifeg
  • newidiadau i’ch gwybodaeth ‘pobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)
  • newidiadau i strwythur cyfrannau’ch cwmni, er enghraifft os ydych chi’n dyroddi cyfrannau newydd
  • manylion unrhyw forgeisiau newydd sydd ganddo neu forgeisiau mae wedi’u had-dalu

I wneud rhai newidiadau mae’n bosibl y bydd angen ichi fabwysiadau penderfyniad.

Mae’n bosibl y bydd angen ichi ddweud wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) hefyd.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English)

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Bydd arnoch angen:

  • y cyfeiriad e-bost a’r cyfrinair a ddefnyddiasoch i gofrestru ar gyfer gwasanaeth ar-lein Tŷ’r Cwmnïau
  • y cod dilysu anfonodd Tŷ’r Cwmnïau atoch

Os nad ydych wedi ddefnyddio’r gwasanaeth o’r blaen

Gallwch gofrestru ar lein Bydd angen i chi roi’ch cyfeiriad e-bost a chreu cyfrinair, wedyn bydd Tŷ’r Cwmnïau’n postio cod dilysu i gyfeiriad eich swyddfa gofrestredig.

Pryd mae’r newidiadau’n dod yn weithredol

Ni fydd eich cyfeiriad yn newid yn swyddogol hyd nes i Dŷ’r Cwmnïau ei gofrestru. Bydd enw’ch cwmni’n newid pan fyddwch yn ei gofrestru.

Bydd Tŷ’r Cwmnïau’n anfon tystysgrif atoch gydag enw newydd eich cwmni a dyddiad ei gofrestru.

Ffyrdd eraill o wneud cais

Gallwch ddefnyddio meddalwedd ffeilio os oes gennych lawer o newidiadau i roi gwybod amdanynt.

Gallwch hefyd ffeilio newidiadau trwy’r post - chwiliwch am y ffurflen arnoch ei hangen a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.