Ffurflen

Cofrestru ar gyfer TAW os ydych yn gwneud caffaeliadau perthnasol i mewn i Ogledd Iwerddon

Defnyddiwch ffurflen VAT1B i gofrestru ar gyfer TAW yn y DU os ydych yn caffael nwyddau o wladwriaethau’r UE, ac yn dod â nhw i mewn i Ogledd Iwerddon, ac rydych wedi pasio’r trothwy caffael.

Dogfennau

Cais i gofrestru — caffaeliadau i mewn i Ogledd Iwerddon (VAT1B)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Nodiadau ar lenwi ffurflen VAT1B

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi ffurflen VAT1 (cais am gofrestriad). Bydd angen i chi gysylltu â CThEF i wneud cais am y ffurflen hon. Dylech ei llenwi gan ddefnyddio nodiadau i helpu, a’i dychwelyd gyda ffurflen VAT1B.

Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Os ydych chi’n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o’r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi’n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi’n ei defnyddio.

Defnyddiwch ffurflen VAT1B i gofrestru ar gyfer TAW yn y DU os ydych yn caffael nwyddau o aelod-wladwriaethau’r UE ac yn dod â’r nwyddau hynny i mewn i Ogledd Iwerddon.

Anfonwch eich ffurflen gais wedi’i llenwi i:

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM
HMRC
BX9 1ST

Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig

Hysbysiad 700/1: tanwyddau modur a gwresogi ― gwybodaeth gyffredinol a rhoi cyfrif am Doll Ecséis a TAW (yn Saesneg) — Defnyddiwch yr hysbysiad hwn i ddysgu pryd a sut i gofrestru ar gyfer TAW a’r trefniadau cofrestru y bydd angen i chi eu dilyn.

Cofrestru ar gyfer TAW
― dysgwch sut i gofrestru’ch busnes ar gyfer TAW. Gallwch ychwanegu manylion hyd at 10 o bartneriaid wrth i chi wneud cais ar-lein.

Cyhoeddwyd ar 4 April 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 November 2023 + show all updates
  1. If you need to complete a paper VAT1 form, you will need to contact HMRC to request the paper version.

  2. Welsh translation added.

  3. You must complete a VAT1 form and submit it with your VAT1B form when you're registering for VAT, if you're making relevant acquisitions into Northern Ireland from 1 January 2021.

  4. The address to send your completed application to has been updated

  5. Added translation