Canllawiau

Cofrestru ar gyfer TAW drwy’r post

Dysgwch pryd i ddefnyddio’r ffurflen bapur VAT1 i gofrestru busnes newydd neu un sy’n bodoli eisoes neu un yr ydych yn ei gymryd drosodd.

Dylai’r rhan fwyaf o fusnesau gofrestru ar gyfer TAW ar-lein — gan gynnwys partneriaethau a grŵp o gwmnïau (yn Saesneg) sy’n cofrestru o dan un rhif TAW.

Fodd bynnag, mae amgylchiadau penodol lle efallai bydd angen i fusnes gofrestru gan ddefnyddio ffurflen VAT1.

Pryd i gofrestru drwy’r post

Os na allwch gofrestru ar-lein gallwch wneud hynny drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen gais VAT1. Mae’n bosib y bydd rhai achosion lle bydd angen gwneud hyn, gan gynnwys os ydych:

  • yn gwmni partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC) sy’n cofrestru fel aelod cynrychiadol o grŵp TAW

  • yn cofrestru adrannau neu unedau busnes corff corfforedig o dan rifau TAW gwahanol

  • yn gwneud cais i gofrestru partneriaeth tramor

  • yn awdurdod lleol, yn gyngor plwyf neu’n gyngor dosbarth

  • yn gwneud cais am eithriad rhag cofrestru

Gallwch hefyd gofrestru drwy’r post os nad yw hi’n rhesymol nac yn ymarferol i chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein oherwydd:

  • eich oedran, cyflwr iechyd, anabledd neu’ch lleoliad

  • rydych yn gwrthwynebu defnyddio cyfrifiaduron oherwydd rhesymau crefyddol

  • nid oes modd i chi ddefnyddio’r rhyngrwyd

Mae’n bosibl bod rhesymau eraill gennych dros beidio â chofrestru ar-lein a bydd CThEF yn ystyried eich cais o hyd.

Sut i gofrestru drwy’r post

Mae’n rhaid i chi:

  1. Gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i wneud cais am ffurflen gais VAT1 er mwyn cofrestru.

  2. Os byddwch yn ffonio CThEF, bydd ymgynghorydd yn gofyn cwestiynau i chi i gadarnhau’ch rhesymau dros wneud cais am ffurflen bapur.

  3. Os yw’ch rheswm dros wneud cais am ffurflen bapur yn cael ei dderbyn, byddwn yn anfon un atoch. Os na fydd eich rheswm yn cael ei dderbyn, byddwch yn cael eich cyfeirio at y gwasanaeth digidol.

  4. Llenwch y ffurflen bapur pan fydd yn eich cyrraedd.

  5. Argraffwch a llenwch unrhyw ffurflenni angenrheidiol sydd wedi’u crybwyll yn yr adran ‘Ffurflenni ychwanegol’ ar y dudalen hon.

  6. Ar ôl llenwi’r ffurflen anfonwch hi at CThEF i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.

Dylech ddefnyddio’r ffurflen a anfonodd CThEF atoch yn unig.

Defnyddiwch y nodiadau hyn i lenwi’r ffurflen gofrestru VAT1.

Nodiadau i’ch helpu i lenwi ffurflen VAT1

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email different.format@hmrc.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Ffurflenni ychwanegol

Bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen ychwanegol ar gyfer rhai gweithgareddau busnes, a’i phostio ynghyd â’r ffurflen bapur VAT1.

Os ydych yn:

  • cofrestru ar gyfer TAW ac yn ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf Amaethyddol — llenwch ffurflen VAT98
  • cofrestru grŵp o gwmnïau gyda rhifau TAW ar wahân — llenwch ffurflen VAT50/51
  • fusnes yn yr UE sy’n gwerthu o bell i mewn i Ogledd Iwerddon — llenwch ffurflen VAT1A
  • mewnforio nwyddau sydd werth mwy na £90,000 i mewn i Ogledd Iwerddon o wlad yn yr UE — defnyddiwch VAT1B
  • gwaredu asedion a’ch bod wedi hawlio ad-daliadau cyfarwyddeb arnynt — llenwch ffurflen VAT1C

Bydd y ffurflen VAT1 yn rhoi gwybod i chi a oes angen i chi gwblhau un o’r ffurflenni hyn.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Fel arfer, bydd ceisiadau drwy’r post yn cymryd yn hirach i’w prosesu na cheisiadau ar-lein.

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn gofyn amdani wrth brosesu’ch ffurflen ond gall hyn achosi oedi.

Gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.

Ar ôl i chi gael eich cofrestru

Unwaith y bydd eich cais wedi’i gymeradwyo, byddwch yn cael rhif TAW 9 digid a gwybodaeth angenrheidiol arall y bydd ei hangen arnoch.

Cyhoeddwyd ar 2 October 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 April 2024 + show all updates
  1. VAT threshold for importing goods into Northern Ireland has been updated.

  2. The page has been updated because the process for applying for a paper VAT1 Application for registration form has changed.

  3. The VAT1 Notes have been updated in both English and Welsh, the only change is to question 25 on page 11.

  4. The VAT1 form has been updated so applicants only need to complete questions which apply to them.

  5. Information about including a VAT 50-51 with your application has been added to the VAT1 help notes.

  6. The information about completing the VAT2 form alongside your VAT1 application has been updated. Guidance and forms have also been updated with information about completing the VAT1.

  7. Information about how to register for VAT by post using the VAT1 form has been updated.

  8. The VAT1 form has been updated to include the VAT50/51 form with your application.

  9. To register a VAT group you now only need to include the VAT50/51 form with your application.

  10. Information has been updated about registering for VAT by post. Guidance and forms have also been updated with information about registering for VAT if you're moving goods into Northern Ireland from 1 January 2021.

  11. We have added an updated VAT1 Welsh form and notes

  12. English VAT1 form and notes have been updated

  13. Added translation