Ffurflen

Gwneud cais am gofrestriad grŵp TAW neu newid eich manylion

Defnyddiwch ffurflen VAT50/51 er mwyn gwneud cais i gofrestru neu newid grŵp TAW sy’n bodoli eisoes.

Dogfennau

Gwneud cais am gofrestriad grŵp TAW neu newid eich manylion

Cael gwybod pa mor hygyrch yw ein ffurflenni (yn Saesneg)

Manylion

Defnyddiwch y ffurflen hon er mwyn:

  • gwneud cais i gofrestru:

    • 2 neu fwy o gwmnïau
    • cyrff corfforaethol eraill fel un endid gydag un rhif cofrestru TAW
  • ychwanegu cwmnïau at grŵp TAW sy’n bodoli eisoes neu dynnu cwmnïau oddi wrth grŵp TAW sy’n bodoli eisoes
  • gofyn am gael diddymu grŵp TAW sy’n bodoli eisoes

Mae angen i chi uwchlwytho’r VAT50/51 i’ch cofrestriad TAW ar-lein.

Cyn i chi ddechrau

Os ydych yn defnyddio porwr hŷn, er enghraifft, Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr (yn Saesneg).

Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol. Dylech gasglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau llenwi’r ffurflen.

Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig

Cael rhagor o wybodaeth am sut i wneud newidiadau i grŵp TAW sy’n bodoli eisoes (yn Saesneg).

Dysgwch am gofrestru grwpiau ac adrannau (yn Saesneg) ac am y ffurflenni y mae angen i chi eu defnyddio er mwyn gwneud cais.

Defnyddiwch ffurflen VAT56 er mwyn gwneud cais am gael newid yr aelod cynrychiadol ar gyfer grŵp TAW (yn Saesneg).

Defnyddiwch ffurflen VAT53 er mwyn awdurdodi asiant i ffurfio neu ddiwygio grŵp TAW (yn Saesneg).

Cyhoeddwyd ar 13 September 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 June 2022 + show all updates
  1. The 'who controls the group' section of form VAT50/51 has been updated.

  2. A Welsh version of the guide has been added.

  3. First published.