Canllawiau

Cofrestru mentrau ar y cyd, grwpiau ac is-adrannau ar gyfer TAW

Sut i gofrestru grŵp o gwmnïau, is-adrannau cwmnïau, mentrau busnes ar y cyd ac unedau busnes ar gyfer TAW, a’r hyn i’w wneud os byddant yn newid ar ôl cofrestru.

Trosolwg

Y ‘person’ sy’n cael ei gofrestru ar gyfer TAW, nid y busnes. Gall ‘person’ fod yn unigolyn neu’n endid cyfreithiol. Mae pob cofrestriad TAW yn cwmpasu holl weithgareddau busnes y person cofrestredig.

‘Endid cyfreithiol’ yw endid, neu gorff, sydd â bodolaeth ar wahân ac yn wahanol i’r personau (cyfreithiol neu naturiol) sy’n ffurfio’r endid neu’r corff hwnnw.

Os yw 2 berson yn gweithio ar y cyd fel menter ar y cyd, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i’r fenter honno gofrestru ar gyfer TAW.

Gall cwmnïau cysylltiedig, neu bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig, gofrestru fel un person trethadwy — hynny yw, grŵp TAW. Mae’n bosibl y gall unedau busnes anghorfforedig gofrestru fel is-adrannau TAW.

TAW a mentrau ar y cyd

Os ydych chi a pherson arall yn bwriadu gweithio fel menter ar y cyd ar fusnes neu brosiect, mae’n bosibl y bydd CThEF yn ystyried hon yn bartneriaeth. Bydd hwn yn berson newydd ac ar wahân at ddibenion cofrestru ar gyfer TAW. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i’r fenter ar y cyd gofrestru ar gyfer TAW os yw ei throsiant dros y trothwy perthnasol.

Dysgwch ragor am gofrestru ar gyfer TAW os ydych yn berchen ar dir ar y cyd â pherson arall (yn agor tudalen Saesneg).

Cofrestru grŵp

Gall dau neu fwy o gwmnïau neu bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig, a elwir yn ‘cyrff corfforaethol’, gofrestru fel un person trethadwy neu fel grŵp TAW os yw’r canlynol yn wir:

  • mae gan bob corff brif swyddfa, neu swyddfa gofrestredig, yn y DU

  • maent o dan reolaeth gyffredin, er enghraifft, mae un neu fwy o’r cwmnïau yn is-gwmni i riant-gwmni

Cyrff penodol

Corff corfforaethol mewn grŵp TAW yw corff penodol, sy’n cyflawni neu’n gwneud cais i ymuno â grŵp TAW sy’n bodloni meini prawf penodol.

Darllenwch am gyrff penodol a’r amodau cymhwystra (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Mae grŵp TAW yn cael ei drin yn yr un modd ag un person trethadwy sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW ar ei ben ei hun. Mae’r cofrestriad yn cael ei wneud o dan enw’r ‘aelod cynrychiadol’, hynny yw, yr un sy’n gyfrifol am lenwi a chyflwyno un Ffurflen TAW, yn ogystal â gwneud taliadau TAW a chael ad-daliadau TAW, ar ran yr holl grŵp. Mae holl aelodau’r grŵp yn dal i fod yn agored, ar y cyd ac yn unigol, i unrhyw ddyledion TAW.

Sut i gofrestru eich grŵp ar gyfer TAW

Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o fusnesau gofrestru ar gyfer TAW ar-lein, gan gynnwys partneriaethau a grwpiau o gwmnïau sy’n cofrestru o dan un rhif TAW.

Gwneud cais ar-lein

Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. Cofrestru ar gyfer TAW ar-lein.

  2. Llenwi’r ffurflen VAT50/51 a’i huwchlwytho i’ch cais i gofrestru ar gyfer TAW ar-lein.

Gwneud cais drwy’r post

Os na allwch gofrestru ar gyfer TAW ar-lein, bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:  

  1. Gwirio pryd i gofrestru drwy’r post. Dim ond mewn amgylchiadau penodol y gallwch wneud hyn.

  2. Cysylltu â CThEF i ofyn am ffurflen VAT1 ar bapur.  

  3. Llenwi’r ffurflen VAT50/51.

  4. Llenwi’r ffurflen VAT1 ar bapur pan fydd yn eich cyrraedd.   

  5. Llenwi unrhyw ffurflenni ychwanegol, os bydd angen.

  6. Anfon y ffurflenni, wedi’u llenwi, at CThEF.

Mae’n bosibl y bydd eich cais i gofrestru grŵp TAW yn cael ei wrthod os bydd CThEF yn penderfynu’r canlynol: 

  • nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwystra 

  • bydd eich cofrestriad grŵp TAW yn arwain at arbed TAW neu ostyngiad sylweddol yn y TAW a dalwyd

Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi pan fydd penderfyniad ynghylch eich cofrestriad wedi’i wneud.

Defnyddio cyfrifydd

Os hoffech i’ch cyfrifydd gofrestru grŵp TAW, neu wneud newidiadau ar eich rhan i grŵp sy’n bodoli eisoes, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF gan ddefnyddio ffurflen VAT53 (yn agor tudalen Saesneg).

Ychwanegu cwmnïau at eich grŵp, neu eu tynnu o’ch grŵp

Unwaith eich bod wedi cofrestru fel grŵp, gallwch wneud y newidiadau canlynol:

  • ychwanegu aelodau eraill at grŵp sy’n bodoli eisoes

  • tynnu aelodau o grŵp sy’n bodoli eisoes

  • newid yr aelod cynrychiadol

  • diddymu’r grŵp

Gallwch ddiddymu’ch grŵp TAW ar-lein, ond bydd yn rhaid i chi anfon ffurflenni at CThEF drwy’r post ar gyfer unrhyw newidiadau eraill. Dylech ddefnyddio’r canlynol:

Ychwanegu cwmni at y grŵp TAW sydd wedi’i gaffael

Os ydych yn prynu busnes fel busnes byw, a hwnnw’n dod yn rhan o’r grŵp, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi roi cyfrif am TAW ar y pryniant hwnnw os bydd y busnes dan sylw dim ond yn cyflenwi nwyddau neu wasanaethau i gwmnïau eraill yn y grŵp.

Unedau busnes neu is-adrannau

Mae’n bosibl y gall corff corfforaethol sydd ag unedau busnes neu is-adrannau nad ydynt yn gwmnïau cyfyngedig, gofrestru pob un uned neu is-adran ar gyfer TAW ar wahân. Byddai gan bob uned neu is-adran ei rhif cofrestru TAW ei hun, a rhaid i bob un rhoi cyfrif am TAW ar wahân.

Er y bydd pob is-adran wedi cofrestru ar gyfer TAW ar wahân, bydd y corff corfforaethol yn dal i fod yn un person trethadwy, ac yn parhau i fod yn agored i unrhyw ddyledion TAW ar gyfer yr holl is-adrannau. Ni allwch gyfuno cofrestriad TAW adrannol â chofrestriad grŵp TAW.

At ddibenion cofrestriad TAW adrannol, mae corff corfforaethol yn masnachu mewn is-adrannau os yw’r canlynol yn wir:

  • mae ganddo 2 neu fwy o ganghennau, safleoedd neu adrannau yn cyflawni swyddogaethau neu fasnach wahanol mewn gwahanol ardaloedd daearyddol

  • man gan bob cangen ei system gyfrifyddu annibynnol ei hun

Yn ogystal â hyn, gall cyrff corfforaethol ond cael eu cymeradwyo ar gyfer cofrestriad TAW adrannol os yw’r canlynol yn wir:

  • mae pob is-adran wedi cofrestru, gan gynnwys yr is-adrannau nad yw eu trosiant yn mynd dros y trothwy cofrestru ar gyfer TAW

  • mae’r holl gorff corfforaethol yn gwbl drethadwy, er enghraifft, nid oes ganddo unrhyw werthiannau sydd wedi’u heithrio

  • mae gan bob is-adran yr un cyfnodau treth ar gyfer cyflwyno Ffurflenni TAW

Sut i gofrestru unedau busnes neu is-adrannau ar gyfer TAW

Er mwyn cofrestru unedau busnes neu is-adrannau (yn agor tudalen Saesneg) o’ch cwmni ar gyfer TAW, bydd angen i chi wneud y canlynol:

Ni all ceisiadau am gofrestriad adrannol gael eu gwneud ar-lein ar hyn o bryd. Mae’n rhaid i’r ffurflenni papur gael eu llenwi a’u hanfon gyda’ch dogfennau ategol at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad sydd ar frig y ffurflen.

Cyhoeddwyd ar 1 July 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 February 2024 + show all updates
  1. If you need to register for VAT by post, you will need to contact HMRC to request the paper VAT1 form and send this with your VAT50/51 form.

  2. To register a VAT group you now only need to include the VAT50/51 form with your application.

  3. The online VAT registration link has been updated.

  4. Title updated.

  5. Link to VAT registration for people who own land with another person added to 'Joint ventures and VAT' section.

  6. First published.